Search Legislation

Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 676 (Cy.73)

PYSGODFEYDD, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

12 Mawrth 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1), 6(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 April 2002.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru (fel y mae wedi'i diffinio yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3) yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “cimwch” (“lobster”) yw cimwch o'r rhywogaeth Homarus gammarus;

  • ystyr “cimwch coch” (“crawfish”) yw cimwch coch o'r rhywogaeth Palinurus elephas a Palinurus mauritanicus;

  • ystyr “llabed” (“flap”), mewn perthynas â chynffon cimwch neu gimwch coch, yw unrhyw ran o dair llabed ganolog ffan cynffon y cimwch neu'r cimwch coch gan gynnwys y telson gyda'r anws a'r iwropod de a chwith yn union yn ymyl y telson;

  • ystyr “hollt V” (“V notch”) yw marc ar siâp y llythyren “V” sy'n 5mm o leiaf o ddyfnder wedi'i dorri yn un o leiaf o iwropodau ffan cynffon cimwch neu gimwch coch, a phig y llythyren “V” wedi'i osod i mewn o ymyl y llabed;

  • ystyr “wedi'i lurgunio” (“mutilated”), mewn perthynas â chimwch neu gimwch coch, yw cimwch neu gimwch coch sydd wedi'i lurgunio mewn modd sy'n cuddio hollt V.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “unrhyw orchymyn cyfatebol” yw unrhyw orchymyn arall wedi'i wneud o dan adrannau 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sy'n gymwys i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gwahardd pysgota am y canlynol, neu eu glanio, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig:

(i)cimwch wedi'i lurgunio,

(ii)cimwch coch wedi'i lurgunio,

(iii)unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn, pennir “y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru” yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987(4) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honNo. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau nad ydynt i'w trin felly, yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo ym mhob achos.

Gwahardd pysgota

3.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i bysgota am y canlynol—

(a)cimwch wedi'i lurgunio,

(b)cimwch coch wedi'i lurgunio, neu

(c)unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.

(2Mae pysgota gan gwch pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru wedi'i wahardd.

(3Mae pysgota gan gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru wedi'i wahardd.

Gwahardd glanio

4.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i'r canlynol—

(a)cimwch wedi'i lurgunio,

(b)cimwch coch wedi'i lurgunio, neu

(c)unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V;

sydd wedi eu dal.

(2Mae glanio unrhyw bysgod môr y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt yng Nghymru oddi ar gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd wedi'i wahardd.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

5.—(1Er mwyn gorfodi adrannau 5 a 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i'w gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fyddai yn ei gwneud yn hwylus i fynd ar fwrdd y cwch.

(3Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol—

(a)caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt, neu'n ymwneud â'r personau sydd ar fwrdd y cwch, sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;

(c)er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1), 5(6) neu 6(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(5) fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;

(ch)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynghylch y tramgwydd;

ond fydd dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(4Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn, neu unrhyw orchymyn cyfatebol, wedi'i dorri ar unrhyw adeg o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain, fe gaiff y swyddog—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yno;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd angen, neu fod angen, cadw'r cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig arall i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwahardd cychod pysgota Prydeinig perthnasol a chychod pysgota'r Alban rhag pysgota am gimychiaid a chimychiaid cochion y mae arnynt hollt V, neu rai sydd wedi'u llurgunio mewn modd sy'n cuddio hollt V, a'u glanio (erthyglau 3 a 4). Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol sy'n gyfagos at Gymru.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi pwerau gorfodi pellach i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn perthynas â chychod pysgota perthnasol o Brydain a chychod pysgota o'r Alban yn y môr sy'n gyfagos at Gymru (erthygl 5). Mae ganddynt bwerau yn barod o dan adran 15(2) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 (“Deddf 1967”), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, i gipio unrhyw bysgod y mae tramgwydd wedi'i gyflawni, neu wrthi yn cael ei gyflawni, mewn perthynas â hwy o dan adrannau 5(1) a (6) o Ddeddf 1967.

Yn rhinwedd adrannau 5(1) a 6(5), yn y drefn honno, o Ddeddf 1967, tramgwydd yw pysgota am gimychiaid neu gimychiaid cochion o'r fath neu eu glanio yn groes i'r Gorchymyn hwn. Mae adran 5(6) o'r Ddeddf honno yn darparu bod rhaid i unrhyw bysgod sy'n cael eu dal yn groes i'r Gorchymyn gael eu dychwelyd i'r môr ar unwaith (yn ddarostyngedig i adran 9 o Ddeddf 1967). Os na chydymffurfir ag is-adran (6), mae adran 5(7) yn darparu bod meistr a pherchennog y cwch pysgota, a'r siartrwr (os oes un), bob un yn euog o dramgwydd. Rhagnodir cosbau gan adran 11 o Ddeddf 1967, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1991.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud drwy ddibynnu ar Erthygl 46.1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1), ynghylch cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i ddiogelu rhai bach organeddau morol, sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau i gymryd mesurau cenedlaethol penodol i gadw a rheoli stociau.

(1)

1967, p.84. Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniad o “the Ministers”, fel y'i diwygiwyd gan adrannau 19(2)(d) a 45(b) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29). Amnewidiwyd adran 5(1) gan adran 22(1) o Ddeddf 1981. Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgota 1976 (p.86), Atodlen 2, paragraff 16(1). Diwygiwyd adrannau 6(1) a 15(3) gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820), Atodlen 2, paragraff 43(2) a (6) yn y drefn honNo. Addaswyd adrannau 5(1) a 6 o ran eu heffaith gan adran 33(1) o Ddeddf 1981.

(2)

Trosglwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) holl swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan y Ddeddf hon (ac eithrio swyddogaethau'r Bwrdd Masnach mewn perthynas ag adran 8) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.

(5)

Diwygiwyd adran 5(6) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 22(2). Diwygiwyd adran 6(5) gan adran 23(3) o Ddeddf 1981. Yn rhinwedd adran 5(7) o Ddeddf 1967 os na chydymffurfir ag adran 5(6) yn achos unrhyw gwch pysgota, mae'r meistr, y perchennog a'r siartrwr (os oes un) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (6).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources