Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota5

1

Er mwyn gorfodi adrannau 5 a 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

2

Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i'w gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fyddai yn ei gwneud yn hwylus i fynd ar fwrdd y cwch.

3

Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol—

a

caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

b

caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt, neu'n ymwneud â'r personau sydd ar fwrdd y cwch, sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;

c

er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1), 5(6) neu 6(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19675 fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;

ch

os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynghylch y tramgwydd;

ond fydd dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

4

Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn, neu unrhyw orchymyn cyfatebol, wedi'i dorri ar unrhyw adeg o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain, fe gaiff y swyddog—

a

ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

b

cadw'r cwch yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yno;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd angen, neu fod angen, cadw'r cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig arall i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.