- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Er mwyn gorfodi adrannau 5 a 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i'w gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fyddai yn ei gwneud yn hwylus i fynd ar fwrdd y cwch.
(3) Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol—
(a)caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt, neu'n ymwneud â'r personau sydd ar fwrdd y cwch, sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c)er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1), 5(6) neu 6(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1) fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;
(ch)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynghylch y tramgwydd;
ond fydd dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(4) Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn, neu unrhyw orchymyn cyfatebol, wedi'i dorri ar unrhyw adeg o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain, fe gaiff y swyddog—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a
(b)cadw'r cwch yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yno;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd angen, neu fod angen, cadw'r cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig arall i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Diwygiwyd adran 5(6) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 22(2). Diwygiwyd adran 6(5) gan adran 23(3) o Ddeddf 1981. Yn rhinwedd adran 5(7) o Ddeddf 1967 os na chydymffurfir ag adran 5(6) yn achos unrhyw gwch pysgota, mae'r meistr, y perchennog a'r siartrwr (os oes un) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (6).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: