Dehongli2.
(1)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cimwch” (“lobster”) yw cimwch o'r rhywogaeth Homarus gammarus;
ystyr “cimwch coch” (“crawfish”) yw cimwch coch o'r rhywogaeth Palinurus elephas a Palinurus mauritanicus;
ystyr “llabed” (“flap”), mewn perthynas â chynffon cimwch neu gimwch coch, yw unrhyw ran o dair llabed ganolog ffan cynffon y cimwch neu'r cimwch coch gan gynnwys y telson gyda'r anws a'r iwropod de a chwith yn union yn ymyl y telson;
ystyr “hollt V” (“V notch”) yw marc ar siâp y llythyren “V” sy'n 5mm o leiaf o ddyfnder wedi'i dorri yn un o leiaf o iwropodau ffan cynffon cimwch neu gimwch coch, a phig y llythyren “V” wedi'i osod i mewn o ymyl y llabed;
ystyr “wedi'i lurgunio” (“mutilated”), mewn perthynas â chimwch neu gimwch coch, yw cimwch neu gimwch coch sydd wedi'i lurgunio mewn modd sy'n cuddio hollt V.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “unrhyw orchymyn cyfatebol” yw unrhyw orchymyn arall wedi'i wneud o dan adrannau 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sy'n gymwys i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gwahardd pysgota am y canlynol, neu eu glanio, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig:
(i)
cimwch wedi'i lurgunio,
(ii)
cimwch coch wedi'i lurgunio,
(iii)
unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.