Gwybodaeth9
1
Rhaid i fuddiolwr roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani o dro i dro.
2
Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth o'r fath, rhaid i'r buddiolwr ei rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n rhesymol arno.
3
Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn gwybodaeth o'r fath, caiff ei rannu ag Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn Rheoliad 11 isod.