Y cymhwyster a cheisiadau i gael taliadau cymorth ariannol6

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod ac i reoliad 15, bydd buddiolwr yn gymwys i gael taliad cymorth ariannol.

2

Ni thelir unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â chais a gymeradwywyd oni bai bod y canlynol wedi'u rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol—

a

tystiolaeth foddhaol bod swm y gwariant y gwneir cais am gymorth ariannol ar ei gyfer wedi'i dynnu, gan gynnwys manylion unrhyw ddisgownt a gafodd y ceisydd; a

b

tystiolaeth foddhaol bod y gweithrediad a gymeradwywyd, neu'r rhan o'r gweithrediad y mae'r taliad yn gysylltiedig â hi wedi'u cyflawni'n briodol.