- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth Gymunedol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol—
(a)wrthod cymeradwyo cais at ddibenion cael cymorth ariannol; neu
(b)ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol a hynny naill ai yn ddiamod neu o dan unrhyw amodau y gall benderfynu arnynt.
(2) Gyda chydsyniad y ceisydd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio cymeradwyaeth o dro i dro drwy ddiwygio unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu drwy ychwanegu amodau.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)hysbysu'r ceiswyr yn ysgrifenedig am ganlyniad eu ceisiadau;
(b)hysbysu buddiolwyr am unrhyw amodau y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu sydd wedi'i hamrywio yn unol â'r rheoliad hwn.
(4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu ceisydd ei fod wedi gwrthod cymeradwyo cais neu'n hysbysu buddiolwr ei fod wedi rhoi cymeradwyaeth o dan amodau neu wedi amrywio telerau cymeradwyaeth sydd eisoes yn bodoli, rhaid iddo roi i bob ceisydd neu fuddiolwr o'r fath—
(a)rhesymau ysgrifenedig am ei benderfyniad; a
(b)cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o fewn unrhyw amser sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ac sydd wedi'i hysbysu i'r ceisydd neu'r buddiolwr.
(5) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael unrhyw sylwadau yn unol â pharagraff (4), rhaid iddo eu hystyried a chaiff gadarnhau ei benderfyniad neu roi penderfyniad gwahanol yn ei le.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd neu'r buddiolwr yn ysgrifenedig am unrhyw benderfyniad a gadarnheir neu y rhoddir un arall yn ei le yn unol â pharagraff (5).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: