Ceisiadau4
1
Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar unrhyw ffurf, mewn unrhyw fodd ac ar unrhyw adeg, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a chan gael eu cyflwyno mewn unrhyw gyfeiriad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt o dro i dro.
2
Heb ragfarnu paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, bennu categorïau penodol o weithrediad perthnasol y gall ceisiadau gael eu gwneud mewn perthynas â hwy dros unrhyw gyfnod o amser a bennir ganddo.
3
Rhaid i'r ceiswyr roi'r holl wybodaeth a'r holl ddogfennau pellach sy'n ymwneud â'r cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdanynt.