Cymorth Ariannol3

1

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth Gymunedol a'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth Cymunedol ac, os yw'n penderfynu felly, grant i unrhyw berson—

a

sydd wedi gwneud cais, er mwyn cael cymorth ariannol o'r fath, yn unol â rheoliad 4, am gymeradwyaeth—

i

i weithrediad perthnasol; a

ii

i wariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â'r gweithrediad hwnnw; a

b

y mae ei gais wedi'i gymeradwyo felly.

2

Wrth benderfynu o dan baragraff (1)—

a

a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol; a

b

swm unrhyw grant o'r fath y mae wedi penderfynu ei wneud,

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol ac, yn benodol, i'r terfynau ar gyfanswm cyfranogiad ariannol y Wladwriaeth fel y'u nodir yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor 2792/1999.