Adennill llog16

1

Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu adennill unrhyw swm o dan reoliad 15, caiff hefyd adennill llog ar y swm hwnnw, drwy wneud cais amdano, yn ôl cyfradd o un pwynt canran uwchlaw LIBOR wedi'i gyfrifo fesul dydd am y cyfnod yn dechrau ar y diwrnod y talwyd y cymorth ariannol o dan sylw nes i'r Cynulliad Cenedlaethol adennill y swm.

2

Yn achos unrhyw swm sydd yn adennilladwy o dan reoliad 15(4) uchod, fe gyfrifir llog o dan baragraff 16(1) uchod nid o'r dyddiad y talwyd y cymorth ariannol arno, ond o'r dyddiad y digwyddodd yr achlysur a achosodd yr adennill.

3

Mewn unrhyw achos ynglyn ag adennill llog o'r fath, bydd tystysgrif a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddangos y cyfraddau llog sy'n gymwys, swm y llog o'r fath sy'n enilladwy a'r cyfnod y cyfrifir y llog ar ei gyfer yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r materion hynny oni phrofir i'r gwrthwyneb.