Lleihau'r cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill15
1
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg ar ôl iddo gymeradwyo cais,—
a
na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw amodau perthnasol;
b
nad oedd y cais a gymeradwywyd, (neu unrhyw ran ohono), yn gais (neu ran) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i'w wneud;
c
bod y buddiolwr, neu gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr—
i
wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliad 10 neu o dan reoliad 9, 12 neu 13(5) uchod;
ii
wedi rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer y pwerau o dan reoliad 13 uchod; neu
iii
wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i roi'r gymeradwyaeth neu i wneud taliad sy'n berthnasol i'r gymeradwyaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol;
ch
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i gychwyn cyn y dyddiad y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ganiatâd ysgrifenedig iddo gychwyn;
d
nad yw'r gweithrediad a gymeradwywyd y tynnwyd y gwariant mewn perthynas ag ef wedi'i gyflawni neu ei fod heb ei gyflawni'n briodol neu yn unol â'r gymeradwyaeth sy'n ymwneud ag ef;
dd
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i ohirio neu yn cael ei ohirio yn afresymol y tu hwnt i'r terfynau amser a nodwyd yn yr hysbysiad ar gyfer y gymeradwyaeth neu'n annhebyg o gael ei gwblhau;
e
na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan y buddiolwr;
f
bod y Comisiwn wedi penderfynu atal neu adennill y cymorth Cymunedol yn unol ag Erthyglau 38 neu 39 o Reoliad y Cyngor 1260/1999;
ff
mewn unrhyw achos o gymorth ariannol ar gyfer adeiladu neu foderneiddio cwch bysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) isod wedi digwydd cyn pen deng mlynedd ar ôl cwblhau adeiladu'r cwch neu bum mlynedd ar ôl cwblhau moderneiddio'r cwch; neu
g
mewn unrhyw achos o gymorth ariannol i unrhyw weithrediad perthnasol heblaw adeiladu neu foderneiddio cwch bysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (3) isod wedi digwydd cyn pen chwe mlynedd o brynu'r offer perthnasol neu ddeng mlynedd o brynu'r safle neu gwblhau'r gweithfeydd,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r gymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu caiff ostwng neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd ac, os oes taliad cymorth ariannol wedi'i wneud, caiff adennill, ar gais, swm sy'n gyfartal â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r taliad sydd wedi'i wneud.
2
Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (i) o baragraff (1) uchod—
a
colli'r cwch yn gyfan gwbl;
b
difrodi neu ddinistrio unrhyw offer perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal;
c
morgais ar y cwch (heblaw morgais sy'n cael ei greu i godi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r cwch, sef morgais a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo gael ei wneud);
ch
defnyddio'r cwch yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy;
d
gwaredu'r cwch neu unrhyw ran ohoni, ei hinjan neu unrhyw ran ohoni neu unrhyw offer perthnasol neu offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar y cwch neu mewn cysylltiad ag ef, boed drwy werthu neu drwy ddull arall; neu
dd
bod y cwch yn peidio â bod yn cwch bysgota Cymunedol.
3
Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (g) o baragraff (1) uchod—
a
colli'r offer perthnasol yn gyfan gwbl;
b
difrodi neu ddinistrio unrhyw offer, safle, neu weithfeydd perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal;
c
creu hawl mewn gwarant dros yr offer, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol (heblaw hawl mewn gwarant sy'n cael ei chreu er mwyn codi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio yr offer perthnasol, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol, sef hawl mewn gwarant a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddi gael ei gwneud);
ch
defnyddio'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy; neu
d
gwaredu'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol neu unrhyw ran ohonynt, boed drwy werthu neu drwy ddull arall.
4
Os yw is-baragraff (ff) neu (g) o baragraff (1) yn gymwys ac nad oes dim o'r is-baragraffau eraill yn y paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yr uchafswm y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei adennill oddi ar fuddiolwr yn unol â pharagraff (1) yn swm sy'n hafal i'r rhan o'r cyfnod o ddeng mlynedd, neu yn ôl fel y digwydd, o'r cyfnod o bum neu chwe mlynedd sydd heb ddod i ben, wedi'i gyfrifo fel swm cyfrannol o gyfanswm y taliad cymorth ariannol.
5
Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
a
rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau am y cam y bwriedir ei gymryd;
b
rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac
c
ystyried unrhyw sylwadau.