Pwerau swyddogion awdurdodedig13

1

Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol arfer y pwerau a bennir yn y rheoliad hwn er mwyn—

a

dilysu cywirdeb unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a geir mewn cais, a gynhwysir gyda chais neu a roddir yn unol â rheoliad 6 neu 9;

b

darganfod a ddylai unrhyw wariant y gwneir cais am gymorth ariannol mewn perthynas ag ef gael ei gymeradwyo, ac i ba raddau;

c

darganfod a gydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan fuddiolwr o dan reoliad 8 ac ag unrhyw amodau perthnasol, ac i ba raddau;

ch

darganfod a oes unrhyw swm o gymorth ariannol yn daladwy ac i ba raddau, neu a ddylai gael ei ostwng, ei ddal yn ôl neu ei adennill, ac i ba raddau, o dan reoliad 15 isod;

d

darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 17 wedi'i gyflawni neu wrthi'n cael ei gyflawni; neu

dd

darganfod fel arall, yn unol ag Erthygl 38 o Reoliad 1260/1999, a yw'r cymorth Cymunedol yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ac yn gywir, a bydd y pwerau hyn yn arferadwy at y dibenion hyn ar hap, i archwilio yn y fan a'r lle neu i archwilio samplau yn ogystal â thrwy gyfeirio at amgylchiadau penodol achosion unigol neu at yr amgylchiadau a amheuir mewn achosion unigol.

2

Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw safle, heblaw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, sy'n safle perthnasol neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn safle perthnasol.

3

Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i unrhyw safle yn unol â pharagraff (2) uchod archwilio'r safle hwnnw, unrhyw offer sy'n offer perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn offer perthnasol ac unrhyw ddogfennau ar y safle hwnnw sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu eu bod yn ddogfennau perthnasol.

4

Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw berson arall y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol a bydd rheoliadau 12 a 14 a pharagraffau (2), (3) a (5) o'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â'r personau eraill hynny wrth iddynt weithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog awdurdodedig fel pe baent yn swyddogion awdurdodedig.

5

Caiff swyddog awdurdodedig—

a

ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr neu i gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â chais neu â gweithrediad a gymeradwywyd y bydd y swyddog yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

b

archwilio unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os oes unrhyw ddogfennau o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio;

c

ei gwneud yn ofynnol bod copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu o ddarnau ohonynt, yn cael eu cyflwyno; neu

ch

cymryd a chadw, am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen berthnasol o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu y gall fod eu hangen yn dystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn neu y gall fod yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu eu bod ar gael i'r Comisiwn yn unol ag Erthygl 38(6) o Reoliad 1260/1999 ac, os oes unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd, a honno'n ffurf y mae'n weladwy ac yn ddarllenadwy ynddi.

6

Yn y rheoliad hwn—

  • mae “safle” yn cynnwys unrhyw long neu gerbyd arall; ac

  • mae “safle perthnasol” yn golygu unrhyw safle y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn cyfeirio ato neu lle cedwir dogfennau perthnasol neu offer perthnasol.