Arfer swyddogaethau gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr11
1
Heb ragfarnu adran 2(5) o Ddeddf Pysgodfeydd 198114 na'i allu i arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ei hun, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn naill ai yn gyffredinol neu mewn perthynas â chymorth ariannol mewn cysylltiad â chategorïau penodol o weithrediad perthnasol a chaiff roi cyfarwyddiadau o dro i dro ynghylch dull arfer swyddogaethau o'r fath.
2
Rhaid i unrhyw swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn y gofynnwyd i'r Awdurdod eu harfer yn unol â pharagraff 1 gael eu cyflawni gan aelodau o'r Awdurdod a benodir o dan adran 1(3) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac nid gan unrhyw aelodau eraill.
3
Rhaid i'r Awdurdod gadw unrhyw gyfrifon mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wneir ganddo neu iddo yn unol ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu cyfarwyddo a rhaid i'r Awdurdod baratoi datganiad o'r cyfrifon mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ar unrhyw ffurf, gan roi unrhyw wybodaeth, a gyfarwyddir.
4
Rhaid i'r cyfrifon am bob blwyddyn ariannol, yn unol â chynllun archwilio a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu harchwilio gan y personau a benodir mewn perthynas â'r flwyddyn honno i archwilio cyfrifon eraill yr Awdurdod a rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r datganiadau o'r cyfrifon i'r archwilwyr.
5
Rhaid i'r archwilwyr gwblhau archwilio'r cyfrifon ac anfon copïau o'r datganiad o'r cyfrifon ac o'u hadroddiad ar y cyfrifon ac ar y datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn cyfeirio ati a hynny heb fod yn hwyrach na 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn honno beth bynnag.
6
Bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r Rheolwr ac Archwiliwr Cyffredinol hawl i archwilio'r holl lyfrau, papurau a chofnodion eraill sydd gan yr Awdurdod ynghylch y cyfrifon y mae'n ofynnol eu cadw yn unol â'r rheoliad hwn, neu â materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt.