Search Legislation

Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Arfer swyddogaethau gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr

11.—(1Heb ragfarnu adran 2(5) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1) na'i allu i arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ei hun, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn naill ai yn gyffredinol neu mewn perthynas â chymorth ariannol mewn cysylltiad â chategorïau penodol o weithrediad perthnasol a chaiff roi cyfarwyddiadau o dro i dro ynghylch dull arfer swyddogaethau o'r fath.

(2Rhaid i unrhyw swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn y gofynnwyd i'r Awdurdod eu harfer yn unol â pharagraff 1 gael eu cyflawni gan aelodau o'r Awdurdod a benodir o dan adran 1(3) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac nid gan unrhyw aelodau eraill.

(3Rhaid i'r Awdurdod gadw unrhyw gyfrifon mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wneir ganddo neu iddo yn unol ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu cyfarwyddo a rhaid i'r Awdurdod baratoi datganiad o'r cyfrifon mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ar unrhyw ffurf, gan roi unrhyw wybodaeth, a gyfarwyddir.

(4Rhaid i'r cyfrifon am bob blwyddyn ariannol, yn unol â chynllun archwilio a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu harchwilio gan y personau a benodir mewn perthynas â'r flwyddyn honno i archwilio cyfrifon eraill yr Awdurdod a rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r datganiadau o'r cyfrifon i'r archwilwyr.

(5Rhaid i'r archwilwyr gwblhau archwilio'r cyfrifon ac anfon copïau o'r datganiad o'r cyfrifon ac o'u hadroddiad ar y cyfrifon ac ar y datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn cyfeirio ati a hynny heb fod yn hwyrach na 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn honno beth bynnag.

(6Bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r Rheolwr ac Archwiliwr Cyffredinol hawl i archwilio'r holl lyfrau, papurau a chofnodion eraill sydd gan yr Awdurdod ynghylch y cyfrifon y mae'n ofynnol eu cadw yn unol â'r rheoliad hwn, neu â materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources