(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol fel y'i diffinnir a'i rhestri yn rheoliad 2 (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth (“cymorth Cymunedol”) o'r Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd (“FIFG”) mewn perthynas â chategorïau penodol o fuddsoddiadau, projectau a gweithredoedd (“gweithrediadau perthnasol”) yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu ac yn y sector o'r diwydiant sy'n prosesu ac yn marchnata ei gynhyrchion.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grantiau a chymorth Cymunedol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) tuag at wariant mewn perthynas â gweithrediadau perthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau hyn a'r ddeddfwriaeth Gymunedol, ac ar gyfer rheoleiddio'r taliadau hyn.
Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 3, 4 a 5) yn nodi gweithdrefn ar gyfer gwneud cais am gymeradwyo gweithrediadau perthnasol a gwariant a chymeradwyo'r rheiny at ddibenion talu cymorth Cymunedol ac, os penderfynir felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, talu grant yn ychwanegol at y cymorth hwnnw (gan gyfeirio at gymorth a grant o'r fath gyda'i gilydd fel “cymorth ariannol”). Wrth benderfynu a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol, ac, os yw'n penderfynu talu'r grant hwnnw, faint ohono, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol (rheoliad 3).
Ymhlith pethau eraill mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn mynnu bod yr Aelod-wladwriaethau yn cyrraedd lefel benodol o gyfranogiad ariannol er mwyn galluogi'r gweithrediadau perthnasol i fod yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, ac mae'r lefelau cyfranogi angenrheidiol wedi'u nodi yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd (OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10).
Mae taliadau cymorth ariannol yn dibynnu ar ddarparu tystiolaeth ddigonol o'r gwariant a dynnwyd a bod y gweithrediad perthnasol wedi'i gyflawni'n briodol (rheoliad 6).
Gwneir darpariaeth ynghylch dull talu'r cymorth ariannol (rheoliad 7) a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol bod person y mae ei gais wedi'i gymeradwyo yn rhoi ymrwymiadau (rheoliad 8).
Gwneir darpariaeth (rheoliad 9) i bersonau y mae eu ceisiadau am gymorth ariannol wedi'u cymeradwyo (“buddiolwyr”) roi unrhyw wybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ag y bydd yn gofyn yn rhesymol amdani o dro i dro ac (o dan reoliad 10) iddynt gadw cofnodion penodol am gyfnod o chwe blynedd (sydd yn gyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei estyn).
Gwneir darpariaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol o dro i dro i Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (yr “Awdurdod”) arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn ac mewn perthynas â chadw cyfrifon a chofnodion gan yr Awdurdod os yw wedi rhoi neu wedi cael taliadau wrth arfer unrhyw swyddogaethau o'r fath (rheoliad 11).
Pan ofynnir iddynt, mae'n ofynnol i geiswyr roi cymorth i swyddogion awdurdodedig y Cynulliad Cenedlaethol, sy'n cael pwerau mynediad a phwerau archwilio at ddibenion penodedig (rheoliadau 12 i 14).
Darperir ar gyfer lleihau cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill o dan amgylchiadau penodol (rheoliadau 15 a 16).
Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 17 a 18) yn creu tramgwyddau ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag erlyn tramgwyddau mewn perthynas â datganiadau ffug a wneir i sicrhau cymorth ariannol, mewn perthynas â methu â chadw cofnodion neu â rhoi gwybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â methu â chydymffurfio â cheisiadau a wneir gan swyddogion awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau mynediad a'u pwerau archwilio ac mewn perthynas â rhwystro swyddogion o'r fath wrth iddynt arfer y pwerau hynny. Rhagnodir cosbau am y tramgwyddau hyn.
Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Mae copïau o Benderfyniad Comisiwn Rhif C(2000) 2049 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Rhaglennu Sengl Amcan Un ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac o Benderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1 (y cyfeirir at bob un ohonynt yn rheoliad 2) ar gael i'w harchwilio, ynghyd â'r Dogfennau Rhaglennu Sengl yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.