Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw y bydd ardal yng nghymuned Llanhari yn Rhondda Cynon Taf yng nghyffiniau dau eiddo o'r enw “Brynderwen” a “Two Hoots” (a ddangosir â llinellau croes du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Penllyn ym Mro Morgannwg ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Mae printiau o'r map ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Rhondda Cynon Taf, The Pavillions, Parc Busnes Cambrian, Clydach Vale, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf ac yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Ffordd Holton Y Barri, Bro Morgannwg ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau digwyddol canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion fel hyn a'u gweithredu.