xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 652 (Cy.69)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002

Wedi'u gwneud

5 Mawrth 2002

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) sef adroddiad dyddiedig Mawrth 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe (yng nghymunedau Pontardawe a Chlydach yn ardal Pontardawe Road) ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;

a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;

a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebannws a Chlydach) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

Newid Prif Ardaloedd ac Ardaloedd Cymunedau

3.  Caiff y rhan honno o Gastell-nedd Port Talbot sydd yn ward Trebannws yng nghymuned Pontardawe ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau (sy'n cynnwys yr eiddo sy'n dwyn rhifau 162 i 172 Pontardawe Road) ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o ward Clydach yn Abertawe.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rhodri Morgan

Prif Weinidog

5 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw y bydd ardal yng nghymuned Pontardawe yng Nghastell-nedd Port Talbot (a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Clydach yn Abertawe. Bydd hyn yn effeithio ar yr eiddo sy'n dwyn rhifau 162 i 172 Pontardawe Road.

Mae printiau o'r map ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot ac yn swyddfeydd Dinas a Sir Abertawe, Neuadd y Sir, Oystermouth Road, Abertawe ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau digwyddol, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion fel hyn a'u gweithredu.

(3)

O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.