Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 651 (Cy.68)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002

Wedi'i wneud

5 Mawrth 2002

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) sef adroddiad dyddiedig Chwefror 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Blaenau Gwent a Chaerffili yng nghymunedau Tredegar a Rhymni yn ardal Tafarnau-bach ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;

a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;

a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Blaenau Gwent” (“Blaenau Gwent”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;

  • ystyr “Caerffili” (“Caerphilly”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;

  • ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “Map o Orchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002” a sydd wedi'i hadneuo yn unol a Rheoliadau 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd (3).

Newid Ardaloedd Cymunedau

3.  Caiff y rhan honno o gymuned Rhymni sydd yng Nghaerffili ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Tredegar ym Mlaenau Gwent.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

5 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw y bydd ardal Tafarnau-bach yng nghymuned Rhymni yng Nghaerffili (a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Tredegar ym Mlaenau Gwent.

Mae printiau o'r map ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy, Blaenau Gwent ac yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Nhredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, Caerffili ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau digwyddol, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion fel hyn a'u gweithredu.

(3)

O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.