Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) 1985 (“y prif reoliadau”) fel y'u diwigiwyd gan Reoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) (Diwygio) 1989, 1994 a 1998. Mae'r darpariaethau yn y prif reoliadau sy'n cael eu diwygio yn darparu ar gyfer eithriadau i'r gofyniad i o dan adran 89 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 i dendro os yw awdurdodau lleol yn dod i gytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau lleol sy'n destun cymhorthdal gwasanaeth.
Mae Rheoliad 3 o'r prif reoliadau yn darparu ar gyfer esemptiad rhag y gofyniad i dendro os yw'r cytundeb yn darparu am daliadau llai na £12,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis oni bai bod y swm agregedig y mae gweithredwr gwasanaeth yn ei gael gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan gytundebau felly yn fwy na £70,000.
Yn lle hynny, mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn darparu i'r eithriad fod yn gymwys i unrhyw gytundeb neu gytundebau lle nad yw'r taliadau odanynt yn fwy na 40 y cant o gyfanswm y gwariant y mae awdurdod wedi'i gyllidebu ar gyfer cytundebau felly mewn unrhyw flwyddyn ariannol honno.