Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 er mwyn tynnu darpariaethau sy'n ymwneud â phrofion o'r enw “standard task assessments” — gweler rheoliad 2(1) — (3), (5) — (6) ac (8). Arferai'r profion hynny gael eu rhoi i ddisgyblion 7 oed ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond cawsant eu diddymu o 2002 ymlaen — gweler Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)). Maent hefyd yn dileu cyfeiriad at ysgolion a gynhelir â grant ac ysgolion arbennig a gynhelir â grant (nad ydynt yn bodoli mwyach) ac yn rhoi cyfeiriad at “the National Assembly for Wales” yn lle cyfeiriad at “the Welsh Office” — gweler rheoliadau 2(4) a (7).