2002 Rhif 46 (Cy.5)
Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2.
Enwi a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2002.
Diwygio Rheoliadau2
1
Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 19973 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau “NC tests” (yn y ddau le) ac “NC tasks” rhowch—
“NC tests” and “NC tasks” mean, respectively, National Curriculum tests and National Curriculum tasks administered to pupils in accordance with the statutory arrangements;
3
Yn rheoliad 3(11) hepgorwch “first”.
4
Yn rheoliad 7(2)(a)(ii) hepgorwch “grant-maintained school, a grant-maintained special school or a”.
5
Yn Atodlen 1, yn lle is-baragraff (2) o baragraff 1 rhowch—
The results of teacher assessment of the pupil’s level in the attainment targets in English entitled ‘Speaking and Listening’, ‘Reading’ and ‘Writing’, and in the attainment targets in Welsh entitled ‘Oral (Speaking, Viewing and Listening)’, ‘Reading’ and ‘Writing’.
6
Yn Atodlen 2, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 hepgorwch y geiriau o “and by NC tests” i ddiwedd yr is-baragraff hwnnw, a hepgorwch y cyfan o is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.
7
Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (1) o baragraff 1 yn lle “Welsh Office” rhowch “National Assembly for Wales”.
8
Yn Atodlen 3, yn is-baragraff (2) o baragraff 1 yn lle “shown (in every case) both as determined by teacher assessment and by NC tests”, rhowch “as determined by teacher assessment”, a hepgorwch is-baragraff (5) o'r paragraff hwnnw.
Llofndowyd ar ran Cynulliad Cenedlethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)