(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 356(1) a (2) o Ddeddf Addysg 1996 yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu'r Cwricwlwm Cenedlaethol drwy bennu, drwy Orchymyn, y targedau cyrhaeddiad, y rhaglenni astudio a'r trefniadau asesu y mae'n barnu eu bod yn briodol ar gyfer pob un o'r pynciau sylfaen. Mae'r ddyletswydd honno wedi'i datganoli ac i'w harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i ysgolion yng Nghymru yn unig, yn ailddeddfu (gyda rhai newidiadau a grybwyllir isod) Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997. Mae'r Gorchymyn yn pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio “pynciau perthnasol” y Cwricwlwm Cenedlaethol ym mlwyddyn olaf y Cyfnod Allweddol cyntaf. Mae'r “pynciau perthnasol” wedi'u diffinio fel mathemateg, gwyddoniaeth ac, mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (fel y'u diffinnir yn erthygl 3(1)), Cymraeg neu mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg, Saesneg.

Mae Erthygl 2 yn diddymu Gorchymyn 1997.

Mae Erthygl 3 yn diffinio'r termau sy'n cael eu defnyddio yn y Gorchymyn.

Mae Erthygl 4 yn darparu bod disgyblion yn cael eu hasesu gan athro neu athrawes ac yn nodi diben asesiadau o'r fath.

Mae Erthygl 5 yn nodi'r rheolau technegol dros benderfynu lefel cyrhaeddiad y disgyblion yn ôl pwnc.

Mae Erthygl 6 yn nodi rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys iddynt (gan gynnwys disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig).

Mae Erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer gwerthuso'r trefniadau asesu.

Mae Erthygl 8 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn neu sy'n ychwanegu atynt fel arall.

Yr unig newid o sylwedd sy'n cael ei wneud gan y Gorchymyn cyfredol yw'r ffaith nad yw'n darparu mwyach ar gyfer profion ar gyfer disgyblion. Gan hynny, mae erthyglau 5 a 6 o Orchymyn 1997 wedi'u hepgor.