Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 45 (Cy.4)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

14 Ionawr 2002

Yn dod i rym

4 Chwefror 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(c) a (5) i (8) ac adran 568(5) a (6) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yn y Cynulliad(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 4 Chwefror 2002.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf y cyfnod allweddol cyntaf yn Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.

(4Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion mewn Cymraeg yn dilyn rhaglen astudio a elwir “Cymraeg Ail Iaith”(3).

Diddymu

2.  Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997(4) yn cael ei ddiddymu.

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

(2Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r rhif cyfan nesaf.

(3Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.

Asesiadau athrawon

4.—(1Bydd yn ddyletswydd ar y pennaeth i wneud trefniadau i bob disgybl gael ei asesu gan athro neu athrawes ym mhob pwnc perthnasol yn ystod tymor yr haf yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a bod cofnod o'r canlyniadau yn cael ei wneud gan yr athro hwnnw neu'r athrawes honno.

(2Diben yr asesu fydd penderfynu'r lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyrraedd ym mhob TC a bennir ar gyfer pob pwnc perthnasol sy'n gymwys i'r disgybl ac, oni bai bod erthygl 6(3) yn gymwys, yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol ag erthygl 5.

(3Rhaid i'r athro neu'r athrawes asesu'r disgybl a chofnodi'r canlyniadau erbyn pythefnos cyn diwedd tymor yr haf fan bellaf.

(4Bydd y cofnod o'r canlyniadau yn cynnwys datganiad ynghylch pob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyrraedd (p'un a yw'r lefel honno yn lefel a bennir mewn perthynas â'r cyfnod allweddol cyntaf o dan y gorchymyn adran 356(2)(a) a (b) perthnasol neu beidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (2) ac, oni bai bod erthygl 6(3) yn gymwys, lefel y disgybl yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol ag erthygl 5.

(5Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon gall athro neu athrawes gymryd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw asesiadau blaenorol o'r disgybl (gan gynnwys asesiadau drwy gyfrwng tasgau safonol o dan y Gorchymyn sy'n cael ei ddiddymu gan erthygl 2), p'un a oedd yr asesiadau blaenorol wedi'u gwneud gan yr athro hwnnw neu'r athrawes honno neu beidio.

Penderfynu cyrhaeddiad yn ôl y pwnc: asesiadau athrawon

5.—(1Yn ddarostyngedig i erthygl 6, mae darpariaethau'r erthygl hon yn rheoli agregiad lefelau cyrhaeddiad TC sy'n cael eu penderfynu yn unol ag erthygl 4 i gyfrifo lefelau cyrhaeddiad mewn pynciau.

(2Yn achos y Saesneg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

(3Yn achos y Gymraeg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC1 (llafar, (siarad, gwrando a gwylio)) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

(4Yn achos mathemateg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC2 (rhifau ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

(5Yn achos gwyddoniaeth, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC1 (ymchwil wyddonol) wedi'i phwysoli â ffactor o dri fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol

6.—(1Bydd effaith i erthygl 5 mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys iddynt (gan gynnwys disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.

(2Os nad yw un TC mewn pwnc perthnasol yn gymwys i ddisgybl o'r fath, bydd effaith i erthygl 5 fel petai'r nifer o TC sydd yn gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TC yn y pwnc.

(3Os nad oes mwy nag un TC mewn pwnc perthnasol yn gymwys i ddisgybl o'r fath, ni fydd erthygl 5 yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw a rhaid peidio â phenderfynu unrhyw lefel cyrhaeddiad ar ei gyfer mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.

Gwerthuso trefniadau asesu

7.  Rhaid i'r Awdurdod wneud unrhyw drefniadau y maent yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol ar gyfer penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthyglau 4 i 6 a'u gweithrediad yn sicrhau'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).

Pwerau atodol y Cynulliad Cenedlaethol

8.  Gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud darpariaethau o'r fath sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn neu sy'n ychwanegu atynt fel arall (heblaw darpariaethau sy'n rhoi neu sy'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 356(5)(a) o'r Ddeddf) y mae'n ymddangos iddo eu bod yn hwylus.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

Rhodri Morgan

Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Ionawr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 356(1) a (2) o Ddeddf Addysg 1996 yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu'r Cwricwlwm Cenedlaethol drwy bennu, drwy Orchymyn, y targedau cyrhaeddiad, y rhaglenni astudio a'r trefniadau asesu y mae'n barnu eu bod yn briodol ar gyfer pob un o'r pynciau sylfaen. Mae'r ddyletswydd honno wedi'i datganoli ac i'w harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i ysgolion yng Nghymru yn unig, yn ailddeddfu (gyda rhai newidiadau a grybwyllir isod) Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997. Mae'r Gorchymyn yn pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio “pynciau perthnasol” y Cwricwlwm Cenedlaethol ym mlwyddyn olaf y Cyfnod Allweddol cyntaf. Mae'r “pynciau perthnasol” wedi'u diffinio fel mathemateg, gwyddoniaeth ac, mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (fel y'u diffinnir yn erthygl 3(1)), Cymraeg neu mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg, Saesneg.

Mae Erthygl 2 yn diddymu Gorchymyn 1997.

Mae Erthygl 3 yn diffinio'r termau sy'n cael eu defnyddio yn y Gorchymyn.

Mae Erthygl 4 yn darparu bod disgyblion yn cael eu hasesu gan athro neu athrawes ac yn nodi diben asesiadau o'r fath.

Mae Erthygl 5 yn nodi'r rheolau technegol dros benderfynu lefel cyrhaeddiad y disgyblion yn ôl pwnc.

Mae Erthygl 6 yn nodi rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys iddynt (gan gynnwys disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig).

Mae Erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer gwerthuso'r trefniadau asesu.

Mae Erthygl 8 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn neu sy'n ychwanegu atynt fel arall.

Yr unig newid o sylwedd sy'n cael ei wneud gan y Gorchymyn cyfredol yw'r ffaith nad yw'n darparu mwyach ar gyfer profion ar gyfer disgyblion. Gan hynny, mae erthyglau 5 a 6 o Orchymyn 1997 wedi'u hepgor.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 356 (5) ac (8) gan baragraff 87 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 568(5) gan baragraff 175 o'r Atodlen honno.

(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).

(3)

Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen sy'n dwyn y teitl “Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol”, ISBN 0 7504 24036.

(5)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru o dan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Deddf Addysg 1996 ac fe roddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.34).

(6)

Y gorchmynion cyfredol yw O.S. 2000/1154 (Cy.85) (Saesneg), O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (gwyddoniaeth).

(7)

Amnewidiwyd adran 350(1) gan baragraff 85 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.