Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sydd yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol, neu mewn cysylltiad â hwy, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog gwariant o'r fath er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r fath grantiau. Maent yn ailddeddfu, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001. Amlinellir darpariaethau'r Rheoliadau, a'r newidiadau i'r Rheoliadau cynt, isod.

Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymwyso. Daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.

Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grantiau'n daladwy ond ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg lleol at y dibenion, neu mewn cysylltiad â'r dibenion, a nodir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol, a dim ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant gan awdurdodau addysg lleol i dalu trydydd partïon am wariant ganddynt os byddai'r gwariant hwnnw'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyfradd y grantiau sy'n daladwy.

Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae'r dyddiad yn rheoliad 6(5) ar gyfer cyflwyno datganiad a thystysgrif archwilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei newid o 31 Gorffennaf i 31 Hydref.

Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol fynnu i awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth iddo.

Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad osod gofynion ychwanegol.

Mae Rheoliad 11 yn caniatáu i'r Cynulliad fynnu i awdurdodau addysg lleol ddirprwyo penderfyniadau ar wario i gyrff llywodraethu ysgolion.

Mae Rheoliad 12 yn diddymu'r Rheoliadau blaenorol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol.

Mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer dibenion y mae grantiau'n daladwy atynt, neu'n gysylltiedig â hwy. Mae'r prif newidiadau i'r Atodlen fel a ganlyn:

  • diwygiad i baragraff 1(d) i adlewyrchu'r ffaith bod asesaidau'r tasgau safonol i ddisgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 1 wedi'u dileu o flwyddyn ysgol 2001-2002 ymlaen;

  • paragraff 1(h) newydd i gynnwys cymorth ar gyfer mentrau yn ystod Blwyddyn Gwyddoniaeth Cymru;

  • paragraff 2(e) newydd i gynnwys hyfforddi staff ysgol i ddefnyddio meddalwedd ar gyfer y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC) newydd;

  • diwygiad i baragraff 6(a) a pharagraff 6(b) newydd i gynnwys hyfforddiant i gynorthwywyr cynnal dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â thrwy gyfrwng y Saesneg;

  • diwygiad i baragraff 6(c) i roi hwb pellach i bartneriaethau a chydweithredu rhwng rhieni, ysgolion a chyrff cyhoeddus eraill, gan ymestyn partneriaethau a chydweithredu o'r fath i gynnal darpariaeth gwasanaethau therapi iaith a lleferydd;

  • diwygiad i baragraff 6(f) i annog yr awdurdodau addysg lleol i wneud trefniadau i roi cyngor a gwybodaeth i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig, yn lle system y “person a enwyd”;

  • paragraff 6(ff) newydd i gynnwys mesurau i ymdrin ag anghytundebau ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig;

  • paragraff 10(d) newydd i ymestyn hyfforddiant er mwyn rhoi sylw i drefniadau gwerthuso athrawon a threfniadau rheoli perfformiad ysgolion;

  • dileu'r darpariaethau sy'n ymwneud â thalu grantiau cyfalaf heblaw grantiau sy'n ymwneud â darparu a gosod cyfarpar a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu a cheblau ar gyfer y dechnoleg honno a'r cyfarpar hwnnw, sydd bellach wedi'u cynnwys ym mharagraff 9(b). Caiff y darpariaethau eraill ar grantiau cyfalaf eu hailddeddfu fel Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources