Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002
Enw, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) (Diddymu) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru.
(2)
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Chwefror 2002.
Diddymu Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 20022.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoddi effaith mewn perthynas â Chymru i erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/153/EC (OJ Rhif L50, 21.2.2002, t.98). Dileodd y Penderfyniad hwnnw Benderfyniad y Comisiwn 2001/740/EC, fel y'i diwygiwyd, a oedd yn ymwneud â darpariaethau penodol i ddiogelu rhag clwy'r traed a'r genau yn y Deyrnas Unedig (OJ Rhif L277, 20.10.2001, t.30). Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 2) 2002 a roddodd ar waith y diwygiad olaf i Benderfyniad y Comisiwn 2001/740/EC.
Ni pharatowyd Arfarniad ar gyfer y Rheoliadau hyn.