(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 27 Chwefror 2002, yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 (O.S. 2000/1673) ac yn darparu mewn perthynas â Chymru fod y canlynol yn effeithiol—
erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/153/EC (OJ Rhif L50, 21.2.2002, t.98), sy'n ymwneud â darpariaethau penodol i ddiogelu rhag clwy'r traed a'r genau yn y Deyrnas Unedig, sy'n dileu Penderfyniad 2001/740/EC ac sy'n diwygio Penderfyniad 2001/327/EC am yr wythfed tro; a
Phenderfyniad y Comisiwn 2001/327/EC sy'n ymwneud â chyfyngu ar symud anifeiliaid o rywogaethau a allai ddioddef o glwy'r traed a'r genau (OJ Rhif L115, 25.4.2001, t.12).
Ni pharatowyd Arfarniad ar gyfer y Rheoliadau hyn.