Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 430 (Cy.52)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

26 Chwefror 2002

Yn dod i rym

27 Chwefror 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

Enw, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

(3Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Chwefror 2002.

Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000

2.—(1Diwygir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000(3) mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethu canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 12—

(a)ym mharagraff (2) wedi'r geiriau “Council Directive 64/432/EEC” ychwaneger y geiriau “and is satisfied that the operator of the assembly centre has agreed to comply with the requirements for the operation of the centre which an inspector has specified in an operational agreement as being the requirements the inspector believes are necessary to ensure the centre is capable of being operated in accordance with the second indent of paragraph 3(2) of Council Directive 90/425/EEC”; a

(b)ym mharagraff (3) wedi'r geiriau “cattle or pigs” mewnosoder y geiriau “or sheep or goats”.

(3Yn Atodlen 3, Rhan I, paragraff 9, wedi'r geiriau “Commission Decision 97/315/EC (OJ No. L137, 28.5.97, t.20);” mewnosoder y canlynol—

Commission Decision 2001/327/EC (OJ No. L115, 25.4.2001, p. 12), as amended by Decisions 2001/349/EC (OJ No. L123, 04/05/2001, p.26), 2001/378/EC (OJ No. L132, 15/05/2001, p. 31), 2001/394/EC (OJ No. L138, 22/05/2001, p. 36), 2001/416/EC (OJ No. L149, 02/06/2001, p. 40), 2001/448/EC (OJ No. L176, 29/06/2001, p. 75), 2001/709/EC (OJ No. L261, 29/09/2001, p. 69), 2001/904/EC (OJ No. L335, 19.12.2001, p. 21) and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p. 98);.

(4Yn Atodlen 3, Rhan I wedi paragraff 15 ychwaneger y paragraff canlynol—

Animals of species susceptible to foot-and-mouth disease

16.  Commission Decision 2001/327/EC (OJ No. L115, 25.4.2001, p. 12), as amended by Decisions 2001/349/EC (OJ No. L123, 04/05/2001, p.26), 2001/378/EC (OJ No. L132, 15/05/2001, p. 31), 2001/394/EC (OJ No. L138, 22/05/2001, p. 36), 2001/416/EC (OJ No. L149, 02/06/2001, p. 40), 2001/448/EC (OJ No. L176, 29/06/2001, p. 75), 2001/709/EC (OJ No. L261, 29/09/2001, p. 69), 2001/904/EC (OJ No. L335, 19.12.2001, p. 21) and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p. 98).

Relevant provisions: article 2a..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Chwefror 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 27 Chwefror 2002, yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 (O.S. 2000/1673) ac yn darparu mewn perthynas â Chymru fod y canlynol yn effeithiol—

Ni pharatowyd Arfarniad ar gyfer y Rheoliadau hyn.