2002 Rhif 430 (Cy.52)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

Enw, cymhwyso a chychwyn1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

(3)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Chwefror 2002.

Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 20002.

(1)

Diwygir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 20003 mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethu canlynol y rheoliad hwn.

(2)

Yn rheoliad 12—

(a)

ym mharagraff (2) wedi'r geiriau “Council Directive 64/432/EEC” ychwaneger y geiriau “and is satisfied that the operator of the assembly centre has agreed to comply with the requirements for the operation of the centre which an inspector has specified in an operational agreement as being the requirements the inspector believes are necessary to ensure the centre is capable of being operated in accordance with the second indent of paragraph 3(2) of Council Directive 90/425/EEC”; a

(b)

ym mharagraff (3) wedi'r geiriau “cattle or pigs” mewnosoder y geiriau “or sheep or goats”.

(3)

Yn Atodlen 3, Rhan I, paragraff 9, wedi'r geiriau “Commission Decision 97/315/EC (OJ No. L137, 28.5.97, t.20);” mewnosoder y canlynol—

“Commission Decision 2001/327/EC (OJ No. L115, 25.4.2001, p. 12), as amended by Decisions 2001/349/EC (OJ No. L123, 04/05/2001, p.26), 2001/378/EC (OJ No. L132, 15/05/2001, p. 31), 2001/394/EC (OJ No. L138, 22/05/2001, p. 36), 2001/416/EC (OJ No. L149, 02/06/2001, p. 40), 2001/448/EC (OJ No. L176, 29/06/2001, p. 75), 2001/709/EC (OJ No. L261, 29/09/2001, p. 69), 2001/904/EC (OJ No. L335, 19.12.2001, p. 21) and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p. 98);”.

(4)

Yn Atodlen 3, Rhan I wedi paragraff 15 ychwaneger y paragraff canlynol—

“Animals of species susceptible to foot-and-mouth disease16.

Commission Decision 2001/327/EC (OJ No. L115, 25.4.2001, p. 12), as amended by Decisions 2001/349/EC (OJ No. L123, 04/05/2001, p.26), 2001/378/EC (OJ No. L132, 15/05/2001, p. 31), 2001/394/EC (OJ No. L138, 22/05/2001, p. 36), 2001/416/EC (OJ No. L149, 02/06/2001, p. 40), 2001/448/EC (OJ No. L176, 29/06/2001, p. 75), 2001/709/EC (OJ No. L261, 29/09/2001, p. 69), 2001/904/EC (OJ No. L335, 19.12.2001, p. 21) and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p. 98).

Relevant provisions: article 2a.”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 27 Chwefror 2002, yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 (O.S. 2000/1673) ac yn darparu mewn perthynas â Chymru fod y canlynol yn effeithiol—

  • erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/153/EC (OJ Rhif L50, 21.2.2002, t.98), sy'n ymwneud â darpariaethau penodol i ddiogelu rhag clwy'r traed a'r genau yn y Deyrnas Unedig, sy'n dileu Penderfyniad 2001/740/EC ac sy'n diwygio Penderfyniad 2001/327/EC am yr wythfed tro; a

  • Phenderfyniad y Comisiwn 2001/327/EC sy'n ymwneud â chyfyngu ar symud anifeiliaid o rywogaethau a allai ddioddef o glwy'r traed a'r genau (OJ Rhif L115, 25.4.2001, t.12).

Ni pharatowyd Arfarniad ar gyfer y Rheoliadau hyn.