Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 430 (Cy.52)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

26 Chwefror 2002

Yn dod i rym

27 Chwefror 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—