Amodau ar gyfer rhyddhad4.

Yr amodau a ragnodir at ddibenion adran 43(6B)(c)(ii) o Ddeddf 1988 yw nad yw'r hereditament—

(a)

yn cael ei ddefnyddio at y canlynol yn unig—

(i)

arddangos hysbysebion, neu

(ii)

parcio cerbydau modur, neu

(iii)

offer telathrebu, neu

(iv)

peiriant arian awtomatig;

(b)

yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel siop gyffredinol neu swyddfa bost; ac

(c)

yn eiddo i'r Goron.