- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1949” (“1949 Act”) yw Deddf Telegraffiaeth Ddiwifr 1949(1);
ystyr “Deddf 1984” (“1984 Act”) yw Deddf Telathrebu 1984(2));
ystyr “Deddf 1988” (“1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “gorsaf betrol” (“petrol filling station”) yw safle lle mae petrol neu danwyddau eraill ar gyfer moduron yn cael eu hadwerthu i'r cyhoedd yn gyffredinol, yn danwydd ar gyfer cerbydau modur sydd wedi'u bwriadu neu wedi'u haddasu i'w defnyddio ar ffyrdd;
mae “offer telathrebu” (“telecommunications apparatus”) yn cynnwys—
offer telathrebu o fewn yr ystyr a roddir i “telecommunications apparatus” gan Atodlen 2 i Ddeddf 1984 sy'n cael ei ddefnyddio, neu sydd wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio, ar gyfer
telegraffiaeth ddiwifr o fewn yr ystyr a roddir i “wireless telegraphy” gan adran 19 o Ddeddf 1949, neu
darlledu; a
strwythurau ar lun cytiau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau sy'n ffurfio rhan yn unig o adeilad) sy'n cael eu defnyddio, neu sydd wedi'u dylunio i gael eu defnyddio dim ond i gynnwys offer sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a);
ynghyd ag unrhyw offer atodol a feddiennir dim ond at ddibenion person sydd wedi'i drwyddedu i redeg system delathrebu o dan adran 1 o Ddeddf 1949 neu adran 7 o Ddeddf 1984;
ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomataidd sy'n cynnig cyswllt hunan-wasanaeth ag amrediad o wasanaethau banc;
ystyr “siop gyffredinol” (“general store”) yw safle lle rhedir masnach neu fusnes sy'n cynnwys yn bennaf adwerthu bwyd i bobl ei fwyta (heblaw melysion) a nwyddau ty cyffredinol;
ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw safle a ddefnyddir at ddibenion darparydd gwasanaethau cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i “universal service provider” gan Ddeddf Gwasanaethau Post 2000(3) ac mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth post cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i “universal postal service” gan y Ddeddf honno; ac
ystyr “tafarn” (“public house”) yw safle y mae angen mewndrwydded ynadon ar ei gyfer o fewn yr ystyr a roddir i “justices' on-licence” gan Ddeddf Trwyddedu 1964(4) (heblaw trwydded Rhan IV o fewn yr ystyr a roddir i “Part IV licence” gan y Ddeddf honno).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: