(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes (“y prif Reoliadau”) sy'n gymwys i Brydain Fawr.
Mae'r Rheoliadau yn gweithredu—
(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/30/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n nodi meini prawf purdeb penodol ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1), a
(b)Cyfarwyddeb 2001/5/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2 ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L55, 24.2.2001, t.59).
Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, mae'r Rheoliadau'n pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennir yn yr Atodiad i gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/30/EC (rheoliadau 3(b) ac (c), 4 ac 8) ac yn gwneud diwygiadau i Reoliadau penodol o ran cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 9).
Mae'r Rheoliadau hefyd—
(a)yn ychwanegu un ychwanegyn newydd at y rhestr, yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, o ychwanegion bwyd amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8 i'r Rheoliadau hynny (rheoliad 5);
(b)yn addasu'r rhestr, yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau, o ychwanegion bwyd amrywiol a all gael eu cynnwys mewn bwydydd penodol, drwy ychwanegu pedwar ychwanegyn newydd at y rhestr honno a phennu bwydydd ychwanegol y gellir cynnwys esterau Glycerol o rosinau coed ynddynt (rheoliad 6); ac
(c)yn addasu'r rhestr o garwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau drwy ymgorffori Rhif E ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) (rheoliad 7).