xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
3 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Ceredigion. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a)at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Ceredigion fel y'u sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “map A” (“map A”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map A Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberystwyth 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (3);
ystyr “map B” (“map B”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map B Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberteifi 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
ystyr “map C” (“map C”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map C Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Llanbadarn Fawr 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976.
2.—(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Ceredigion a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Ceredigion, rhennir y Sir honno yn 40 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y mapiau ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E.Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
3 Rhagfyr 2002
Erthygl 2
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran Etholiadol | Y Nifer o Gynghorwyr |
Aberaeron | Cymuned Aberaeron | 1 |
Aber-porth | Cymuned Aber-porth | 1 |
Aberteifi/ Cardigan — Mwldan | Ward Mwldan yng Nghymuned Aberteifi | 1 |
Aberteifi/ Cardigan — Rhyd-y-fuwch | Ward Rhyd-y-fuwch yng Nghymuned Aberteifi | 1 |
Aberteifi/ Cardigan — Teifi | Ward Teifi yng Nghymuned Aberteifi | 1 |
Aberystwyth Bronglais | Ward Ddwyreiniol Cymuned Aberystwyth | 1 |
Aberystwyth Canol/Central | Ward Ganalog Cymuned Aberystwyth | 1 |
Aberystwyth Gogledd/North | Ward Ogleddol Cymuned Aberystwyth | 1 |
Aberystwyth Penparcau | Ward Ddeheuol Cymuned Aberystwyth | 2 |
Aberystwyth Rheidol | Ward Glanyrafon Cymuned Aberystwyth | 1 |
Beulah | Cymuned Beulah | 1 |
Capel Dewi | Wardiau Capel Dewi Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul | 1 |
Ceinewydd | Cymuned Ceinewydd | 1 |
Ceulan-a-Maesmor | Cymunedau Ceulan a Maesmor Llangynfelyn ac Ysgubor-y-coed | 1 |
Ciliau Aeron | Cymunedau Ciliau Aeron a Henfynyw | 1 |
Faenor | Cymuned Faenor | 1 |
Llanbadarn Fawr -Padarn | Ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr | 1 |
Llanbadarn Fawr -Sulien | Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr | 1 |
Llanbedr Pont Steffan | Cymuned Llanbedr Pont Steffan | 2 |
Llandyfrïog | Cymuned Llandyfrïog | 1 |
Llandysiliogogo | Cymunedau Llandysiliogogo a Llanllwchaiarn | 1 |
Llanfarian | Cymuned Llanfarian | 1 |
Llanfihangel Ystrad | Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle | 1 |
Llangeitho | Cymunedau Llanddewibrefi a Llangeitho | 1 |
Llangybi | Cymunedau Llanfair Clydogau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle | 1 |
Llannarth | Cymuned Llannarth | 1 |
Llanrhystud | Cymunedau Llangwyryfon a Llanrhystud | 1 |
Llansanffraid | Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid | 1 |
Llanwenog | Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen | 1 |
Lledrod | Cymunedau Lledrod, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig | 1 |
Melindwr | Cymunedau Blaenrheidol, Melindwr a Phontarfynach | 1 |
Penbryn | Cymunedau Llangrannog a Phenbryn | 1 |
Pen-parc | Cymunedau Llangoedmor a'r Ferwig | 1 |
Tirymynach | Cymuned Tirymynach | 1 |
Trefeurig | Cymuned Trefeurig | 1 |
Tref Llandysul | Ward Trefol yng Nghymuned Llandysul | 1 |
Tregaron | Cymuned Tregaron | 1 |
Troed-yr-aur | Cymuned Troed-yr-aur | 1 |
Y Borth | Cymunedau'r Borth a Genau'r Glyn | 1 |
Ystwyth | Cymunedau Llanilar a Thrawsgoed | 1 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y byddai'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Rhagfyr 1999 ar gyfer Sir Ceredigion.
Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.
Nid oes unrhyw newid i adrannau Aberaeron, Aber-porth, Beulah, Capel Dewi, Ceinewydd, Ceulan-a-Maesmor, Ciliau Aeron, Faenor, Llanbedr Pont Steffan, Llandyfrïog, Llandysiliogogo, Llanfarian, Llanfihangel Ystrad, Llangeitho, Llangybi, Llannarth, Llanrhystud, Llansanffraid, Llanwenog, Lledrod, Melindwr, Penbryn, Pen-parc, Tirymynach, Trefeurig, Tref Llandysul, Tregaron, Troed-yr-aur, Y Borth, Ystwyth.
Mae'r newidiadau canlynol yn cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn:
Rhennir adran bresennol Aberteifi yn dair adran etholiadol newydd, sef:
Aberteifi/Cardigan — Mwldan, yn cynnwys ward Mwldan cymuned Aberteifi. Mae pob adran etholiadol newydd i'w chynrychioli gan un cynghorydd;
Aberteifi/Cardigan — Rhyd-y-fuwch, yn cynnwys ward Rhyd-y-fuwch cymuned Aberteifi;
Aberteifi/Cardigan — Teifi yn cynnwys ward Teifi cymuned Aberteifi.
Rhennir Aberystwyth yn bum adran etholiadol:
Aberystwyth Bronglais yn cynnwys Ward Ddwyreiniol cymuned Aberystwyth, sy'n ethol un cynghorydd;
Aberystwyth Canol/Central yn cynnwys ward Ganolog cymuned Aberystwyth, sy'n ethol un cynghorydd;
Aberystwyth Gogledd/North yn cynnwys ward Ogleddol cymuned Aberystwyth sy'n ethol un cynghorydd;
Aberystwyth Penparcau yn cynnwys ward Ddeheuol cymuned Aberystwyth, sy'n ethol dau gynghorydd; ac
Aberystwyth Rheidol yn cynnwys ward Glanyrafon cymuned Aberystwyth, sy'n ethol un cynghorydd.
Rhennir adran bresennol Llanbadarn Fawr er mwyn creu dwy adran etholiadol o'r enw Llanbadarn Fawr Sulien a Llanbadarn Fawr Padarn — y naill a'r llall yn ethol un cynghorydd.
Mae ardaloedd yr adrannau etholiadol newydd wedi'u diffinio ar y mapiau manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2. Gellir archwilio printiau ohonynt ar bob adeg resymol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae enw'r Sir wedi'i newid o Sir Aberteifi i Geredigion yn unol ag adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).