xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2001 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a)at ddibenion achosion, sy'n rhagarweiniol i unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bro Morgannwg 1994(2);
ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “map” (“map”) yw'r map a farciwyd “map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidadau Etholiadol) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3).
2.—(1) Mae adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bro Morgannwg 1994 yn cael eu diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, rhennir y Sir honno yn 23 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath fydd y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
3. Bydd y swyddog cofrestru yn gwneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
Erthygl 2
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran Etholiadol | Y Nifer o Gynghorwyr |
Baruc | Ward Baruc Cymuned y Barri | 2 |
Buttrills | Ward Buttrills Cymuned y Barri | 2 |
Cadog | Ward Cadog Cymuned y Barri | 3 |
Castleland | Ward Castleland Cymuned y Barri | 2 |
Cornerswell | Ward Cornerswell Cymuned Penarth | 2 |
Court | Ward Court Cymuned y Barri | 2 |
Y Bont-faen | Cymunedau'r Bont-faen gyda Llanfleiddan, Llan-fair a Phen-llin | 3 |
Dinas Powys | Cymunedau Dinas Powys a Llanfihangel— ynys-Afan | 4 |
Dyfan | Ward Dyfan Cymuned y Barri | 2 |
Gibbonsdown | Ward Gibbonsdown Cymuned y Barri | 2 |
Illtud | Ward Illtud Cymuned y Barri | 3 |
Llandoche | Cymuned Llandoche | 1 |
Llandŵ /Ewenni | Cymunedau Tregolwyn, Ewenni, Llandw a Llan-gan | 1 |
Llanilltud Fawr | Cymunedau Llan-maes, Llanilltud Fawr a Sain Dunwyd | 4 |
Llanbedr-y-fro | Cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro, Sain Siorys a Llanddunwyd | 1 |
Plymouth | Ward Plymouth Cymuned Penarth | 2 |
Y Rhws | Cymunedau Llancarfan a'r Rhws | 2 |
Sain Tathan | Cymuned Sain Tathan | 1 |
St Augustine's | Ward St Augustine’s Cymuned Penarth | 2 |
Saint-y-brid | Cymunedau Saint-y-brid a'r Wig | 1 |
Stanwell | Ward Stanwell Cymuned Penarth | 2 |
Sili | Cymuned Sili | 2 |
Gwenfô | Cymunedau Sain Nicolas a Thresimwn a Gwenfô | 1 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru o dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i awdurdodau unedol ym Mai 1995.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Mawrth 2001 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.
Nid oes unrhyw newid i adrannau Baruc, Buttrills, Cadog, Castleland, Cornerswell, Court, Y Bont-faen, Dinas Powys, Dyfan, Gibbonsdown, Illtud, Llandoche, Llandŵ /Ewenni, Llanilltud Fawr, Llanbedr-y-fro, Y Rhws, Sain Tathan, Saint-y-brid, Stanwell, Gwenfô.
Mae adran etholiadol bresennol Alexandra yn cael ei rhannu i greu dwy adran etholiadol newydd o'r enw Plymouth a St Augustine's.
Mae adran etholiadol Plymouth i gynnwys ward Plymouth cymuned Penarth. Mae'r adran i'w chynrychioli gan ddau gynghorydd.
Mae adran etholiadol St Augustine's i gynnwys ward St Augustine’s cymuned Penarth. Mae'r adran i'w chynrychioli gan ddau gynghorydd.
Bydd y nifer o gynghorwyr sy'n cynrychioli adran bresennol Sili yn cynyddu o un i ddau.
Mae ardaloedd yr adrannau etholiadol newydd wedi'u diffinio ar y map manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2. Gellir archwilio printiau ohono ar bob adeg resymol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).