2002 Rhif 3277 (Cy.315)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002

Wedi'i wneud

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2001 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.