xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3275 (Cy.313)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002

Wedi'i wneud

6 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2000 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Fynwy. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym:

(a)at ddibenion achosion sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad, sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003; ac

(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Fynwy fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy1994(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

ystyr “map” (“map”) yw'r map a farciwyd “map Gorchymyn Sir Fynwy (Newidadau Etholiadol) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3).

Adrannau Etholiadol

2.—(1Mae adrannau etholiadol presennol Sir Fynwy a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy 1994 wedi'u diddymu.

(2At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Fynwy, rhennir y Sir honno yn 42 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.

(3Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol

3.  Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E. Hart

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

6 Rhagyfr 2002

Erthygl 2

YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Fynwy

(1)(2)(3)
Enw'r Adran EtholiadolArdal yr Adran EtholiadolY Nifer o Gynghorwyr
Caer-wentCymuned Caer-went1
Castell CaldicotWard Castell Caldicot yng Nghymuned Caldicot1
CantrefWard Cantref yng Nghymuned y Fenni1
Y CastellWard Castell y Fenni1
CroesonnenWardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau1
Crucornau FawrCymunedau Crucornau Fawr a'r Grysmwnt1
DevaudenCymunedau Devauden a Llan-gwm1
LlanddewiWard Llanddewi yng Nghymuned Caldicot1
Dixton gydag OsbastonWard Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy1
DrybridgeWard Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy1
Goetre FawrCymuned Goetre Fawr1
Green LaneWard Green Lane yng Nghymuned Caldicot1
GrofieldWard Grofield yng Nghymuned y Fenni1
LansdownWard Lansdown Yng Nghymuned y Fenni1
LarkfieldWard Larkfield yng Nghymuned Cas-gwent1
LlanbadogCymunedau Gwehelog Fawr a Llanbadog1
Bryn LlanelliCymuned Llanelli2
Llan-ffwyst FawrWardiau Llanelen, Llan-ffwyst a Llanwenarth Citra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr1
Llangybi FawrCymunedau Llangybi, Llanhenwg a Llantrisaint Fawr1
LlanoferCymunedau Llan-arth a Llanofer1
Llandeilo GresynniCymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni1
Llanwenarth Tu DrawWard Llanwenarth Tu Draw yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr1
Y MaerdyWardiau'r Maerdy, Pantygelli, Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau1
MillWardiau The Mill, Denny a Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy1
Llanfihangel TroddiCymuned Llanfihangel Troddi1
OvermonnowWard Overmonnow yng Nghymuned Trefynwy1
Porth SgiwedCymuned Porth Sgiwed1
Y PriordyWard y Priordy yng Nghymuned y Fenni1
RhaglanCymuned Rhaglan1
RogietCymuned Rogiet1
HafrenWard Hafren yng Nghymuned Caldicot1
Drenewydd Gelli-farchCymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch1
St. ArvansCymunedau St. Arvans a Thyndyrn1
St. Christopher'sWard St. Christopher’s yng Nghymuned Cas-gwent1
St. KingsmarkWard St. Kingsmark yng Nghymuned Cas-gwent1
St. Mary'sWard St. Mary’s yng Nghymuned Cas-gwent1
The ElmsWard The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy1
ThornwellWard Thornwell yng Cymuned Cas-gwent1
Tryleg UnedigCymuned Tryleg Unedig1
BrynbugaCymuned Brynbuga1
West EndWard West End yng Nghymuned Caldicot1
WyeshamWard Wyesham yng Cymuned Trefynwy1

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Mawrth 2000 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Fynwy.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau:

Mae cymuned bresennol y Fenni i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:

Cantref, Y Castell, Grofield, Lansdown, Y Priordy.

Mae cymuned bresennol Caldicot i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:

Castell Caldicot, Dewstow, Green Lane, Hafren, West End.

Ar hyn o bryd mae adran bresennol Caer-went yn cynnwys Cymunedau Caer-went a Matharn. O dan y trefniadau newydd bydd adran etholiadol Caer-went yn cynnwys Cymuned Caer-went. Bydd yr adran yn ethol un cynghorydd.

Ar hyn o bryd mae adran bresennol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Devauden, Llan-gwm a Drenewydd Gelli-farch. O dan y trefniadau newydd mae Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch ac yn ethol un cynghorydd.

Mae adrannau etholiadol newydd yn cael eu creu ar gyfer:

Mae ardaloedd yr adrannau newydd wedi'u diffinio ar y map manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2, ac y gellir archwilio printiau ohono ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Cyngor Sir ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

(2)

Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.

(3)

O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).