2.—(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Fynwy a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Fynwy, rhennir y Sir honno yn 42 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.