xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Medi 1998 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Gwynedd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(a)at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Gwynedd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd 1994(2);
ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
2.—(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Gwynedd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gwynedd 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Gwynedd, rhennir y Sir honno yn 71 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
Erthygl 2
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran Etholiadol | Y Nifer o Gynghorwyr |
Aberdaron | Cymuned Aberdaron | 1 |
Aberdyfi | Cymunedau Aberdyfi a Phennal | 1 |
Abererch | Wardiau Abererch a'r Ffôr yng Nghymuned Llannor | 1 |
Abermaw | Cymuned Abermo | 1 |
Aber-soch | Ward Aber-soch Cymuned Llanengan | 1 |
Arllechwedd | Cymuned Aber a Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái | 1 |
Y Bala | Cymuned y Bala | 1 |
Bethel | Ward Bethel Cymuned Llanddeiniolen | 1 |
Y Bontnewydd | Cymuned y Bontnewydd | 1 |
Botwnnog | Cymuned Botwnnog | 1 |
Bowydd a'r Rhiw | Wardiau Bowydd a'r Rhiw a ward Tanygrisiau Cymuned Ffestiniog | 1 |
Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/ Llanelltud | Cymunedau Brithdir a Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud | 1 |
Bryn-crug/ Llanfihangel | Cymunedau Bryn-crug a Llanfihangel-y-Pennant | 1 |
Cadnant | Ward y Dwyrain yng Nghymuned Caernarfon | 1 |
Clynnog | Cymuned Clynnog | 1 |
Corris/Mawddwy | Cymunedau Corris a Mawddwy | 1 |
Criccieth | Cymuned Criccieth | 1 |
Cwm-y-glo | Wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug | 1 |
Deiniol | Ward Deiniol Cymuned Bangor | 1 |
Deiniolen | Wardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig Cymuned Llanddeiniolen | 1 |
Dewi | Ward Dewi Cymuned Bangor | 1 |
Diffwys a Maenofferen | Ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog | 1 |
Dolbenmaen | Wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen | 1 |
Gogledd Dolgellau | Ward Ogleddol a Ward Wledig Cymuned Dolgellau | 1 |
De Dolgellau | Ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau | 1 |
Dyffryn Ardudwy | Cymuned Dyffryn Ardudwy | 1 |
Efailnewydd/Buan | Cymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf Cymuned Llannor | 1 |
Garth | Ward Garth Cymuned Bangor | 1 |
Gerlan | Wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda | 1 |
Glyder | Ward Glyder Cymuned Bangor | 1 |
Y Groeslon | Wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog | 1 |
Harlech | Cymunedau Harlech a Thalsarnau | 1 |
Hendre | Ward Hendre Cymuned Bangor | 1 |
Hirael | Ward Hirael Cymuned Bangor | 1 |
Llanaelhaearn | Cymunedau Llanaelhaearn a Phistyll | 1 |
Llanbedr | Cymunedau Llanbedr a Llanfair | 1 |
Llanbedrog | Cymuned Llanbedrog | 1 |
Llanberis | Cymuned Llanberis | 1 |
Llandderfel | Cymunedau Llandderfel a Llanycil | 1 |
Llanengan | Wardiau Llanengan a Llangïan Cymuned Llanengan | 1 |
Llangelynnin | Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin | 1 |
Llanllyfni | Wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni | 1 |
Llanrug | Ward Llanrug Cymuned Llanrug | 1 |
Llanuwchllyn | Cymunedau Llanuwchllyn a Llangywer | 1 |
Llanwnda | Cymuned Llanwnda | 1 |
Llanystumdwy | Cymuned Llanystumdwy | 1 |
Marchog | Ward Marchog Cymuned Bangor | 2 |
Menai (Bangor) | Ward Menai Cymuned Bangor | 2 |
Menai (Caernarfon) | Ward y Gogledd yng Nghymuned Caernarfon | 1 |
Morfa Nefyn | Wardiau Edern a Morfa Nefyn yng Nghymuned Nefyn | 1 |
Nefyn | Ward Nefyn Cymuned Nefyn | 1 |
Ogwen | Ward Ogwen Cymuned Bethesda | 1 |
Peblig (Caernarfon) | Ward Ddeheuol Cymuned Caernarfon | 1 |
Penisa'r-waun | Wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiw las Cymuned Llanddeiniolen | 1 |
Penrhyndeudraeth | Cymunedau Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth | 1 |
Pentir | Cymuned Pentir | 1 |
Pen-y-groes | Ward Pen-y-groes Cymuned Llanllyfni | 1 |
Dwyrain Porthmadog | Ward y Dwyrain a Ward Ynys Galch yng Nghymuned Porthmadog | 1 |
Gorllewin Porthmadog | Ward y Gest, Ward Morfa Bychan a Ward y Gorllewin yng Nghymuned Porthmadog | 1 |
Porthmadog-Tremadog | Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog | 1 |
Gogledd Pwllheli | Ward y Gogledd yng Nghymuned Pwllheli | 1 |
De Pwllheli | Ward y De yng Nghymuned Pwllheli | 1 |
Seiont | Ward y Gorllewin yng Nghymuned Caernarfon | 2 |
Tal-y-sarn | Wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni | 1 |
Teigl | Wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog | 1 |
Trawsfynydd | Cymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd | 1 |
Tre-garth a Mynydd Llandygái | Wardiau St Ann’s a Thre-garth Cymuned Llandygái | 1 |
Tudweiliog | Cymuned Tudweiliog | 1 |
Tywyn | Cymuned Tywyn | 2 |
Waunfawr | Cymunedau Betws Garmon a Waunfawr | 1 |
Y Felinheli | Cymuned y Felinheli | 1 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y byddai'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Medi 1998 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Gwynedd.
Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.
Nid oes unrhyw newid i adrannau Aberdaron, Aberdyfi, Abererch, Aber-soch, Y Bala, Bethel, Y Bontnewydd, Botwnnog, Bowydd a'r Rhiw, Cadnant, Clynnog, Corris/Mawddwy, Criccieth, Deiniol, Deiniolen, Dewi, Dyffryn Ardudwy, Efailnewydd/Buan, Garth, Glyder, Harlech, Hendre, Hirael, Llanaelhaearn, Llanbedr, Llanbedrog, Llanberis, Llandderfel, Llanengan, Llanuwchllyn, Llanwnda, Marchog, Menai (Bangor), Nefyn, Ogwen, Peblig (Caernarfon), Pen-y-groes, Gogledd Pwllheli, De Pwllheli, Seiont, Trawsfynydd, Tudweiliog, Tywyn, Waunfawr, Y Felinheli.
Serch hynny, mae'r adrannau etholiadol newydd canlynol i'w creu:
Abermaw i gynnwys Cymuned Abermo ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Arllechwedd i gynnwys Cymunedau Aber, Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/Llanelltud i gynnwys Cymunedau Brithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Bryn-crug/Llanfihangel i gynnwys Cymunedau Bryn-crug, a Llanfihangel-y-Pennant ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Cwm-y-glo i gynnwys wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug, ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Adran Diffwys a Maenofferen i gynnwys ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Dolbenmaen i gynnwys wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Gogledd Dolgellau i gynnwys ward Ogleddol a ward Wledig Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
De Dolgellau i gynnwys ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Y Groeslon i gynnwys wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Llanystumdwy i gynnwys Cymuned Llanystumdwy ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Morfa Nefyn i gynnwys wardiau Edern a Morfa Nefyn Cymuned Nefyn ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Teigl i gynnwys wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Tre-garth a Mynydd Llandygái i gynnwys wardiau St Ann’s a Thre-garth Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Bydd cyfansoddiad yr adrannau presennol canlynol yn newid:
Gerlan i gynnwys wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Llangelynnin i gynnwys Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Llanllyfni i gynnwys wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Penisa'r-waun i gynnwys wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiwlas Cymuned Llanddeiniolen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Dwyrain Porthmadog i gynnwys ward y Dwyrain a ward Ynys Galch Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Gorllewin Porthmadog i gynnwys ward y Gest, ward Morfa Bychan a ward y Gorllewin Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Porthmadog-Tremadog i gynnwys Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Tal-y-sarn i gynnwys wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.
Mae newid hefyd yn y nifer o gynghorwyr ar gyfer yr adrannau canlynol:
Mae cynrychiolaeth Llanrug yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Mae cynrychiolaeth Menai (Caernarfon) yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Mae cynrychiolaeth Penrhyndeudraeth yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Mae cynrychiolaeth Pentir yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.
Mae enw'r Sir wedi'i newid o Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd i Wynedd yn unol ag adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.