2002 Rhif 3274 (Cy.312)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002

Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Medi 1998 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Gwynedd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002.

(2)

Daw'r Gorchymyn hwn i rym—

(a)

at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a

(b)

at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

(3)

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Gwynedd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd 19942;
  • ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

Adrannau Etholiadol2.

(1)

Mae adrannau etholiadol presennol Sir Gwynedd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gwynedd 1994 wedi'u diddymu.

(2)

At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Gwynedd, rhennir y Sir honno yn 71 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo.

(3)

Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol3.

Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Gwynedd

Erthygl 2

(1)

(2)

(3)

Enw'r Adran Etholiadol

Ardal yr Adran Etholiadol

Y Nifer o Gynghorwyr

Aberdaron

Cymuned Aberdaron

1

Aberdyfi

Cymunedau Aberdyfi a Phennal

1

Abererch

Wardiau Abererch a'r Ffôr yng Nghymuned Llannor

1

Abermaw

Cymuned Abermo

1

Aber-soch

Ward Aber-soch Cymuned Llanengan

1

Arllechwedd

Cymuned Aber a Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái

1

Y Bala

Cymuned y Bala

1

Bethel

Ward Bethel Cymuned Llanddeiniolen

1

Y Bontnewydd

Cymuned y Bontnewydd

1

Botwnnog

Cymuned Botwnnog

1

Bowydd a'r Rhiw

Wardiau Bowydd a'r Rhiw a ward Tanygrisiau Cymuned Ffestiniog

1

Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/ Llanelltud

Cymunedau Brithdir a Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud

1

Bryn-crug/ Llanfihangel

Cymunedau Bryn-crug a Llanfihangel-y-Pennant

1

Cadnant

Ward y Dwyrain yng Nghymuned Caernarfon

1

Clynnog

Cymuned Clynnog

1

Corris/Mawddwy

Cymunedau Corris a Mawddwy

1

Criccieth

Cymuned Criccieth

1

Cwm-y-glo

Wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug

1

Deiniol

Ward Deiniol Cymuned Bangor

1

Deiniolen

Wardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig Cymuned Llanddeiniolen

1

Dewi

Ward Dewi Cymuned Bangor

1

Diffwys a Maenofferen

Ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog

1

Dolbenmaen

Wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen

1

Gogledd Dolgellau

Ward Ogleddol a Ward Wledig Cymuned Dolgellau

1

De Dolgellau

Ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau

1

Dyffryn Ardudwy

Cymuned Dyffryn Ardudwy

1

Efailnewydd/Buan

Cymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf Cymuned Llannor

1

Garth

Ward Garth Cymuned Bangor

1

Gerlan

Wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda

1

Glyder

Ward Glyder Cymuned Bangor

1

Y Groeslon

Wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog

1

Harlech

Cymunedau Harlech a Thalsarnau

1

Hendre

Ward Hendre Cymuned Bangor

1

Hirael

Ward Hirael Cymuned Bangor

1

Llanaelhaearn

Cymunedau Llanaelhaearn a Phistyll

1

Llanbedr

Cymunedau Llanbedr a Llanfair

1

Llanbedrog

Cymuned Llanbedrog

1

Llanberis

Cymuned Llanberis

1

Llandderfel

Cymunedau Llandderfel a Llanycil

1

Llanengan

Wardiau Llanengan a Llangïan Cymuned Llanengan

1

Llangelynnin

Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin

1

Llanllyfni

Wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni

1

Llanrug

Ward Llanrug Cymuned Llanrug

1

Llanuwchllyn

Cymunedau Llanuwchllyn a Llangywer

1

Llanwnda

Cymuned Llanwnda

1

Llanystumdwy

Cymuned Llanystumdwy

1

Marchog

Ward Marchog Cymuned Bangor

2

Menai (Bangor)

Ward Menai Cymuned Bangor

2

Menai (Caernarfon)

Ward y Gogledd yng Nghymuned Caernarfon

1

Morfa Nefyn

Wardiau Edern a Morfa Nefyn yng Nghymuned Nefyn

1

Nefyn

Ward Nefyn Cymuned Nefyn

1

Ogwen

Ward Ogwen Cymuned Bethesda

1

Peblig (Caernarfon)

Ward Ddeheuol Cymuned Caernarfon

1

Penisa'r-waun

Wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiw las Cymuned Llanddeiniolen

1

Penrhyndeudraeth

Cymunedau Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth

1

Pentir

Cymuned Pentir

1

Pen-y-groes

Ward Pen-y-groes Cymuned Llanllyfni

1

Dwyrain Porthmadog

Ward y Dwyrain a Ward Ynys Galch yng Nghymuned Porthmadog

1

Gorllewin Porthmadog

Ward y Gest, Ward Morfa Bychan a Ward y Gorllewin yng Nghymuned Porthmadog

1

Porthmadog-Tremadog

Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog

1

Gogledd Pwllheli

Ward y Gogledd yng Nghymuned Pwllheli

1

De Pwllheli

Ward y De yng Nghymuned Pwllheli

1

Seiont

Ward y Gorllewin yng Nghymuned Caernarfon

2

Tal-y-sarn

Wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni

1

Teigl

Wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog

1

Trawsfynydd

Cymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd

1

Tre-garth a Mynydd Llandygái

Wardiau St Ann’s a Thre-garth Cymuned Llandygái

1

Tudweiliog

Cymuned Tudweiliog

1

Tywyn

Cymuned Tywyn

2

Waunfawr

Cymunedau Betws Garmon a Waunfawr

1

Y Felinheli

Cymuned y Felinheli

1

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y byddai'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Medi 1998 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Gwynedd.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau Aberdaron, Aberdyfi, Abererch, Aber-soch, Y Bala, Bethel, Y Bontnewydd, Botwnnog, Bowydd a'r Rhiw, Cadnant, Clynnog, Corris/Mawddwy, Criccieth, Deiniol, Deiniolen, Dewi, Dyffryn Ardudwy, Efailnewydd/Buan, Garth, Glyder, Harlech, Hendre, Hirael, Llanaelhaearn, Llanbedr, Llanbedrog, Llanberis, Llandderfel, Llanengan, Llanuwchllyn, Llanwnda, Marchog, Menai (Bangor), Nefyn, Ogwen, Peblig (Caernarfon), Pen-y-groes, Gogledd Pwllheli, De Pwllheli, Seiont, Trawsfynydd, Tudweiliog, Tywyn, Waunfawr, Y Felinheli.

Serch hynny, mae'r adrannau etholiadol newydd canlynol i'w creu:

  • Abermaw i gynnwys Cymuned Abermo ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Arllechwedd i gynnwys Cymunedau Aber, Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/Llanelltud i gynnwys Cymunedau Brithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Bryn-crug/Llanfihangel i gynnwys Cymunedau Bryn-crug, a Llanfihangel-y-Pennant ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Cwm-y-glo i gynnwys wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug, ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Adran Diffwys a Maenofferen i gynnwys ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Dolbenmaen i gynnwys wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Gogledd Dolgellau i gynnwys ward Ogleddol a ward Wledig Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • De Dolgellau i gynnwys ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Y Groeslon i gynnwys wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Llanystumdwy i gynnwys Cymuned Llanystumdwy ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Morfa Nefyn i gynnwys wardiau Edern a Morfa Nefyn Cymuned Nefyn ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Teigl i gynnwys wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Tre-garth a Mynydd Llandygái i gynnwys wardiau St Ann’s a Thre-garth Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

Bydd cyfansoddiad yr adrannau presennol canlynol yn newid:

  • Gerlan i gynnwys wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Llangelynnin i gynnwys Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Llanllyfni i gynnwys wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Penisa'r-waun i gynnwys wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiwlas Cymuned Llanddeiniolen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Dwyrain Porthmadog i gynnwys ward y Dwyrain a ward Ynys Galch Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Gorllewin Porthmadog i gynnwys ward y Gest, ward Morfa Bychan a ward y Gorllewin Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Porthmadog-Tremadog i gynnwys Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Tal-y-sarn i gynnwys wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

Mae newid hefyd yn y nifer o gynghorwyr ar gyfer yr adrannau canlynol:

  • Mae cynrychiolaeth Llanrug yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.

  • Mae cynrychiolaeth Menai (Caernarfon) yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.

  • Mae cynrychiolaeth Penrhyndeudraeth yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.

  • Mae cynrychiolaeth Pentir yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.