Gorchymyn Caerdydd a Bro Morgannwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002.
(2)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
Ystyr “Bro Morgannwg” (“Vale of Glamorgan”) yw Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
ystyr “Caerdydd” (“Cardiff”) yw Dinas a Sir Caerdydd;
ystyr “y map ffiniau ” (“the boundary map”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3.
Bydd y rhan o Fro Morgannwg sydd yng Nghymuned Llanfihangel-ynys-Afan ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Grangetown yng Nghaerdydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny fydd bod yr ardal (a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn cael ei throsglwyddo o gymuned Llanfihangel-ynys-Afan ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg i gymuned Grangetown yn Ninas a Sir Caerdydd ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym ac o ganlyniad bydd y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Dinas a Sir Caerdydd yn dilyn canol Afon Elái.
Cafodd printiau o'r map ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn Holton Road, y Bari, Bro Morgannwg, a swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.