xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith gydag addasiadau i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion addasedig hynny ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw'r canlynol:

(i)trosglwyddir cymuned Clynderwen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) o Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro;

(ii)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys tir ac eiddo a elwir “Troed y Rhiw”) (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;

(iii)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin;

(iv)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;

(v)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Gaerfyrddin yng nghyffiniau Fferm Pen-deri (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) ac nad yw'n cynnwys unrhyw anheddau yn dod yn rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Benfro fel y bydd y ffin yn yr ardal honno yn dilyn canol Afon Daulan.

Mae printiau o'r mapiau ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.