Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002
a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau ac effaith yr addasiadau yw cynnwys trosglwyddo'r tir a'r eiddo a elwir “Troed y Rhiw”;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002.
(2)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau C” (“boundary map C”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map C Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau Ch” (“boundary map D”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Ch Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau D” (“boundary map E”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map D Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
- ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)3;
ystyr “Sir Benfro” (“Pembrokeshire”) yw Sir Benfro;
ystyr “Sir Gaerfyrddin” (“Carmarthenshire”) yw Sir Gaerfyrddin.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3.
(1)
Mae cymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A yn cael ei gwahanu oddi wrth Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro.
(2)
Mae'r rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;
(3)
Mae'r rhan o gymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin.
(4)
Mae'r rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen.
(5)
Mae'r rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith gydag addasiadau i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion addasedig hynny ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw'r canlynol:
trosglwyddir cymuned Clynderwen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) o Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro;
bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys tir ac eiddo a elwir “Troed y Rhiw”) (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;
bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin;
bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;
bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Gaerfyrddin yng nghyffiniau Fferm Pen-deri (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) ac nad yw'n cynnwys unrhyw anheddau yn dod yn rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Benfro fel y bydd y ffin yn yr ardal honno yn dilyn canol Afon Daulan.
Mae printiau o'r mapiau ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.