RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig6.
(1)
Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2)
Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant oni bai bod y person—
(a)
yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)
yn gorff ac—
(i)
bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref plant; a
(ii)
bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3)
Dyma'r gofynion—
(a)
bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y cartref plant, neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw;
(b)
bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y cartref plant neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw; ac
(c)
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—
(i)
ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 3 i 7 o Atodlen 2;
(ii)
os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(4)
(5)
Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant—
(a)
os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu
(b)
os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Penodi rheolwr7.
(1)
Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg y cartref plant—
(a)
os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref plant; a
(b)
os yw'r darparydd cofrestredig—
(i)
yn gorff; neu
(ii)
heb fod yn berson ffit i reoli cartref plant; neu
(iii)
heb fod yn gyfrifol am y cartref plant yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
(2)
Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref plant, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
(a)
o enw'r person a benodwyd felly; a
(b)
o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
(3)
Os y darparydd cofrestredig yw'r person sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
Ffitrwydd y rheolwr8.
(1)
Rhaid i berson beidio â rheoli cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2)
Nid yw person yn ffit i reoli cartref plant—
(a)
oni bai ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref plant;
(b)
oni bai, o roi sylw i faint y cartref plant, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd)—
(i)
bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad y mae eu hangen i reoli'r cartref plant; a
(ii)
ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; a
(c)
oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—
(i)
ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)
os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
(3)
Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol9.
(1)
Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i'r canlynol—
(a)
maint y cartref plant;
(b)
datganiad o ddiben y cartref plant; ac
(c)
nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd),
redeg y cartref neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol;
(2)
Os yw'r darparydd cofrestredig—
(a)
yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)
os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref plant.
(3)
Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r cartref ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref plant.
Hysbysu tramgwyddau10.
(1)
Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
(a)
o ddyddiad a man y collfarniad;
(b)
o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac
(c)
o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.