RHAN IVGOFYNION YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I YSBYTAI ANNIBYNNOL

PENNOD 1GWASANAETHAU PATHOLEG, DADEBRU A THRIN PLANT MEWN YSBYTAI ANNIBYNNOL

Trin plant35

Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, pan fo plentyn yn cael ei drin yn yr ysbyty—

a

bod y plentyn yn cael ei drin mewn llety sydd ar wahân i'r llety y mae cleifion sy'n oedolion yn cael eu trin ynddo;

b

bod anghenion meddygol, corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac addysgol penodol ac anghenion penodol am oruchwyliaeth sy'n deillio o oedran y plentyn yn cael eu bodloni;

c

bod triniaeth y plentyn yn cael ei darparu gan bersonau â chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad priodol mewn trin plant;

ch

bod rhieni'r plentyn yn cael eu hysbysu'n llawn o gyflwr y plentyn ac i'r graddau y bo hynny'n ymarferol ymgynghorir â hwy ynghylch pob agwedd o driniaeth y plentyn, heblaw pan fo'r plentyn yn gymwys i roi cydsyniad i driniaeth ac nad ydyw am i'w rieni gael eu hysbysu a'u hymgynghori ynghylch hynny.