(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys i ysbytai annibynnol a chlinigau annibynnol yng Nghymru. Mewn perthynas â Chymru mae'r Ddeddf yn darparu bod sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys sefydliadau gofal iechyd preifat a gwirfoddol, yn cael eu cofrestru a'u harchwilio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n llywodraethu eu hymddygiad.

Mae adran 2 o'r Ddeddf yn diffinio nifer o “listed services” (“gwasanaethau rhestredig”) sydd (os ydynt yn cael eu darparu mewn sefydliad) yn dod â sefydliad o fewn y diffiniad o ysbyty annibynnol. Mae rheoliad 3 yn darparu bod “gwasanaethau rhestredig” yn cynnwys triniaeth drwy ddefnyddio'r technegau a'r technolegau rhagnodedig sydd wedi'u nodi yn rheoliad 3(1). Mae rheoliad 3(2) yn eithrio technegau penodol a thechnoleg benodol, sef triniaeth wres is-goch benodol, triniaeth laser benodol a defnyddio lampau uwchfioled i gael lliw haul artiffisial, rhag bod yn “wasanaethau rhestredig”. Mae rheoliad 3(2) yn hepgor sefydliadau penodol o'r diffiniad o ysbyty annibynnol o dan adran 2 o'r Ddeddf. Mae'r eithriadau yn cynnwys sefydliadau sy'n darparu triniaeth feddygol neu seiciatrig ond nad oes ganddynt welyau dros nos i gleifion, sefydliadau sy'n ysbytai'r lluoedd arfog o dan Ddeddf Lluoedd Arfog 1981, neu sy'n sefydliadau sy'n darparu ar gyfer tramgwyddwyr o dan Ddeddf Carchardai 1952. Yn ychwanegol, mae clinigau annibynnol (fel y'u diffinnir yn y Rheoliadau hyn) yn cael eu hepgor, yn ogystal â sefydliadau lle mae ymarferwyr cyffredinol yn darparu gwasanaethau GIG, ond lle gall fod lleiafrif bychan o gleifion preifat sy'n cael triniaeth hefyd. Mae preswylfan preifat claf yn cael ei hepgor hefyd ar yr amod mai dim ond i'r claf hwnnw y mae triniaeth yn cael ei darparu yno. Mae meddygfeydd ac ystafelloedd ymgynghori (sy'n rhai ar wahân i ysbyty) sy'n darparu gwasnaethau meddygol o dan drefniadau sy'n cael eu gwneud ar ran cleifion gan eu cyflogwyr neu eraill yn cael eu hepgor hefyd, yn ogystal â meysydd chwarae a champfeydd lle mae triniaeth yn cael ei rhoi i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau chwaraeon.

Mae rheoliad 3(4) yn addasu'r diffiniad o lawfeddygaeth gosmetig at ddibenion adran 2(7) o'r Ddeddf fel nad yw “gwasanaethau rhestredig” yn cynnwys tyllu'r clustiau a'r corff, tatŵ io, chwistrellu sylweddau i mewn i'r croen at ddibenion cosmetig a thynnu gwreiddiau gwallt a mân feflau ar y croen drwy ddefnyddio gwres sy'n defnyddio cerrynt trydan.

Mae rheoliad 4 yn difinio ystyr y term “clinig annibynnol”.

Rhaid i bob sefydliad gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion sydd wedi'u nodi yn Atodlen 1 ac arweiniad cleifion i'r sefydliad y mae'n rhaid eu cadw o dan sylw (rheoliadau 5 i 7). Yn rhinwedd rheoliad 5(3) rhaid i'r sefydliad gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae rheoliad 8 yn nodi'r polisïau a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid eu paratoi a'u gweithredu mewn perthynas â sefydliad.

Mae rheoliadau 9 i 13 yn gwneud darparariaeth ynglŷn â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli sefydliad ac yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 9). Mae rheoliadau 10 ac 11 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y sefydliad ac yn rhagnodi gofynion ar gyfer ffitrwydd rheolwr. Mae rheoliad 12 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â'r dull priodol o redeg sefydliad a'r angen am hyfforddiant priodol. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o dramgwyddau a chyhuddiadau o dramgwyddau penodol.

Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch rhedeg sefydliadau, yn enwedig ynghylch ansawdd y gwasanaethau sydd i'w darparu mewn sefydliad, gan gynnwys materion ynglŷn â phreifatrwydd ac urddas cleifion a'r defodau crefyddol y maent yn eu parchu, staffio'r sefydliad, addasrwydd y cyflogeion ac ynghylch cwynion a chadw cofnodion. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch addasrwydd safleoedd a'r rhagofalon tân sydd i'w cymryd a dull rheoli'r sefydliadau. Mae'n ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r sefydliad fel a ragnodir (rheoliad 25) ac mae rheoliad 26 yn gosod gofynion ynghylch hyfywdra ariannol y sefydliad. Mae rheoliadau 27 i 31 yn ymdrin â rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd yna ddigwyddiadau penodol megis marwolaeth claf neu anaf difrifol iddo; yn achos absenoldeb rheolwr o'r sefydliad; pan fydd newidiadau penodol yn digwydd, er enghraifft, newid yn y person cofrestredig a phersonél eraill neu newidiadau sylweddol i safleoedd; pan fydd datodwyr ac eraill yn cael eu penodi a phan fydd y person cofrestredig yn marw.

Mae Rhan IV ac Atodlen 4 yn nodi gofynion ychwanegol sy'n gymwys i ysbytai annibynnol mewn perthynas â gwasanaethau patholeg, dadebru, trin plant, gweithdrefnau llawfeddygol penodol, triniaeth ddeintyddol, gwasanaethau obstetrig a defnyddio technegau a thechnolegau penodol.

Mae Rhan V (rheoliad 47) yn cynnwys gofynion ychwanegol pan fo clinig annibynnol yn darparu gofal cynenedigol.

Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol. Yn benodol, mae rheoliad 49 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir dyfarnu bod torri rheoliadau 5 i 14, 15(1) i (4), 16 i 31, 33 i 41 a 43 i 47 yn dramgwydd.