Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002
Rhan ICyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad risg amgylcheddol” (“environmental risk assessment”) yw'r asesiad risg amgylcheddol y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan reoliad 12(1)(c) a rheoliad 17(2)(c) yn ôl eu trefn;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol;
F1ystyr “bwyd a addaswyd yn enetig” (“genetically modified food”) yw—
- (a)
bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu fwyd sydd wedi'i wneud o organeddau a addaswyd yn enetig;
- (b)
bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu
- (c)
organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;
- (a)
mae “cais am ganiatâd i ollwng” (“application for consent to release”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad a wneir o dan Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd);
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Ewropeaidd;
- ystyr “Cyfarwyddeb 1990” (“the 1990 Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC4 ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1994/15/EC5 a Chyfarwyddeb y Comisiwn 1997/35/EC6;
- mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 20007);
ystyr “cynllun monitro” (“monitoring plan”) yw'r cynllun sy'n ofynnol gan reoliad 17(2)(e);
ystyr “cynnyrch wedi'i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf neu yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) a (4) o Gyfarwyddeb 1990;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr gyhoeddus sy'n cael ei chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf;
ystyr “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”) yw F2Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig ;
F3“ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC4 ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig F4fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) F52018/350 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asesu risg amgylcheddol organeddau a addaswyd yn enetig ”
ystyr “marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig” (“antibiotic resistance markers”) yw genynnau a ddefnyddir wrth addasu organedd fel bod yr organedd hwnnw yn mynegi ymwrthedd i wrthfiotig neu wrthfiotigau penodol;
ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” (“genetically modified organisms”) yw organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig;
ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd” (“the Advisory Committee on Releases to the Environment”) yw'r Pwyllgor a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 124 o'r Ddeddf;
- ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 199212;
ystyr “uwchblanhigyn” (“higher plant”) yw planhigyn sy'n perthyn i'r grŵ p tacsonomig Spermatophytae (Gymnospermae neu Angiospermae).
(2)
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw; a
(b)
mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad hwnnw yn digwydd ynddo.
Dynodi awdurdod cymwys3.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr awdurdod cymwys mewn perthynas â Chymru at ddibenion y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
Diben Rhan VI o'r Ddeddf ac ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” ayb4.
(1)
Mae diwygiadau adran 106 o'r Ddeddf (diben Rhan VI o'r Ddeddf ac ystyr “genetically modified organisms” ayb), a wnaed gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn:
(2)
“(1)
This Part has effect for the purpose of ensuring that all appropriate measures are taken to avoid damage to the environment which may arise from the escape or release from human control of genetically modified organisms.”,
yn effeithiol hefyd yng Nghymru.
(3)
“(a)
have been artificially modified, or”,
yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(4)
Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(4) o'r Rheoliadau hynny (sy'n mewnosod is-adrannau (4A) i (4D)) yn cael ei addasu gan baragraff (5) ac, o'i addasu felly, mae'n effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(5)
Yn is-adran (4D), fel y'i mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl “Secretary of State” mewnosodwch— “or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales”.
(6)
“(4A)
Genes or other genetic material in an organism are “artificially modified” for the purposes of subsection (4) above if they are altered otherwise than by a process which occurs naturally in mating or natural recombination.
This subsection is subject to subsections (4B) and (4C) below.
(4B)
For the purposes of subsection (4) above—
(a)
genes or other genetic material shall be taken to be artificially modified if they are altered using such techniques as may be prescribed for the purposes of this paragraph;
(b)
genes or other genetic material shall not be regarded as artificially modified by reason only of being altered by the use of such techniques as may be prescribed for the purposes of this paragraph.
(4C)
An organism shall be taken not to be a genetically modified organism for the purposes of this Part if it is an organism of a prescribed description.
(4D)
In subsections (4B) and (4C) above “prescribed” means prescribed by regulations made by the Secretary of State, or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales.”.
(7)
Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(5) o'r Rheoliadau hynny (sy'n hepgor is-adrannau (5) a (6)) yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
Ystyr “damage to the environment” ayb5.
(1)
Mae diwygiadau adran 107 o'r Ddeddf (ystyr “damage to the environment” ayb) a wnaed gan reoliad 4 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, fel y'u disgrifir ym mharagraff (2), yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(2)
Mae'r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)
“(2)
The “environment” includes land, air and water and living organisms supported by any of those media”,
(b)
yn is-adran (3) (ystyr “damage to the environment”) yn hepgor “to the living organisms supported by the environment”,
(c)
“(6)
“Harm” means any adverse effects as regards the health of humans or the environment”,
(ch)
“(9)
Organisms of any description are under the “control” of a person where he keeps them contained by measures designed to limit their contact with humans and the environment and to prevent or minimise the risk of harm.”,
(d)
“(11)
Genetically modified organisms of any description are “marketed” by a person when products consisting of or including such organisms are placed on the market by being made available to other persons, whether or not for consideration.”.
Technegau addasu genetig6.
(1)
(a)
technegau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno sy'n cynnwys ffurfio cyfuniad newydd o ddeunydd genetig drwy fewnosod molecylau asid niwclëig a gynhyrchir drwy ba ddull bynnag y tu allan i organedd, i mewn i unrhyw firws, plasmid bacterol neu system fector arall a'u hymgorffori mewn organedd lletyol lle nad ydynt yn digwydd yn naturiol ond mae modd iddynt barhau i epilio;
(b)
technegau sy'n cynnwys cyflwyno'n uniongyrchol i mewn i organedd ddeunydd etifeddadwy a baratowyd y tu allan i'r organedd gan gynnwys microbigiad, macrobigiad a microamgáu;
(c)
ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) neu dechnegau croesiad pan gaiff celloedd byw gyda chyfuniadau newydd o ddeunydd genetig etifeddadwy eu ffurfio drwy ymasu dwy gell neu fwy drwy ddulliau nad ydynt yn digwydd yn naturiol.
(5)
Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(b) o'r Ddeddf i rym, rhaid peidio ag ystyried bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, yn rhai sydd wedi'u haddasu'n artiffisial ond am eu bod wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:
(a)
ffrwythloni in vitro,
(b)
prosesau naturiol megis cydgysylltiad, trosglwyddiad a thrawsnewid; ac
(c)
anwythiad polyploidedd,
ar yr amod nad yw technegau o'r fath yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau ac eithrio—
(i)
mwtagenesis;
(ii)
ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) celloedd planhigion neu organeddau sy'n gallu cyfnewid deunydd genetig trwy ddulliau bridio traddodiadol.
(6)
Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4C) o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd nad yw organedd, at ddibenion Rhan VI o'r Ddeddf, yn organedd a addaswyd yn enetig os yw'n gynnyrch a gafwyd drwy'r technegau neu'r dulliau a restrir ym mharagraffau (2)(i) neu (ii) ar yr amod nad oedd y technegau neu'r dulliau hynny yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio'r rhai a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau a restrir yn y paragraff hwnnw.
Asesiad risg amgylcheddol7.
(1)
Rhaid i asesiad risg amgylcheddol sydd wedi'i gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau wedi'u haddasu'n enetig—
(a)
canfod a gwerthuso'r niwed posibl i'r amgylchedd, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, boed yn ddi-oed neu'n ohiriedig, a allai ddeillio o ganlyniad i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig;
(b)
cael ei gyflawni yn unol ag Atodlen II o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol a chynnwys y casgliadau sy'n ofynnol yn Adran D o'r Atodlen honno; ac
(c)
cynnwys unrhyw gyfeiriadau llyfryddol a dangos y dulliau a ddefnyddiwyd lle bo hynny'n berthnasol.
(2)
Pan fo'r genynnau a addaswyd yn enetig yn cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i'r asesiad risg amgylcheddol gynnwys archwiliad o'r risgau penodol o niwed i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng neu farchnata'r organeddau hynny a addaswyd yn enetig .
Cyfathrebu â cheisydd am ganiatâd8.
(1)
Pryd bynnag y bydd yn ofynnol i geisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu ei bod hi'n ofynnol i ddeiliad caniatâd o'r fath o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno unrhyw ddogfen yn ysgrifenedig, boed hynny cyn neu ar ôl i ganiatâd gael ei roi, mae'n ofynnol iddo gyflwyno'r ddogfen honno ar ffurf papur ac ar ffurf electronig a ddefnyddir yn gyffredin.
(2)
Pryd bynnag y bydd yn ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw gyfathrebiad oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru at y ceisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd fod yn ysgrifenedig, bydd “ysgrifenedig” yn cynnwys cyfathrebiad electronig.
(3)
Rhaid i unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn iddynt fod yn ysgrifenedig ac nad ydynt yn dod o dan ddarpariaethau paragraff (1) neu (2) uchod fod ar ffurf papur.
Rhan IIGOLLWNG ORGANEDDAU YN FWRIADOL AT UNRHYW DDIBEN AC EITHRIO EU GOSOD AR Y FARCHNAD
Y gofyniad am ganiatâd i ollwng9.
Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf mewn perthynas â gollwng unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau lle bwriedir gollwng organeddau a addaswyd yn enetig.
Gweithgareddau esempt10.
Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(7) o'r Ddeddf lle mae personau yn esempt rhag gofynion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'r gofynion hynny yn gymwys i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, yw'r holl achosion ac amgylchiadau lle mae gollwng yn unol â chaniatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1)(a) o'r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig neu lle mae cynnyrch a gymeradwywyd yn cael ei ollwng yn unol â'r amodau a'r cyfyngiadau y mae defnyddio'r cynnyrch yn ddarostyngedig iddynt.
Ceisiadau am ganiatâd i ollwng — darpariaethau cyffredinol11.
(1)
Rhaid i gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig gael ei wneud yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)
Caniateir hysbysu gollyngiadau arfaethedig o'r un organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig ar yr un safle neu ar safleoedd gwahanol at yr un diben ac o fewn cyfnod penodedig mewn un cais.
(3)
Pan fynegir bod cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn dibynnu ar Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd), os bydd unrhyw anghysondeb yn y gofynion ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan y Penderfyniad hwnnw a'r gofynion ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan y Rheoliadau hyn, darpariaethau'r Penderfyniad hwnnw fydd yn trechu.
Gwybodaeth i'w chynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng12.
(1)
Rhaid i gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig gynnwys—
(a)
F6yn ddarostyngedig i baragraff (1A), yr wybodaeth a ragnodir yn—
(i)
Atodlen 1 pan fo'r cais am ganiatâd i ollwng unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu
(ii)
Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,
F7...
(b)
gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau, a gynhaliwyd gan y ceisydd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol ar gyfer gollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau, y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf neu i unrhyw awdurdod cymwys arall yn unol ag Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol,
(c)
asesiad risg amgylcheddol, a baratowyd yn unol â rheoliad 7,
(ch)
crynodeb ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol, o'r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais.
F8(d)
crynodebau o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais a’u canlyniadau, gan gynnwys esboniad o’u perthnasedd i’r asesiad risg amgylcheddol, fel y bo’n briodol.
F9(1A)
Dim ond os oes ei hangen er mwyn cwblhau asesiad risg amgylcheddol yng nghyd-destun cais penodol y mae’n ofynnol darparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1)(a), a gall lefel y manylder y mae rhaid ei ddarparu amrywio yn ôl natur a graddfa’r gollyngiad bwriadol arfaethedig.
(3)
Caiff y cais gynnwys—
(a)
data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi o gytundeb ysgrifenedig y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais, a
(b)
mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac
(c)
unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.
(3)
Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (2)(b).
Hysbysebu cais am ganiatâd i ollwng13.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod fan bellaf ar ôl iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, beri i hysbysiad yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol gael ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau sydd i'w pennu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)
enw a chyfeiriad y ceisydd,
(b)
disgrifiad cyffredinol o'r organeddau sydd i'w gollwng,
(c)
lleoliad a diben y gollyngiad,
(ch)
dyddiad neu ddyddiadau arfaethedig y gollyngiad,
(d)
datganiad y caiff gwybodaeth am y cais ei gosod ar y gofrestr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn deuddeg diwrnod i'r cais ddod i law,
(dd)
drwy ba fodd y gellir archwilio'r gofrestr,
(e)
datganiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo mewn perthynas â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig o fewn cyfnod y bydd yn ei bennu yn unol â'r Rheoliadau hyn,
a rhaid iddo anfon copi o'r cyhoeddiad sy'n cynnwys yr hysbyseb yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)
Nid oes rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) uchod gynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (c) ac (ch) o'r paragraff hwnnw i'r graddau nad yw'r Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd) yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth honno gael ei chyflwyno gyda'r cais ac nad yw'r wybodaeth honno yn cael ei chyflwyno gyda'r cais.
(3)
Rhaid i geisydd am ganiatâd ddarganfod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru lefel y manylion ar gyfer y man gollwng a gaiff eu gosod ar y gofrestr a chynnwys yr un lefel o fanylion yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi o dan baragraff (1) uchod.
(4)
Rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod wedi iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, hysbysu'r personau canlynol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud y cais a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad hwnnw yr wybodaeth a ragnodwyd ym mharagraff (1)(a) i (e), ac eithrio i'r graddau y mae paragraff (2) yn caniatáu i'r fath wybodaeth gael ei heithrio o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—
(a)
yr awdurdod lleol ac unrhyw gynghorau cymuned ar gyfer ardal neu ardaloedd pob gollyngiad arfaethedig,
(b)
perchenog neu berchnogion y safle neu safleoedd pob gollyngiad arfaethedig, os yw'n berson heblaw am y ceisydd,
F10(c)
unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014,
(ch)
Cymdeithas Awdurdodau Parc Cenedlaethol,
(d)
F11Corff Adnoddau Naturiol Cymru ,
F12(dd)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
a rhaid iddo anfon copïau o'r hysbysiadau yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Darpariaethau trosiannol ar gyfer gollwng14.
Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn 31 Rhagfyr 2002 yn unol â Rheoliadau 1992 ac nad yw wedi penderfynu'r cais eto—
(a)
bydd y cais yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn;
(b)
rhaid i'r ceisydd gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd wedi'i darparu eisoes mewn cysylltiad â'r cais, unrhyw wybodaeth bellach sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn erbyn 17 Ionawr 2003;
(c)
rhaid trin y cais fel un sydd wedi'i anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion rheoliadau 13(1) a (4) ac sydd wedi dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion rheoliad 21 pan fydd yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (b) wedi'i chyflwyno; ac
(ch)
os nad yw'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (b) wedi'i chyflwyno erbyn 17 Ionawr 2003, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthod bwrw ymlaen â'r cais.
Rhan IIIGOSOD ORGANEDDAU AR Y FARCHNAD FEL CYNHYRCHION NEU MEWN CYNHYRCHION
Y gofyniad am ganiatâd i farchnata15.
Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf mewn perthynas â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau mewn perthynas â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig.
Gweithgareddau esempt16.
(1)
Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adrannau 108(7) a 111(7) o'r Ddeddf lle mae personau yn esempt rhag gofynion adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (i gynnal asesiad risg) ac adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (i sicrhau caniatâd), yn ôl eu trefn, i'r graddau y maent yn ymwneud â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau—
(a)
lle mae cynnyrch a gymeradwywyd yn cael ei farchnata at ddefnydd y mae wedi'i gymeradwyo ar ei gyfer F13ac yn unol â'r cyfyngiadau a'r amodau y mae defnydd y cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt ;
(b)
lle mae micro-organeddau a addaswyd yn enetig wedi'u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig;
(c)
lle mae organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio micro-organeddau sy'n dod o dan baragraff (b) wedi'u rhoi ar gael i'w defnyddio'n unig ar gyfer gweithgareddau lle mae mesurau amgáu llym priodol yn seiliedig ar yr un egwyddorion o amgáu â'r rhai a bennir yn y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig er mwyn cyfyngu ar y cysylltiad rhyngddynt â'r boblogaeth yn gyffredinol a'r amgylchedd a sicrhau lefel uchel o ddiogelwch iddynt;
(ch)
lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi'u rhoi ar gael i'w defnyddio'n unig ar gyfer gollyngiadau bwriadol sy'n cydymffurfio â'r gofynion a nodwyd yn Rhan II;
(d)
F17(e)
lle mae bwyd neu fwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig neu a awdurdodwyd o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn cael ei farchnata.
Cais am ganiatâd i farchnata17.
(1)
Rhaid gwneud cais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)
Rhaid i gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig nad yw'n gais am adnewyddu caniatâd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a)
F18yn ddarostyngedig i baragraff (2A), yr wybodaeth a ragnodir yn—
(i)
F19Atodlen 1A pan fo'r cais yn gais am ganiatâd i farchnata unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu
(ii)
Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,
F20...
(b)
gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau a gyflawnwyd gan y ceisydd naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r F21Undeb Ewropeaidd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol am ganiatâd i ollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn neu i awdurdod cymwys arall yn unol ag adran 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
(c)
asesiad risg amgylcheddol a baratowyd yn unol â rheoliad 7;
(ch)
yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3;
(d)
yr amodau arfaethedig ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys amodau penodol ar gyfer ei ddefnyddio a'i drin;
(dd)
cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd na fydd yn hwy na deng mlynedd;
(e)
cynllun monitro wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol y mae'n rhaid iddo gynnwys cynnig ar gyfer cyfnod amser y cynllun a all fod yn wahanol i'r cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd;
(f)
cynnig ar gyfer labelu sy'n cydymffurfio â'r gofynion a bennwyd yn Atodlen 3;
(ff)
cynnig ar gyfer y pacediad;
(g)
crynodeb o'r cais ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
F22(ng)
mewn cysylltiad â phob is-set o wybodaeth sy’n ofynnol yn y paragraff hwn—
(i)
crynodebau o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais a’u canlyniadau, gan gynnwys esboniad o’u perthnasedd i’r asesiad risg amgylcheddol, fel y bo’n briodol,
(ii)
manylion yr astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais, gan gynnwys y deunyddiau a’r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at ddulliau safonedig neu ddulliau a gydnabyddir yn rhyngwladol ac enw’r corff neu’r cyrff sy’n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau hynny.
F23(2A)
Dim ond os oes ei hangen er mwyn cwblhau asesiad risg amgylcheddol yng nghyd-destun cais penodol y mae’n ofynnol darparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(a), a gall lefel y manylder y mae rhaid ei ddarparu amrywio yn ôl natur a graddfa’r gollyngiad arfaethedig o ganlyniad i farchnata uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig.
(3)
Caiff y cais gynnwys hefyd—
(a)
data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi ysgrifenedig o gytundeb y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais,
(b)
mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac
(c)
unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.
(4)
Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir yn unol ag is-baragraffau (2)(a) ac (ch) gymryd i ystyriaeth amrywiaeth y safleoedd sy'n defnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth am unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o ymchwil a gollyngiadau datblygiadol ar effaith y gollyngiadau ar iechyd dynol a'r amgylchedd;
(5)
Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (3)(b).
(6)
Pan fydd y ceisydd yn gallu dangos yn ei gais er bodlonrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar sail canlyniadau unrhyw ollyngiad gan ddilyn ac yn unol â chaniatâd a roddwyd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf o dan Ran B o naill ai'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Gyfarwyddeb 1990, neu am resymau gwyddonol rhesymegol sylweddol eraill, nad yw marchnata a defnyddio'r cynnyrch yn peri risg o niweidio'r amgylchedd, gall gynnig peidio â chyflenwi rhan neu'r cyfan o'r wybodaeth ragnodedig yn Rhan II o Atodlen 3.
Darpariaeth drosiannol ar gyfer marchnataF2418.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Mesurau trosiannol ar gyfer presenoldeb damweiniol neu dechnegol anochel deunydd a addaswyd yn enetig sydd wedi elwa o werthusiad risg ffafriolF2518A.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Ceisiadau am adnewyddu caniatâd i farchnata19.
(1)
Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig, o dan adran 111(1) o'r Ddeddf, rhaid i unrhyw gais am adnewyddu'r caniatâd hwnnw gael ei wneud yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)
cyn 17 Hydref 2006 pan roddwyd y caniatâd cyn 17 Hydref 2002, a
(b)
cyn pen naw mis cyn i'r caniatâd ddirwyn i ben ym mhob achos arall.
(2)
Rhaid i'r cais gynnwys—
(a)
copi o'r caniatâd i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig,
(b)
pan fo hynny'n gymwys, adroddiad ar ganlyniadau'r monitro a gynhaliwyd yn unol â gofynion rheoliad 29(dd),
(c)
unrhyw wybodaeth newydd arall sydd wedi dod ar gael mewn perthynas â'r risgiau y bydd y cynnyrch yn peri niwed i'r amgylchedd,
(ch)
fel y bo'n briodol, cynnig ar gyfer diwygio amodau'r caniatâd gwreiddiol neu ychwanegu atynt, gan gynnwys yr amodau sy'n ymwneud â monitro yn y dyfodol a therfynau amser y caniatâd newydd.
(3)
Rhaid i unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a gafodd ei roi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf cyn 17 Hydref 2002 nad oes cais i'w adnewyddu o dan baragraff (1) uchod wedi dod i law cyn 17 Hydref 2006 gael ei drin fel pe bai wedi dirwyn i ben ar y dyddiad hwnnw.
Rhan IVDYLETSWYDDAU AR ÔL GWNEUD CEISIADAU
Dyletswydd y ceisydd ar ôl gwneud cais am ganiatâd i ollwng neu i farchnata20.
(1)
“A notice under this subsection must state the reasons for requiring the further information specified in the notice.”
yn effeithiol mewn perthynas â Chymru.
(2)
Rhaid i geisydd am ganiatâd i ollwng neu i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw wybodaeth yn unol ag adran 111(6A) o'r Ddeddf (y gofyniad i'r ceisydd roi hysbysiad o wybodaeth newydd am risgiau o niwed i'r amgylchedd) gyflwyno yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fersiwn ddiwygiedig o'r cais gwreiddiol am ganiatâd sydd wedi'i ddiwygio i gymryd yr wybodaeth newydd i ystyriaeth.
Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am ganiatâd i ollwng21.
Ar ôl cael cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)
hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;
(b)
gwahodd unrhyw berson drwy gyfrwng cais sy'n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau iddo mewn perthynas â'r gollyngiad cyn diwedd cyfnod sydd i'w bennu, sef cyfnod y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe deg diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i'w law;
(c)
sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon ymlaen i'r Comisiwn o fewn 30 diwrnod;
(ch)
archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r rheoliadau hyn;
(d)
gwerthuso'r risgiau y bydd yr amgylchedd yn cael ei niweidio gan y gollyngiad arfaethedig gan barchu'r asesiad risg amgylcheddol;
(dd)
cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy'n ymwneud â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd drwy ollwng cyn diwedd y cyfnod a bennwyd yn unol â pharagraff (b) ac unrhyw sylwadau a wnaed gan awdurdod neu awdurdodau cymwys Aelod-wladwriaethau eraill wedi i'r Comisiwn ddosbarthu iddynt y crynodeb y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i ollwng22.
(1)
F26(2)
rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod cydsyniad i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliadau 21(b) ac (dd) uchod ac, os daw unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21(dd) i law cyn pen y cyfnod hwnnw, cyn iddo ystyried y sylwadau hynny.
(3)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfathrebu ei benderfyniad ar gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig i'r ceisydd a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i'r Comisiwn cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law a chydag unrhyw gais a fydd yn cael ei wrthod rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad.
(4)
Ni fydd y cyfnod a ragnodwyd ym mharagraff (3) yn cynnwys—
(a)
unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu'n ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf bod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais ac sy'n gorffen ar y diwrnod pan fydd yr wybodaeth honno yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
(b)
cyfnod amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 21(b), ar yr amod na fydd yr ystyriaeth hon yn ymestyn y cyfnod o 90 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan fwy na 30 diwrnod.
(5)
Rhaid i ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig ei gwneud hi'n ofynnol i'r ceisydd anfon unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i asesu'r risg o beri niwed i'r amgylchedd, gyda chyfeiriad penodol, pan fo hynny'n briodol, at unrhyw gynnyrch y bwriedir ei farchnata yn y dyfodol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cwblhau'r gollyngiad ac wedi hynny, bob hyn a hyn yn ôl yr hyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn barnu ei fod yn briodol ar sail canlyniadau'r asesiad risg amgylcheddol.
(6)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon i'r Comisiwn yr wybodaeth a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (5).
Amrywio neu ddiddymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig23.
Dim ond pan fydd gwybodaeth newydd ar gael iddo a allai yn ei farn ef effeithio ar yr asesiad o'r risg o beri niwed i'r amgylchedd y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o'r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd.
Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig24.
(1)
Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)
hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;
(b)
sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon yn ddi-oed i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau;
(c)
archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;
(ch)
cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod, gan ddechrau â'r diwrnod y daeth y cais i'w law, naill ai—
(i)
anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi y dylai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu
(ii)
wrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi na ddylid marchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig;
(d)
sicrhau bod copi o'r cais yn cael ei anfon i'r Comisiwn pan gaiff ei fodloni ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion a ragnodwyd yn rheoliad 15 a hynny heb fod yn hwyrach na phan y bydd yn anfon ei adroddiad asesu yn unol â pharagraff (ch).
(2)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod—
(i)
ei adroddiad asesu,
(ii)
unrhyw wybodaeth bellach y mae wedi'i chael oddi wrth y ceisydd yn unol â chyflwyno hysbysiad o dan adran 111(6) o'r Ddeddf,
(iii)
unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi seilio'i adroddiad asesu arni,
yn cael eu hanfon ymlaen i'r Comisiwn o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(i), cyn pen diwedd cyfnod o naw deg diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(ii), heb fod yn gynt na phymtheg diwrnod o'r dyddiad pan anfonodd yr adroddiad asesu at y ceisydd a heb fod yn hwyrach na chant a phum diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i law.
(3)
Ni chaiff y cyfnodau o naw deg diwrnod a ragnodwyd ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4)
Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.
Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig25.
(1)
Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n dangos y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata a naill ai—
(a)
nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
(b)
bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 15(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 105 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
(c)
os oes gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.
(2)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn o'i benderfyniad i roi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o roi ei ganiatâd.
(3)
At y diben o gyfrifo'r cyfnod o bedwar deg pum diwrnod terfynol y cant a phum diwrnod yn is-baragraff (1)(b) uchod, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod pan ddisgwylir gwybodaeth bellach gan y ceisydd.
(4)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan roddwyd y caniatâd.
(5)
(6)
Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig26.
(1)
Wrth gael cais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)
hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;
(b)
archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;
(c)
naill ai—
(i)
anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 ac sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu
(ii)
gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu sy'n nodi na ddylid parhau i farchnata'r organedd a addaswyd yn enetig;
(ch)
sicrhau bod copi o'r cais a'i adroddiad asesu yn cael ei anfon i'r Comisiwn.
(2)
Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.
Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig27.
(1)
Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig a naill ai—
(a)
nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
(b)
bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb eu penderfynu wedi'u datrys yn unol ag Erthygl 17(8) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 75 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn ei adroddiad asesu, neu
(c)
bod gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.
(2)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod yr awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn yn cael eu hysbysu o'i benderfyniad i adnewyddu'r caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o'i adnewyddu.
(3)
Caiff caniatâd a adnewyddwyd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm o 10 mlynedd oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod modd cyfiawnhau cyfnod byrrach neu gyfnod hwy, ac os felly rhaid iddo roi ei resymau yn ysgrifenedig.
(4)
Caiff y ceisydd barhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig o dan yr amodau a bennwyd yn y caniatâd gwreiddiol hyd nes y bydd y cais wedi'i benderfynu'n derfynol.
Organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig28.
(1)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi caniatâd ar gyfer cais am ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig a allai gael effaith andwyol ar iechyd dynol a'r amgylchedd ar ôl—
(i)
31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata, a
(ii)
31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau.
(2)
Os cyn 31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata a 31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau, y mae cais yn cael ei wneud am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru werthuso'r wybodaeth yn yr asesiad amgylcheddol sy'n mynd gyda'r cais, gan ystyried yn benodol y marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig hynny a ddefnyddir ar gyfer triniaethau meddygol neu filfeddygol, gyda'r nod o ganfod a diddymu'n raddol y weithred o ollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y paragraff hwnnw.
Rhan VDARPARIAETHAU CYFFREDINOL AR GYFER CANIATADAU
Darpariaethau cyffredinol caniatadau i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig29.
Rhaid i ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf bennu—
(a)
cwmpas y caniatâd, gan gynnwys pa rai yw'r organeddau a addaswyd yn enetig sydd i'w marchnata, a'u marc adnabod unigryw;
(b)
y cyfnod pan fydd y caniatâd yn ddilys;
(c)
yr amodau ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys unrhyw amodau penodol ar gyfer defnyddio, trafod a phecynnu'r organeddau a addaswyd yn enetig, a'r amodau ar gyfer diogelu ecosystemau penodol neu amgylcheddau neu ardaloedd daearyddol fel y bo'n gymwys;
(ch)
bod rhaid i'r ceisydd sicrhau bod samplau rheoli ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os gwneir cais amdanynt;
(d)
gofynion labelu, yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 3, a rhaid iddynt gynnwys gofyniad i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw enw masnachol newydd y cynnyrch ar ôl i ganiatâd gael ei roi;
(dd)
gofynion monitro y mae yn rhaid iddynt fod yn unol â'r cynllun monitro, a rhaid iddynt gynnwys cyfnod amser y cynllun monitro, rhwymedigaeth bod rhaid i'r ceisydd gyflwyno'r adroddiadau monitro i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau a, phan fo hynny'n briodol, unrhyw rwymedigaethau sydd ar unrhyw berson sy'n gwerthu'r cynnyrch neu unrhyw ddefnyddiwr i ddarparu gwybodaeth am lefel briodol ar leoliad yr organeddau a addaswyd yn enetig.
Amodau cyffredinol mewn caniatadau i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig30.
(1)
Mae'r diwygiadau i adran 112 o'r Ddeddf (caniatadau: cyfyngiadau ac amodau) a wnaed gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.
(2)
Mae'r diwygiad i is-adran (1) a wnaed gan reoliad 29(2) o'r rheoliadau hynny, sy'n mewnosod ar ddiwedd yr is-adran honno y geiriau “for the purpose of ensuring that all appropriate measures are taken to avoid damage to the environment which may arise from the activity permitted by the consent”, yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(3)
Mae'r diwygiadau i is-adran (5) a wnaed gan reoliad 29(3)(a) a (b) o'r Rheoliadau hynny, fel y'u disgrifir ym mharagraff (4), yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(4)
Mae'r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) fel a ganlyn—
(a)
yn is-adran (5)(b)—
(i)
ar ôl “Secretary of State” mewnosodwch “forthwith”,
(ii)
hepgorwch is-baragraff (ii), a
(iii)
“(iii)
any unforeseen event, occurring in connection with a release by him, which might affect the risks there are of damage to the environment being caused as a result of their being released;”, a
(b)
“(c)
take such measures as are necessary to prevent damage to the environment being caused as a result of the release, or, as the case may be, the marketing of the organisms;”.
(5)
Mae'r diwygiad i is-adran (5) a wnaed gan reoliad 29(3)(c) o'r Rheoliadau hynny, sy'n mewnosod paragraffau (d) ac (e), yn cael ei addasu gan baragraff (6) ac, o'i addasu felly, yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(6)
Ym mharagraffau (d) ac (e), fel y'u mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl “the Secretary of State”, yn y ddau le y mae'n digwydd, mewnosodwch “or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales”.
(7)
“(d)
notify the Secretary of State or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales, of the measures (if any) taken as a result of new information becoming available or an unforeseen event occurring as described in paragraph (b) (iii) above; and
(e)
in a case where new information becomes available or an unforeseen event so occurs, revise the information contained in his application for a consent accordingly and supply the revised information to the Secretary of State or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales.”.
Prawf o gydymffurfio ag amodau'r caniatâd31.
“(1A)
The matters referred to in subsection (1) above are—
(a)
in the case of an offence under section 118(1)(c) above consisting in a failure to comply with the general condition implied by section 112(5)(c) above—
(i)
that no measures, other than the measures taken by him, were necessary to prevent damage being caused to the environment from the release or, as the case may be, marketing of the organisms, or
(ii)
in a case where he took no measures, that no measures were necessary; and
(b)
in any other case,”,
yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
Gwybodaeth newydd am y risgiau o beri niwed i'r amgylchedd32.
(1)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon ar unwaith i'r Comisiwn ac i awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth unrhyw wybodaeth newydd sy'n dod ar gael iddo ac a allai yn ei farn ef effeithio ar yr asesiad o'r risg o beri niwed i'r amgylchedd drwy ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig.
(2)
Pan fo cais am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn dod ar gael iddo, cyn bod y cais wedi'i benderfynu, caiff geisio dod i gytundeb gyda'r Comisiwn a'r Aelod-wladwriaethau eraill yn unol ag Erthygl 15(1) neu 17(7) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol fel y bo'n gymwys.
(3)
Pan fo cais am ganiatâd neu gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad (1) wedi dod ar gael iddo wedi i'r caniatâd gael ei roi neu ei adnewyddu, rhaid iddo sicrhau bod adroddiad asesu wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen 4, yn nodi a ddylid amrywio amodau'r caniatâd, ac, os felly, sut, neu a ddylid dirymu'r caniatâd , yn cael ei anfon ymlaen i'r Comisiwn o fewn 60 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr wybodaeth newydd i law.
(4)
Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi nodi y dylid amrywio'r caniatâd a naill ai—
(a)
bod dim gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
(b)
bod gwrthwynebiad neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob mater a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 20(3) o'r Gyfarwyddeb Gollyniadau Bwriadol,
rhaid iddo amrywio neu ddirymu'r caniatâd fel y'i cynigiwyd a hysbysu'r ceisydd, awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn ei fod wedi gwneud hynny o fewn 30 diwrnod i hynny.
(5)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio ag amrywio na dirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o'r Ddeddf ac eithrio—
(i)
os yw'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi dod ar gael iddo, ac os cydymffurfiwyd â'r weithdrefn y cyfeirir ati ym mharagraffau (3) a (4), neu
(ii)
yn unol â phenderfyniad a fabwysiadwyd gan y Comisiwn yn unol ag Erthyglau 18(1) neu 23(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
Rhan VIAMDDIFFYNIAD
Amddiffyniad33.
(1)
Dim ond os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn y byddai gweithred a awdurdodwyd drwy ganiatâd a roddwyd ganddo o dan adran 111 o'r Ddeddf neu drwy ganiatâd a roddwyd ar gyfer cynnyrch a gymeradwywyd yn golygu risg o beri niwed i'r amgylchedd wedi'i seilio ar resymau manwl o ganlyniad i'r naill neu'r llall o'r canlynol, sef—
(a)
gwybodaeth newydd neu ychwanegol a roddwyd ar gael ers dyddiad rhoi'r caniatâd sy'n effeithio ar yr asesiad risg amgylcheddol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; neu
(b)
ailasesiad o'r wybodaeth bresennol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw ar sail gwybodaeth wyddonol newydd neu ychwanegol, y caiff gyflwyno hysbysiad gwahardd o dan adran 110 o'r Ddeddf i wahardd gweithred o'r fath.
(2)
Os, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1) uchod, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod y risg o beri niwed i'r amgylchedd yn ddifrifol rhaid iddo gyflwyno hysbysiad gwahardd sy'n yn ei gwneud hi'n ofynnol i gymryd unrhyw fesurau y mae'n barnu eu bod yn briodol ac unwaith y bydd unrhyw waith sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad wedi'i gyflawni rhaid iddo gofnodi manylion y gwaith hwnnw ar y gofrestr.
(3)
Mewn achosion y mae paragraff (1) a (2) uchod yn gymwys iddynt, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill yn ddi-oed am ei weithgareddau gan roi iddynt ar yr un pryd—
(a)
ei resymau dros gymryd camau o'r fath,
(b)
canlyniadau ei adolygiad o'r asesiad risg amgylcheddol,
(c)
ei farn ynghylch a ddylid amrywio amodau'r caniatâd, ac, os felly, sut y dylid dirymu'r caniatâd, neu a ddylid gwneud hynny, ac
(ch)
pan fo hynny'n briodol, yr wybodaeth newydd neu ychwanegol yr oedd ei benderfyniad i weithredu wedi'i seilio arni.
(4)
Bydd hysbysiad gwahardd a gyflwynir o dan adran 110 o'r Ddeddf yn unol â'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad a fabwysiedir gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 23(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
(5)
Pan ddaw hysbysiad o benderfyniad gan y Comisiwn, y mae paragraff (4) yn cyfeirio ato, i law, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi ohono at ddeiliad y caniatâd y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef, rhaid iddo dynnu'n ôl yr un pryd unrhyw hysbysiad gwahardd sy'n anghyson â'r penderfyniad hwnnw.
(6)
Rhan VIICYFRINACHEDD
Cyfrinachedd34.
(1)
At ddibenion adran 123(7) o'r Ddeddf, mae'r disgrifiadau canlynol o wybodaeth hefyd yn wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys er budd y cyhoedd yn y gofrestr hyd yn oed os yw'r wybodaeth honno yn fasnachol gyfrinachol—
(a)
lleoliad gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hwy,
(b)
y defnydd y bwriedir ei wneud o'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef,
(c)
yr asesiad risg amgylcheddol,
(ch)
y dulliau a'r cynlluniau ar gyfer monitro ac ar gyfer ymateb i argyfwng mewn perthynas â'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef,
(d)
enw a chyfeiriad deiliad caniatâd y mae hysbysiad gwahardd neu wybodaeth arall yn ymwneud ag ef.
(2)
Mae diwygiadau adran 123(7) o'r Ddeddf (peidio â chynnwys gwybodaeth benodol yn y gofrestr: manylion sy'n cael eu cynnwys hyd yn oed os ydynt yn fasnachol gyfrinachol) a wnaed gan reoliad 33(2) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, sydd—
(a)
ar ôl “section 122(1)(a)”, yn mewnosod “(c),”,
(b)
ym mharagraff (b) yn lle “the description” yn rhoi “the general description”, ac
(c)
yn hepgor paragraffau (c) ac (e),
yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
Rhan VIIIY GOFRESTR GWYBODAETH
Gwybodaeth sydd i'w chynnwys ar y gofrestr35.
(1)
Rhaid i'r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).
(2)
Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 110 o'r Ddeddf—
(a)
enw a chyfeiriad y person y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo,
(b)
disgrifiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy,
(c)
y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig,
(ch)
at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig,
(d)
y rheswm dros gyflwyno'r hysbysiad,
(dd)
unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw'r gwaharddiad i rym.
(3)
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—
(a)
enw a chyfeiriad y ceisydd,
(b)
disgrifiad cyffredinol o'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn cael ei wneud mewn perthynas ag ef,
(c)
y man lle bwriedir gollwng yr organeddau, i'r graddau y mae'r wybodaeth hon wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(ch)
at ba ddiben arfaethedig y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata,
(d)
dyddiad arfaethedig eu gollwng,
(dd)
yr asesiad risg amgylcheddol,
(e)
y dulliau a'r cynlluniau ar gyfer monitro'r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng, ac
(f)
crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—
(i)
yr amodau neu'r cyfyngiadau y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi'r caniatâd yn unol â hwy, neu
(ii)
crynodeb o'r rhesymau pam y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi'r caniatâd.
(4)
Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwybodol neu os daw'n ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi'i gyhoeddi a bod honno'n fanylach na'r hyn a fyddai'n bodloni gofynion paragraff (3) uchod, rhaid iddo nodi cymaint o'r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y bydd yn ystyried yn briodol.
(5)
Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—
(a)
copi o'r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef,
(b)
unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd,
(c)
y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o'r caniatâd wedi'i amrywio,
(ch)
crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.
(6)
Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i'r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—
(a)
unrhyw wybodaeth a ddarperir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o'r Ddeddf,
(b)
unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy'n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy'n bodoli o beri niwed i'r amgylchedd a'r wybodaeth honno wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o'r Ddeddf.
(7)
Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall.
(8)
Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i'r graddau y mae'r wybodaeth honno yn cael ei chymhwyso i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.
(9)
Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
(10)
Mewn perthynas â chollfarnau am unrhyw dramgwydd o dan adran 118 o'r Ddeddf—
(a)
enw a chyfeiriad y person a gafwyd yn euog,
(b)
disgrifiad o unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig y cafwyd y gollfarn mewn perthynas â hwy,
(c)
y dramgwydd a gyflawnwyd,
(ch)
y gosb a bennwyd ac unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 120 o'r Ddeddf.
Cadw'r gofrestr36.
(1)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(2) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o gyflwyno'r hysbysiad gwahardd.
(2)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (a) i (e) o reoliad 35(3) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o'r adeg y mae'r cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata wedi dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru .
(3)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3)(f) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o adeg rhoi neu wrthod y caniatâd.
(4)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(a) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o roi neu wrthod y caniatâd.
(5)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(b) ac (ch) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod ar ôl iddi ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(c) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o adeg dirymu neu amrywio'r caniatâd.
(7)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(6) a 35(10) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(8)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(7) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(9)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(8) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(10)
Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(9) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hysbysu o'r penderfyniad.
Cyhoeddi sylwadau37.
(1)
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o fewn cyfnod o 28 diwrnod ar ôl rhoi caniatâd neu wrthod cais am ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, drefnu bod manylion o ble a phryd y gellir archwilio copïau papur o'r sylwadau a gafwyd ar gael i'r cyhoedd drwy ba ddull bynnag y bydd yn barnu ei fod yn briodol.
(2)
Ni fydd paragraff (1) yn ei gwneud hi'n ofynnol i drefnu bod copïau o'r sylwadau ar gael i'r cyhoedd pan fônt yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a bod y person sy'n cyflwyno'r sylwadau wedi gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drin yr wybodaeth honno yn gyfrinachol.
Rhan IXAMRYWIOL
Yr egwyddor ragofalus38.
Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran VI o'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd i ystyriaeth yr egwyddor ragofalus.
Dirymiadau39.
Mae'r rheoliadau a nodir yn Atodlen 5 yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honNo.
Cymhwyso Rhan VI o'r Ddeddf i'r môr tiriogaethol40.
(1)
Mae diwygiad adran 127(2) o'r Ddeddf (diffiniadau ayb: cymhwyso i'r môr tiriogaethol) a wnaed gan reoliad 38(a) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(2)
Yn adran 127(2), o'i diwygio felly, ar ôl “as it applies in England” mewnosodwch “and applies to the territorial sea adjacent to Wales as it applies in Wales”.
Cymhwyso Rhan VI o'r Ddeddf i Gymru41.
O ganlyniad i'r ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau 4, 5, 20(1), 30, 31, 34(2) a 40, mae effaith adran 163A o'r Ddeddf yn peidio.
ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM F27uwchblanhigion a addaswyd yn enetig at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â marchnata NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL
1.
Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio ac am ollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiad, ac am ei ddiogelwch.
2.
Teitl y prosiect.
Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGION RHIENIOL NEU'R PLANHIGYN DERBYN
3.
Enw llawn y planhigyn—
(a)
enw teuluol,
(b)
genws,
(c)
rhywogaeth,
(ch)
isrywogaeth,
(d)
llinell cyltifar/fridio,
(dd)
enw cyffredin.
4.
Gwybodaeth ynghylch—
(a)
atgenhedliad y planhigyn:
(i)
dull neu ddulliau atgenhedlu,
(ii)
unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,
(iii)
amser cenhedliad; a
(b)
cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.
5.
Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:
(a)
ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,
(b)
unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.
6.
Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:
(a)
dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a
(b)
unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.
7.
Dosbarthiad daearyddol y planhigyn F29yn Ewrop .
8.
Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.
9.
Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.
Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ADDASIAD GENETIG
10.
Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.
11.
Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.
12.
Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw'r organedd neu'r organeddau rhoi pob rhan cyfansoddol o'r rhanbarth lle bwriedir eu cynnwys.
Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG
13.
Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.
14.
Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:
(a)
maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,
(b)
maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,
(c)
rhif copi y mewnosodiad, a
(ch)
lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.
15.
Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—
(a)
gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,
(b)
y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.
F3015A.
Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig.
15B.
Casgliadau am nodweddiad moleciwlaidd y planhigyn a addaswyd yn enetig.
16.
Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—
(a)
modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,
(b)
gwasgariad,
(c)
y gallu i oroesi.
17.
Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .
F3119.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3120.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3121.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3122.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3123.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
24.
Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.
25.
Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.
RHAN 4AGwybodaeth am feysydd penodol sy’n peri risg
F3118.
Gwybodaeth am—
(a)
unrhyw newid i barhausrwydd neu ymledoldeb y planhigyn a addaswyd yn enetig a’i allu i drosglwyddo deunydd genetig i berthnasau sy’n gydweddol yn rhywiol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)
unrhyw newid i allu’r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i ficro-organeddau a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(c)
mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a’r organeddau targed, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(ch)
newidiadau posibl i ryngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed o ganlyniad i’r addasiad genetig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(d)
newidiadau posibl i arferion amaethyddol a dulliau rheoli’r planhigyn a addaswyd yn enetig o ganlyniad i’r addasiad genetig, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(dd)
y rhyngweithiadau posibl â’r amgylchedd anfiotig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(e)
unrhyw effeithiau gwenwynig, effeithiau alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy’n deillio o’r addasiad genetig,
(f)
casgliadau am y meysydd penodol sy’n peri risg.
Rhan VGWYBODAETH YNGHYLCH SAFLE'R GOLLYNGIAD
F32...
26.
Lleoliad a maint safle'r gollyngiad neu safleoedd y gollyngiadau.
27.
Disgrifiad o ecosystem safle'r gollyngiad, gan gynnwys hinsawdd, fflora a ffawna.
28.
Manylion unrhyw rywogaethau perthnasau gwyllt neu rywogaethau planhigion trin sy'n gydweddol yn rhywiol ac yn bresennol yn safleoedd y gollyngiadau.
29.
Agosrwydd safleoedd y gollyngiadau at fiotopau a gydnabyddir yn swyddogol neu ardaloedd gwarchodedig y gall gollyngiadau effeithio arnynt.
Rhan VIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R GOLLYNGIAD
F33...
30.
Diben gollwng y planhigyn a addaswyd yn enetig, gan gynnwys ei ddefnydd cychwynnol ac unrhyw fwriad i'w ddefnyddio fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.
31.
Y dyddiad neu'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer y gollwng a hyd y gollwng.
32.
Y dull a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gollwng y planhigion a addaswyd yn enetig.
33.
Y dull ar gyfer paratoi a rheoli safle'r gollyngiad, cyn, yn ystod ac yn dilyn y gollyngiad, gan gynnwys arferion amaethu a dulliau cynaeafu.
34.
Bras amcan o nifer y planhigion a addaswyd yn enetig (neu blanhigion fesul m2) sydd i'w gollwng.
Rhan VIIGWYBODAETH AM REOLI, MONITRO, CYNLLUNIAU ÔL-OLLWNG A THRIN GWASTRAFF
F34...
35.
Disgrifiad o—
(a)
unrhyw ragofalon i gadw'r planhigyn a addaswyd yn enetig bellter i ffwrdd o rywogaethau planhigion sy'n gydnaws o ran rhyw, perthnasau gwyllt a chnydau.
(b)
unrhyw fesurau i leihau neu atal gwasgariad unrhyw organ atgenhedlu y planhigyn a addaswyd yn enetig (megis paill, hadau, cloronen).
36.
Disgrifiad o'r dulliau ar gyfer trin y safle neu'r safleoedd ar ôl y gollyngiad.
37.
Disgrifiad o ddulliau trin y deunydd planhigion a addaswyd yn enetig gan gynnwys gwastraff ar ôl y gollyngiad.
38.
Disgrifiad o gynlluniau a thechnegau monitro.
39.
Disgrifiad o unrhyw gynlluniau argyfwng.
40.
Dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle.
Rhan VIIIGWYBODAETH AM FETHODOLEG
41.
Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.
F35ATODLEN 1AYr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i farchnata uwchblanhigion a addaswyd yn enetig
RHAN 1Gwybodaeth gyffredinol
1.
Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro’r gollyngiadau ac am eu diogelwch.
2.
Dynodiad a manyleb y planhigyn a addaswyd yn enetig, a chwmpas y cais, ac yn benodol a yw’r cais mewn cysylltiad ag amaethu, at ryw ddiben arall (y mae rhaid ei bennu), neu’r ddau.
RHAN 2Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r planhigyn rhieniol neu’r planhigyn derbyn
3.
Enw llawn y planhigyn—
(a)
enw teuluol,
(b)
genws,
(c)
rhywogaeth,
(ch)
isrywogaeth,
(d)
llinell cyltifar neu linell fridio,
(e)
enw cyffredin.
4.
Gwybodaeth ynghylch—
(a)
atgenhedliad y planhigyn—
(i)
dull neu ddulliau atgenhedlu,
(ii)
unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar atgenhedlu,
(iii)
amser cenhedliad, a
(b)
cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau eraill a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill, gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.
5.
Gwybodaeth ynghylch gallu’r planhigyn i oroesi—
(a)
ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,
(b)
unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar ei allu i oroesi.
6.
Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn—
(a)
dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill hyfyw neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny’n gymwys) y gwasgariad, a
(b)
unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar wasgariad.
7.
Dosbarthiad daearyddol y planhigyn yn Ewrop.
8.
Pan fo’r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw’n cael ei dyfu yn arferol yn Ewrop, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.
9.
Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy’n berthnasol i’r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ac organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu’n arferol, neu yn rhywle arall, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.
RHAN 3Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r addasiad genetig
10.
Disgrifiad o’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.
11.
Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.
12.
Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw’r organedd rhoi neu’r organeddau rhoi ar gyfer pob darn cyfansoddol o’r rhanbarth y bwriedir ei fewnosod.
RHAN 4Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r planhigyn a addaswyd yn enetig
13.
Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig a gyflwynwyd neu a addaswyd.
14.
(1)
Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnosodwyd neu a ddilëwyd—
(a)
maint a strwythur y mewnosodiad a’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o’r fector a gyflwynwyd i’r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw DNA cludo neu DNA estron sy’n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig,
(b)
maint a swyddogaeth y rhanbarth neu’r rhanbarthau a ddilëwyd, pan fo hynny’n briodol,
(c)
rhif copi y mewnosodiad,
(ch)
lleoliad isgellog unrhyw fewnosodiad yng nghelloedd y planhigyn (p’un a yw wedi ei integreiddio yn y cnewyllyn, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a’r dulliau ar gyfer ei benderfynu,
(d)
trefn a dilyniant y deunydd genetig ym mhob safle mewnosod ar ffurf electronig safonedig,
(dd)
dilyniant y DNA genomaidd o bob tu i bob safle mewnosod ar ffurf electronig safonedig,
(e)
dadansoddiad biowybodeg i nodi ymyriadau genynnau hysbys,
(f)
gwybodaeth am Fframiau Darllen Agored o fewn y mewnosodiad a Fframiau Darllen Agored sy’n cael eu creu yng nghysylltle’r mewnosodiad a’r DNA genomaidd,
(ff)
dadansoddiad biowybodeg i nodi unrhyw debygrwydd rhwng unrhyw Fframiau Darllen Agored sy’n cael eu creu gan yr addasiad genetig a genynnau hysbys a allai gael effeithiau andwyol,
(g)
y dilyniant asidau amino, ac os oes angen, strwythurau eraill proteinau a gynhyrchir o ganlyniad i’r addasiad genetig,
(ng)
dadansoddiad biowybodeg i nodi homologaethau dilyniannol, ac os oes angen, unrhyw debygrwydd strwythurol rhwng proteinau a gynhyrchir o ganlyniad i’r addasiad genetig a phroteinau a pheptidau hysbys ac iddynt effeithiau andwyol posibl,
(h)
yn achos addasiadau genetig ac eithrio mewnosod neu ddileu, gwybodaeth am swyddogaeth y deunydd genetig a dargedir gan yr addasiad genetig cyn ac ar ôl ei addasu, yn ogystal â newidiadau uniongyrchol i fynegiant y genynnau o ganlyniad i’r addasiad.
(2)
Yn y paragraff hwn, ystyr Ffrâm Ddarllen Agored yw dilyniant niwcleotid sy’n cynnwys llinyn o godonau heb ymyrraeth codon gorffen yn yr un ffrâm ddarllen.
15.
Yr wybodaeth ganlynol am fynegi’r mewnosodiad—
(a)
gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y DNA a fewnosodwyd neu’r DNA a addaswyd yn ystod cylch bywyd y planhigyn a’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,
(b)
y rhannau o’r planhigyn lle mae’r mewnosodiad wedi ei fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill,
(c)
mynegiant anfwriadol posibl Ffrâm Ddarllen Agored newydd (mae i “Ffrâm Ddarllen Agored” yr ystyr a roddir ym mharagraff 14(2)), sydd wedi deillio o fewnosod neu ddileu deunydd genetig mewn gennyn hysbys (fel a nodir o dan baragraff 14(dd)) ac sy’n codi pryder o ran diogelwch,
(ch)
data am fynegiant proteinau o blanhigion a addaswyd yn enetig sydd wedi eu tyfu o dan amodau maes.
16.
Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig.
17.
Casgliadau am nodweddiad moleciwlaidd y planhigyn a addaswyd yn enetig.
18.
Yr wybodaeth ganlynol am y dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig a chyfansoddiad—
(a)
dewis cyfatebydd confensiynol ac unrhyw gymaryddion ychwanegol a ddefnyddiwyd mewn dadansoddiadau cymharol,
(b)
dewis lleoliad y safle maes ar gyfer cynhyrchu deunydd planhigion ar gyfer dadansoddiadau cymharol,
(c)
dyluniad yr arbrawf gan gynnwys dadansoddiad ystadegol,
(ch)
dewis deunydd planhigion i’w ddadansoddi, pan fo hynny’n berthnasol,
(d)
dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig,
(dd)
dadansoddiad cymharol o gyfansoddiad, os yw’n berthnasol,
(e)
casgliadau’r dadansoddiad cymharol.
RHAN 5Gwybodaeth am feysydd penodol sy’n peri risg
19.
Ar gyfer pob un o’r meysydd sy’n peri risg a restrir yn adran D.2 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol rhaid i’r ceisydd ddisgrifio pob llwybr a allai arwain at niwed mewn cysylltiad â gollwng planhigyn a addaswyd yn enetig, gan ystyried y peryglon a dod i gysylltiad â’r planhigyn.
20.
Rhaid i’r ceisydd ddarparu—
(a)
yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 21 i 27, a
(b)
y gwerthusiad cyffredinol o risg a’r casgliadau a ddisgrifir ym mharagraff 28,
ac eithrio pan fo’r ceisydd o’r farn nad yw hynny’n berthnasol oherwydd y modd y bwriedir defnyddio’r planhigyn a addaswyd yn enetig.
21.
Gwybodaeth ynghylch parhausrwydd ac ymledoldeb gan gynnwys trosglwyddo genynnau o blanhigyn i blanhigyn gan gynnwys—
(a)
asesiad o’r potensial i’r planhigyn a addaswyd yn enetig ddod yn fwy parhaus neu’n fwy ymledol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)
asesiad o’r potensial i’r planhigyn a addaswyd yn enetig drosglwyddo trawsenynnau i berthnasau sy’n gydweddol yn rhywiol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(c)
casgliadau am effaith amgylcheddol andwyol parhausrwydd ac ymledoldeb y planhigyn a addaswyd yn enetig gan gynnwys effaith amgylcheddol andwyol trosglwyddo genynnau o blanhigyn i blanhigyn.
22.
Gwybodaeth ynghylch trosglwyddo genynnau o blanhigyn i ficro-organedd gan gynnwys—
(a)
asesiad o’r potensial ar gyfer trosglwyddo DNA sydd newydd ei fewnosod o’r planhigyn a addaswyd yn enetig i ficro-organeddau a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)
casgliadau am effaith andwyol trosglwyddo DNA sydd newydd ei fewnosod o’r planhigyn a addaswyd yn enetig i ficro-organeddau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid ac ar yr amgylchedd.
23.
Gwybodaeth ynghylch rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw’n berthnasol, ag organeddau targed gan gynnwys—
(a)
asesiad o’r potensial ar gyfer newidiadau yn y rhyngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)
asesiad o’r potensial ar gyfer esblygiad ymwrthedd yr organedd targed i’r protein a fynegwyd yn seiliedig ar hanes esblygiad ymwrthedd i blaladdwyr confensiynol neu blanhigion trawsenynnol sy’n mynegi nodweddion tebyg, ac unrhyw effeithiau andwyol sy’n deillio o hynny,
(c)
casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau targed.
24.
(1)
Gwybodaeth ynghylch rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed gan gynnwys——
(a)
asesiad o’r potensial ar gyfer rhyngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau heb fod yn organeddau targed, gan gynnwys rhywogaethau gwarchodedig, a’r effaith amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)
casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed.
(2)
Rhaid i’r asesiad a ddisgrifir yn is-baragraff (1) ystyried yr effaith andwyol bosibl ar wasanaethau ecosystemau perthnasol ac ar y rhywogaethau sy’n darparu’r gwasanaethau hynny.
25.
Gwybodaeth ynghylch effeithiau’r technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol gan gynnwys—
(a)
mewn cysylltiad â phlanhigion a addaswyd yn enetig ar gyfer amaethu, asesiad o’r newidiadau yn y technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol a ddefnyddir ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)
casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol y technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol.
26.
Gwybodaeth am brosesau biogeocemegol gan gynnwys—
(a)
asesiad o’r newidiadau posibl yn y prosesau biogeocemegol yn yr ardal lle mae’r planhigyn a addaswyd yn enetig i’w dyfu ac yn yr amgylchedd ehangach, a’r effeithiau andwyol sy’n deillio o hynny,
(b)
casgliadau am effeithiau andwyol ar brosesau biogeocemegol.
27.
Gwybodaeth ynghylch yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid gan gynnwys—
(a)
asesiad o ryngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol posibl rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a phersonau sy’n gweithio gyda’r planhigyn a addaswyd yn enetig neu sy’n dod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys drwy baill neu lwch o blanhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi ei brosesu, ac asesiad o effeithiau andwyol y rhyngweithiadau hynny ar iechyd dynol,
(b)
ar gyfer planhigyn a addaswyd yn enetig na fwriedir iddo gael ei fwyta gan bobl, ond pan allai’r organedd derbyn neu’r organedd rhieniol gael ei ystyried i’w fwyta gan bobl, asesiad o debygolrwydd cymeriant damweiniol a’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd dynol o ganlyniad i gymeriant damweiniol,
(c)
asesiad o’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd anifeiliaid pe bai anifeiliaid yn bwyta’n ddamweiniol y planhigyn a addaswyd yn enetig neu ddeunydd o’r planhigyn hwnnw,
(ch)
casgliadau am yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid.
28.
(1)
Rhaid i’r gwerthusiad cyffredinol o risg a’r casgliadau gynnwys crynodeb o bob un o’r casgliadau a bennir ym mharagraffau 21 i 27.
(2)
Rhaid i’r crynodeb y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ystyried y nodweddiad risg yn unol â chamau 1 i 4 o’r fethodoleg a ddisgrifir yn Adran C.3 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol a’r strategaethau rheoli risg a gynigir yn unol â phwynt 5 o Adran C.3 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb honno.
RHAN 6Gwybodaeth ynghylch canfod ac adnabod y planhigyn a addaswyd yn enetig a gollyngiadau blaenorol ohono
30.
Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.
31.
Gwybodaeth ynghylch gollyngiadau blaenorol o’r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny’n gymwys.
ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL
1.
Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiadau ac am eu diogelwch.
2.
Teitl y prosiect.
Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG
Nodweddion yr organeddau rhoi, yr organeddau rhieniol a'r organeddau derbyn
3.
Enw gwyddonol a thacsonomi.
4.
Amrywogaeth, cyltifar neu enw arall arferol.
5.
Marcwyr ffenotypig a genetig.
6.
Graddau'r berthynas rhwng yr organeddau rhoi a derbyn neu rhwng organeddau rhieniol.
7.
Disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod.
8.
Sensitifrwydd, dibynadwyedd (mewn termau meintiol) a phenodoldeb y technegau canfod ac adnabod.
9.
Disgrifiad dosbarthiad daearyddol a chynefin naturiol yr organeddau gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, ysglyfaeth, parasitiaid a chystadleuwyr, symbiontiaid a lletywyr.
10.
Yr organeddau y gwyddys y mae trosglwyddo deunydd genetig yn digwydd drwyddynt o dan amodau naturiol.
11.
Gwiriad o sefydlogrwydd genetig yr organeddau a ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd hwnnw.
12.
Y nodweddion patholegol, ecolegol a ffisiolegol canlynol—
(a)
dosbarthu peryglon yn unol â rheolau presennol y Gymuned sy'n ymwneud â diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd;
(b)
hyd cenhedliad mewn ecosystemau naturiol, y cylch atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol;
(c)
gwybodaeth am oroesi, gan gynnwys amrywiad tymhorol, a'r gallu i ffurfio strwythurau goroesi, gan gynnwys hadau, sborau a sglerotia;
(ch)
pathogenigrwydd, gan gynnwys heintusrwydd, gwenwyndra, mileindra, alergenigrwydd, cariwr (fector) pathogen, fectorau posibl, ystod lletywyr gan gynnwys organeddau nad ydynt yn darged a'r posibilrwydd y caiff firysau cudd eu hysgogi (profirysau) a'r gallu i gytrefu organeddau eraill;
(d)
ymwrthedd gwrthgyrff, a defnydd posibl y gwrthgyrff hyn mewn pobl ac organeddau domestig ar gyfer atal clefydau a therapi;
(dd)
rhan mewn prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cynyrchu sylfaenol, trosiant maetholion, dadelfeniad deunydd organig a resbiradaeth.
13.
Dilyniant, amledd cynnull a sbesiffigedd fectorau cynhenid, a phresenoldeb genynnau yn y fectorau hynny, sef genynnau sy'n cyflwyno ymwrthedd i bwysau amgylcheddol.
14.
Hanes addasiadau genetig blaenorol.
Nodweddion y fector
15.
Natur a ffynhonnell y fector.
16.
Dilyniant transbosonau, fectorau a segmentau genetig eraill nad ydynt yn codio a ddefnyddir i lunio'r organeddau a addaswyd yn enetig ac i wneud i'r fector a gyflwynwyd a'r mewnosodiad weithredu yn yr organeddau hynny.
17.
Amledd cynnull, galluoedd trosglwyddo genetig a/neu ddulliau o benderfynu'r fector a fewnosodwyd.
18.
Y graddau y mae'r fector wedi'i gyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.
Nodweddion yr organeddau a addaswyd yn enetig
19.
Y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasu.
20.
Y dulliau a ddefnyddiwyd—
(a)
i lunio mewnosodiadau a chyflwyno'r mewnosodiad neu'r mewnosodiadau i'r organedd sy'n eu derbyn;
(b)
i ddileu dilyniant.
21.
Disgrifiad unrhyw fewnosodiad a/neu wneuthuriad y fector.
22.
Purdeb y mewnosodiad o unrhyw ddilyniant anhysbys a gwybodaeth am y graddau y mae'r dilyniant a fewnosodwyd wedi'i chyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.
23.
Y dulliau a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer dethol.
24.
Dilyniant, hunaniaeth swyddogaethol a lleoliad y segmentau asid niwclëig dan sylw a newidiwyd, a fewnosodwyd neu a ddilewyd, ac yn benodol unrhyw ddilyniant niweidiol hysbys.
Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetig
25.
Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.
26.
Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.
27.
Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.
28.
Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo.
29.
Actifedd y cynnyrch genynnol.
30.
Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.
31.
Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.
32.
Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.
33.
Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—
(a)
effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,
(b)
cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,
(c)
gallu'r organeddau i gytrefu,
(ch)
os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—
(i)
yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,
(ii)
heintusrwydd,
(iii)
dogn heintiol,
(iv)
ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,
(v)
y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,
(vi)
presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,
(vii)
sefydlogrwydd biolegol,
(viii)
patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,
(ix)
alergenedd, a
(x)
argaeledd therapïau priodol; a
(d)
peryglon eraill y cynnyrch.
Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R AMODAU AR GYFER GOLLWNG
Y gollyngiad
34.
Disgrifiad o'r gollyngiad bwriadol arfaethedig, gan gynnwys diben neu ddibenion y gollyngiad ac unrhyw fwriad i ddefnyddio'r organedd a addaswyd yn enetig fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.
35.
Dyddiadau arfaethedig y gollyngiad ac amserlen yr arbrawf gan gynnwys amledd a hyd y gollyngiadau.
36.
Paratoi'r safle cyn y gollyngiad.
37.
Maint y safle.
38.
Y dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer y gollyngiad.
39.
Swm yr organeddau sydd i'w gollwng.
40.
Sut y caiff y safle ei aflonyddu, gan gynnwys math a dull yr amaethu, y cloddio, y dyfrhau neu'r gweithgareddau eraill.
41.
Y mesurau a gymerir i amddiffyn gweithwyr yn ystod y gollyngiad.
42.
Sut y caiff y safle ei drin wedi'r gollyngiad.
43.
Y technegau a ragwelir ar gyfer dileu neu sicrhau nad yw'r organeddau a addaswyd yn enetig yn actif ar ddiwedd yr arbrawf neu ddiben arall y gollyngiad.
44.
Gwybodaeth am ollyngiadau blaenorol yr organeddau a addaswyd yn enetig a'u canlyniadau, ac yn arbennig, gollyngiadau ar raddfeydd gwahanol neu i ecosystemau gwahanol.
Yr amgylchedd (ar y safle ac yn yr amgylchedd ehangach)
45.
Lleoliad daearyddol a chyfeirnod grid cenedlaethol y safle lle bwriedir gollwng, neu'r mannau a ragwelir ar gyfer defnyddio'r cynnyrch.
46.
Agosrwydd ffisegol neu fiolegol safle'r organeddau a addaswyd yn enetig at bobl a biota arwyddocaol eraill.
47.
Agosrwydd at fiotopau arwyddocaol, ardaloedd gwarchodedig neu gyflenwadau dŵ r yfed.
48.
Nodweddion hinsoddol y rhanbarth neu ranbarthau y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.
49.
Y nodweddion daearyddol, daearegol a phriddegol.
50.
Y fflora a'r ffawna, gan gynnwys cnydau, da byw a rhywogaethau ymfudol.
51.
Disgrifiad o'r ecosystemau targed a'r rhai nad ydynt yn darged ac y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.
52.
Cymhariaeth rhwng cynefin naturiol yr organeddau derbyn â safle neu safleoedd arfaethedig y gollyngiad.
53.
Unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau arfaethedig hysbys o ran defnydd tir yn y rhanbarth a allai ddylanwadu ar effaith amgylcheddol y gollyngiad.
Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R RHYNGWEITHIADAU RHWNG YR ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG A'R AMGYLCHEDD
Nodweddion sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad
54.
Y nodweddion biolegol sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a gwasgariad.
55.
Yr amodau amgylcheddol y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ac a allai effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad gan gynnwys gwynt, dwr, pridd, tymheredd a pH.
56.
Sensitifrwydd i gyfryngau penodol.
Rhyngweithiadau â'r amgylchedd
57.
Cynefin rhagweledig yr organeddau a addaswyd yn enetig.
58.
Yr astudiaethau ar ymddygiad a nodweddion yr organeddau a'u heffaith ecolegol a gynhaliwyd mewn amgylcheddau naturiol efelychiadol, megis microcosmau, ystafelloedd tyfu a thai gwydr.
59.
Y gallu i drosglwyddo deunydd genetig ar ôl y gollyngiad—
(a)
o'r organeddau a addaswyd yn enetig i organeddau mewn ecosystemau yr effeithir arnynt,
(b)
o organeddau cynhenid i'r organeddau a addaswyd yn enetig.
60.
Y tebygolrwydd y byddai detholiad ar ôl y gollyngiad yn arwain at fynegiad nodweddion annisgwyl ac/neu annymunol yn yr organeddau a addaswyd yn enetig.
61.
Y mesurau a ddefnyddiwyd i sicrhau ac i wirio sefydlogrwydd genetig, disgrifiad o nodweddion genetig a allai atal deunydd genetig rhag cael ei wasgaru neu gadw hynny i'r lleiaf posibl, a dulliau i wirio sefydlogrwydd genetig.
62.
Llwybrau gwasgariad biolegol, dulliau hysbys neu ddulliau posibl o ryngweithio â'r cyfrwng gwasgaru, gan gynnwys anadliad, llyncu, cysylltiad arwyneb a thurio.
63.
Disgrifiad o ecosystemau y gallai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu gwasgaru iddynt.
64.
Y potensial ar gyfer cynnydd gormodol ym mhoblogaeth yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn yr amgylchedd.
65.
Mantais gystadleuol yr organeddau mewn perthynas â'r organedd neu organeddau derbyn neu rhieniol na chawsant eu haddasu.
66.
Adnabod a disgrifio'r organeddau targed os yw hynny'n berthnasol.
67.
Y mecanwaith a'r canlyniad a ragwelir o'r ryngweithio rhwng yr organeddau a ollyngwyd a'r organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.
68.
Adnabod a disgrifio'r organeddau nad ydynt yn darged ac y gallai gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig effeithio'n andwyol arnynt, a'r mecanweithiau a ragwelir ar gyfer unrhyw ryngweithiad andwyol a ganfuwyd.
69.
Y tebygolrwydd o symudiadau mewn rhyngweithiadau biolegol neu yn yr ystod lletywyr ar ôl y gollwng.
70.
Y rhyngweithiadau y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ag organeddau nad ydynt yn darged yn yr amgylchedd, gan gynnwys cystadleuwyr, ysglyfaethau, lletywyr, symbiontiaid, ysglyfaethwyr, parasitiaid a phathogenau.
71.
Y rhan y mae'r organeddau yn ei chwarae mewn prosesau biogeocemegol neu'r rhan y ragwelir y byddant yn ei chwarae.
72.
Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill rhwng yr organeddau â'r amgylchedd.
Rhan VGWYBODAETH AM FONITRO, RHEOLI, TRIN GWASTRAFF A CHYNLLUNIAU YMATEB MEWN ARGYFWNG
Technegau monitro
73.
Dulliau ar gyfer olrhain yr organeddau a monitro eu heffeithiau.
74.
Sbesiffigedd (i adnabod yr organeddau a addaswyd yn enetig ac i'w gwahaniaethu o'r rhoddwr, y derbynnydd neu, os yw'n briodol, yr organeddau rhieniol), sensitifrwydd a dibynadwyedd y technegau monitro.
75.
Technegau ar gyfer canfod trosglwyddiad y deunydd genetig a roddwyd i organeddau eraill.
76.
Hyd ac amlder y monitro.
Rheoli'r gollyngiad
77.
Y dulliau a'r gweithdrefnau i osgoi a/neu leihau ymlediad yr organeddau a addaswyd yn enetig y tu hwnt i safle'r gollwng neu'r ardal a ddynodwyd ar gyfer eu defnyddio.
78.
Dulliau a gweithdrefnau i amddiffyn y safle rhag ymyrraeth gan unigolion heb awdurdod.
79.
Dulliau a gweithdrefnau i atal organeddau eraill rhag cael mynediaid i'r safle.
Trin gwastraff
80.
Y math o wastraff a gynhyrchir.
81.
Faint o wastraff a ddisgwylir.
82.
Disgrifiad o'r driniaeth a ragwelir.
Cynlluniau ymateb mewn argyfwng
83.
Y dulliau a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r organeddau a addaswyd yn enetig os ydynt yn ymledu'n annisgwyl.
84.
Dulliau, megis difodi'r organeddau a addaswyd yn enetig, ar gyfer dadhalogi'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.
85.
Dulliau ar gyfer gwaredu neu lanweithio planhigion, anifeiliaid, priddoedd, ac unrhyw beth arall a amlygwyd yn ystod neu ar ôl yr ymlediad.
86.
Dulliau ar gyfer ynysu'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan yr ymlediad.
87.
Cynlluniau ar gyfer diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd rhag ofn y bydd effaith annymunol.
Rhan VIGWYBODAETH AM FETHODOLEG
88.
Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.
ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL
1.
Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, F36y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.
2.
Enw a chyfeiriad F21Undeb Ewropeaidd y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.
3.
Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.
4.
Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.
5.
Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn yr F21Undeb Ewropeaidd , gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.
6.
Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.
7.
Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.
8.
Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn yr F21Undeb Ewropeaidd sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.
Rhan IIGWYBODAETH BERTHNASOL YCHWANEGOL
9.
Y mesurau sydd i'w cymryd pe bai organeddau yn y cynnyrch yn dianc neu pe bai'r cynnyrch yn cael ei gamddefnyddio.
10.
Cyfarwyddiadau neu argymhellion penodol ar gyfer storio a thrafod y cynnyrch.
11.
Cyfarwyddiadau penodol ar gyfer monitro a hysbysu'r ceisydd ac, os yw hynny'n angenrheidiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gyson â Rhan C o Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
12.
Y cyfyngiadau arfaethedig yn y defnydd a gymeradwywyd ar gyfer yr organedd a addaswyd yn enetig, megis lle gellir defnyddio'r cynnyrch ac at ba ddibenion.
13.
Y pacediad arfaethedig.
14.
Amcangyfrif o'r cynnyrch yn y Gymuned a/neu fewnforion iddi.
15.
Unrhyw labelu ychwanegol arafethedig, a allai gynnwys, o leiaf fel crynodeb, yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 4 a 5 o Ran I o'r Atodlen hon, neu baragraffau 9 i 12 o'r Rhan hon.
ATODLEN 4YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIAD ASESU
1.
Nodi nodweddion yr organedd derbyn sy'n berthnasol i'r asesiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig perthnasol.
2.
Disgrifiad o'r ffordd y mae'r addasiad genetig yn effeithio ar nodweddion yr organeddau.
3.
Nodi unrhyw risgiau hysbys o newid i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng i'r amgylchedd yr organedd derbyn nas addaswyd.
4.
Asesiad ynghylch a yw'r addasiad genetig wedi'i nodweddu'n ddigonol at ddibenion gwerthuso unrhyw risgiau i iechyd dynol a'r amgylchedd.
5.
Dynodi unrhyw risgiau newydd i iechyd dynol a'r amgylchedd allai ddeillio o ollwng yr organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig o'i gymharu â gollwng yr organedd cyfatebol nas addaswyd yn enetig, yn seiliedig ar yr asesiad risg amgylcheddol.
6.
Diweddglo sy'n mynd i'r afael â defnydd arfaethedig o'r cynnyrch, rheoli risg a'r cynllun monitro arfaethedig, ac sy'n datgan a ddylid marchnata'r organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu na ddylid eu marchnata, gan gynnwys rhesymau pam y daethpwyd i'r casgliad hwnnw, ac a fwriedir gofyn am farn awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau eraill a'r Comisiwn ar agweddau penodedig yr asesiad risg amgylcheddol a beth yw'r agweddau hynny.
ATODLEN 5DIRYMIADAU
Y Rheoliadau a Ddirymwyd | Cyfeiriadau | Graddau'r dirymu |
|---|---|---|
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992 | O.S. 1992/3280 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993 (O.S. 1993/152), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995 (O.S. 1995/304), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1900), a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) (O.S. 2000/2831). | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993 | Y Rheoliadau cyfan | |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995 | Y Rheoliadau cyfan | |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997 | Rheoliad 2 | |
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2000 | Rheoliad 31(2) |
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd a Chyngor Ewrop (“y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol”) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig ac ar ddiddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC. Maent yn dirymu Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992 (O.S. 1992/3280) ac yn gwneud diwygiadau i Ran VI o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”). Mae naw rhan i'r Rheoliadau ac mae iddynt bum Atodlen.
Mae cynnwys y Gyfarwyddeb a'i rhagflaenydd yn ymwneud â rheoli gweithgareddau gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd a'u marchnata drwy osod gofyniad i sicrhau caniatâd ar gyfer y gweithgareddau hynny ac i gydymffurfio â'r amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd. Mae'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Gyfarwyddeb yn cryfhau'r gyfundrefn reoli bresennol, yn enwedig mewn perthynas â monitro ar ôl marchnata.
Cafodd Cyfarwyddeb 1990/220/EEC ei gweithredu'n rhannol gan ddarpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf (darpariaethau a oedd yn bodoli eisoes) ac yn rhannol gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso yng Nghymru y diwygiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 ac y mae eu hangen i weithredu'r Gyfarwyddeb. Maent yn dirymu Rheoliadau 1992 hefyd.
Adran 111(1) o'r Ddeddf yw sail statudol y gofyniad i sicrhau caniatâd ar gyfer gollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig. Mae'r achosion a'r amgylchiadau pan fydd yn ofynnol cael caniatâd yn cael eu rhangnodi yn y Rheoliadau hyn. Mae gofyniad cyffredinol i sicrhau caniatâd ar gyfer gollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig yn cael ei osod gan reoliad 9 (ar gyfer gollwng) a rheoliad 15 (ar gyfer marchnata). Mae'r gofyniad hwn yn ddarostyngedig i'r esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 10 (ar gyfer gollwng) a rheoliad 16 (ar gyfer marchnata).
Mae'r diffiniadau sy'n cael eu defnyddio yn y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gyfundrefn reoli wedi'u cynnwys yn adrannau 106, 107 a 127(1) o'r Ddeddf. Mae Rheoliadau 4 a 5 yn diwygio nifer o'r diffiniadau hyn i adlewyrchu'r Gyfarwyddeb. Mae Rheoliad 4 hefyd yn diwygio'r pŵ er yn adran 106 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi technegau sy'n peri bod organeddau yn dod yn organeddau “sydd wedi'u haddasu'n enetig”. Er hynny, pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, dehonglir cyfeiriadau yn y Ddeddf at “organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig” drwy gyfeirio at y technegau addasu a ddisgrifir yn rheoliad 6.
Mae Rhannau II a III o'r Rheoliadau yn gosod gofynion ar gyfer ceisiadau am ganiatâd i ollwng a marchnata, yn eu tro, organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig (gan gynnwys darpariaethau trosiannol).
Mae Rhan IV yn pennu'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau o'r amser y maent yn dod i law i amser eu penderfynu (ac, yn achos caniatadau i ollwng, eu hamrywio neu eu dirymu wedi hynny). Yn achos caniatadau i ollwng mae hyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd ac ar gyfer caniatadau i farchnata (ac adnewyddu'r caniatadau hynny) mae'n cynnwys cytuno arnynt ar lefel y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Rhan V yn cynnwys gofynion cyffredinol ar gyfer caniatadau i farchnata ac yn diwygio adran 112 o'r Ddeddf (sy'n gosod amodau ar gyfer caniatadau). Mae'n darparu hefyd ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd pan ddaw gwybodaeth newydd ar gael sy'n effeithio ar yr asesiad risg ar gyfer marchnata organedd a addaswyd yn enetig.
Mae Rhan VI yn ychwanegu at adran 110 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n caniatáu i gamau gael eu cymryd i wahardd marchnata organedd a addaswyd yn enetig y mae caniatâd wedi'i roi ar ei gyfer er mwyn cysoni hynny â chymryd “camau i amddiffyn” (“safeguard action”) o dan y Gyfarwyddeb.
Mae Rhan VII yn rhagnodi categorïau ychwanegol o wybodaeth sydd i'w chyhoeddi, er gwaethaf y ffaith y gallant fod yn fasnachol gyfrinachol, at ddibenion adran 123(7) o'r Ddeddf.
Mae Rhan VIII yn cynnwys y gofyniad i wahanol gategorïau o wybodaeth gael eu cynnwys yn y gofrestr gyhoeddus sydd i'w chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf.
Mae Rhan IX yn cynnwys gofyniad bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd yr egwyddor ragofalus i ystyriaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn. Term sy'n deillio o Erthygl 174 o'r Cytuniad i Sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd yw'r ymadrodd “precautionary principle” (“egwyddor ragofalus”). Mae rhaglith y Gyfarwyddeb yn datgan bod rhaid cymryd yr egwyddor i ystyriaeth wrth weithredu'r Gyfarwyddeb.
Mae Atodlen 1 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng neu farchnata uwchblanhigion a addaswyd yn enetig.
Mae Atodlen 2 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig heblaw am uwchblanhigion a addaswyd yn enetig.
Mae Atodlen 3 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig.
Mae Atodlen 4 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad asesu.
Mae Atodlen 5 yn pennu'r Rheoliadau sy'n cael eu dirymu gan y rheoliadau hyn.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn ac mae ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gangen Iechyd Planhigion a Biotechnoleg, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.