(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud addasiadau i ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 (“y Ddeddf”) wedi'u pennu ar gyfer cyfnod trosiannol er mwyn hwyluso dwyn darpariaethau eraill o'r Ddeddf i rym ar ddyddiad cynharach nag y caiff y darpariaethau eraill hynny o'r Ddeddf eu dwyn i rym. Maent hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â'r Ddeddf. Yn benodol—
1. Caiff pwerau ymyrryd mewn ysgolion sy'n peri pryder a ddiwygiwyd gan y Ddeddf eu cymhwyso mewn perthynas ag adroddiadau arolygwyr a wnaed cyn 19 Rhagfyr 2002, sef y dyddiad pan ddygir y darpariaethau newydd i rym (rheoliad 3).
2. Gwneir diwygiad i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gywiro croesgyfeiriad anghywir yn y diwygiad a wnaed gan adran 41(2) o'r Ddeddf (rheoliad 4).
3. Addesir Rhan 7 o'r Ddeddf (Y Cwricwlwm yng Nghymru), y dygir rhannau ohoni i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (“y Gorchymyn Cychwyn”), tra'n disgwyl i ddarpariaethau'r Rhan honno sy'n ymwneud â'r cyfnod sylfaen newydd, ysgolion meithrin a gynhelir ac addysg feithrin gael eu dwyn i rym (rheoliad 5(1) i (5)). Gwneir diwygiad hefyd i Ddeddf Addysg 1996 er mwyn cyfeirio at y darpariaethau cwricwlwm newydd yn y Ddeddf (rheoliad 5(6)).
4. Addesir y diffiniad newydd o “qualified teacher” yn adran 132 o'r Ddeddf (sy'n cyfeirio at “a person who satisfies requirements specified in regulations”) a ddygir i rym gan y Gorchymyn Cychwyn tra'n disgwyl i'r rheoliadau o dan yr adran honno ddod i rym (rheoliad 6(1))).
5. Datgymhwysir adran 122(3)(d) o'r Ddeddf (diffiniad o “school teacher” at ddibenion yr adran honno), sy'n cyfeirio at berson sy'n cyflawni gwaith o'r math a bennir gan reoliadau o dan adran 133(1) ac a ddygir i rym gan Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol (ar gyfer Cymru a Lloegr), tra'n disgwyl i'r rheoliadau hynny ddod i rym (rheoliad 6(2)).
6. Addesir cyfeiriad at gofrestru dros dro gyda'r Cyngor Addysgu Cyffredinol yn adran 134 o'r Ddeddf (gofyniad i gofrestru gyda'r Cyngor Addysgu Cyffredinol) tra'n disgwyl dwyn darpariaethau Atodlen 12 i'r Ddeddf sy'n ymwneud â chofrestru dros dro o'r fath i rym (rheoliad 7(1)). Mewn modd tebyg addesir diwygiad canlyniadol yn Atodlen 21 i'r Ddeddf honno a ddygir i rym gan y Gorchymyn Cychwyn hwnnw sy'n cyfeirio at adran 134 o'r Ddeddf tra'n disgwyl i reoliadau o dan yr adran honno ddod i rym (rheoliad 7(2)).
7. Gwneir diwygiad i Ddeddf yr Heddlu 1997 er mwyn cyfeirio'n gywir at Ddeddf Plant 1989 (rheoliad 8).