Rheoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd)(Cymru) 2002
Enwi, dehongli, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd)(Cymru) 2002.
(2)
Yn y rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd yn briodol sy'n arfer pwer mynediad a roddir gan adran 87(5) o Ddeddf 1989; ac
ystyr “ysgol neu goleg perthnasol” (“relevant school or college”) yw ysgol neu goleg sy'n darparu llety ar gyfer unrhyw blentyn ac y mae adran 87(1) o Ddeddf 1989 yn gymwys iddo.
(3)
Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(4)
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2003.
Arolygu'r Tir ac Adeiladau2.
(1)
Caiff person awdurdodedig arolygu unrhyw dir ac adeiladau, neu ran o unrhyw dir ac adeiladau, sydd, neu sydd i fod, yn dir ac adeiladau ysgol neu goleg perthnasol.
(2)
Caiff person awdurdodedig gyflawni unrhyw archwiliad o'r fath i gyflwr a rheolaeth y tir a'r adeiladau a arolygir o dan baragraff (1) y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad.
(3)
Arolygu cofnodion3.
(1)
Caiff person awdurdodedig arolygu unrhyw gofnodion ysgol neu goleg perthnasol sy'n berthnasol i gyflawni dyletswydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 87(3) o Ddeddf 1989.
(2)
Mae'r pŵ er ym mharagraff (1) yn cynnwys pŵ er i'w gwneud yn ofynnol i'r person perthnasol ddangos unrhyw gofnodion, ym mha le bynnag y cedwir hwy, i'w harolygu ar y tir neu yn yr adeiladau.
(3)
Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gofnod yn cynnwys cofnod a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur.
Arolygu Plant4.
(1)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, caiff person awdurdodedig, at ddibenion galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 87(3) o Ddeddf 1989, gyflawni arolygiad ar blant y darperir llety iddynt gan ysgol neu goleg perthnasol.
(2)
Caiff arolygiad gynnwys archwiliad corfforol o blentyn gan y person awdurdodedig, ar yr amod—
(a)
bod y person awdurdodedig yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu'n nyrs gofrestredig;
(b)
bod gan y person awdurdodedig achos rhesymol dros gredu nad yw lles y plentyn o dan sylw yn cael ei ddiogelu'n ddigonol neu'n cael ei hybu'n ddigonol gan y person perthnasol2; ac
(c)
bod y plentyn yn cydsynio â'r archwiliad, neu nid yw'n alluog i roi cydsyniad.
(3)
Rhaid i archwiliad o dan baragraff (2) ddigwydd yn breifat.
(4)
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff person awdurdodedig gynnal cyfweliad yn breifat, neu ymorol am sylwadau ysgrifenedig neu ar lafar gan unrhyw blentyn neu grŵp o blant sy'n cydsynio i gael eu cyfweld neu fynegi eu sylwadau, yn ôl y digwydd.
(5)
Ni chaiff person awdurdodedig gyfweld unrhyw blentyn unigol yn breifat oni bai—
(a)
bod y plentyn o dan sylw wedi gofyn yn benodol am gael ei gyfweld ar ei ben ei hun ac yn breifat; neu
(b)
bod y person awdurdodedig yn barnu ar sail resymol bod cyfweliad o'r fath yn angenrheidiol i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 87(3) o Ddeddf 1989.
(6)
Ni chaiff unrhyw arolygiad ei gyflawni o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â'r canlynol—
(a)
unrhyw blentyn i aelod o staff ysgol neu goleg perthnasol; neu
(b)
unrhyw blentyn arall sy'n byw gydag aelod o staff o'r fath fel aelod o'i aelwyd,
onid yw'r plentyn hefyd yn ddisgybl neu'n fyfyriwr yn yr ysgol neu'r coleg.
Arolygiad — cyffredinol5.
Caiff person awdurdodedig wrth gyflawni unrhyw arolygiad o dan y Rheoliadau hyn—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu ar ei gyfer y cyfleusterau hynny a'r cymorth hwnnw ynghylch materion sydd o fewn rheolaeth y person hwnnw ac sy'n angenrheidiol i alluogi'r person awdurdodedig i arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)
cymryd y cyfryw ffotograffau, mesuriadau a chofnodion y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i alluogi arfer ei bwerau.
Ffi Blynyddol6.
(1)
(2)
Yn y paragraff o dan y pennawd “Arrangement of Regulations”, ychwaneger y llinell ganlynol ar y diwedd “10. Annual fee — boarding schools and further education colleges”.
(3)
Yn rheoliad 2—
(a)
yn y diffiniad o “annual fee”, ar ôl y geiriau “section 16(3) of the Act, or” ychwaneger “section 87D(2) of, or” a dilëer yr ymadrodd “(as the case may be)” ;
(b)
yn y diffiniad o “approved place”, ar ôl yr ymadrodd “for the use of a service user at night;” ychwaneger “or, in relation to a boarding school, residential special school or further education college, a bed provided for the use of a child accommodated at the school or college;”;
(c)
““boarding school” means a school (not being a residential special school or a school which is a children’s home or a care home) providing accommodation for any child, and “school” has the meaning given to it in section 105(1) of the 1989 Act4;”;
(ch)
““further education college” means a college as defined in section 87(10) of the 1989 Act which provides accommodation for any child;”;
(d)
““residential special school” means—
- (i)
a special school in accordance with sections 337 and 347(1) of the Education Act 19965; or- (ii)
an independent school not falling within (i) which has as its sole or main purpose the provision of places, with the consent of the National Assembly for Wales, for pupils with special educational needs or who are in public care,
and which provides accommodation for any child;”.
(4)
“ Annual fee — boarding schools and colleges10.
(1)
The annual fee which shall be paid by the relevant person6 in respect of a boarding school, residential special school or further education college shall be the amount in column (2) of the table below added to the sum of the amounts in columns (3) and (4) multiplied in each case by the number of approved places specified in respect of that column.
Column 1
Column 2
Column 3
Column 4
Type of school or college
Flat rate
Rate payable for each approved place from the 4th to the 29th place inclusive
Rate payable for the 30th and each subsequent approved place
Boarding school and further education college
£250
£15
£7.50
Residential Special Schools
£400
£40
£20
(2)
In the case of a school or college which is providing accommodation for any child on 1st February 2003, the annual fee shall first be payable on 1st September 2003 and, in all other cases, on the date residential accommodation is first provided.
(3)
The annual fee shall be payable every year on the anniversary of the date on which it was first payable.”.
Diddymu7.
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi pwerau ychwanegol y rhai sy'n arolygu darpariaeth les ysgolion a cholegau preswyl, o dan adran 87(6) o'r Ddeddf Plant.
Mae'r rheoliadau hefyd yn cyflwyno, drwy ddiwygiad i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd)(Cymru) 2002, ffi blynyddol sy'n daladwy gan ysgolion a cholegau.