<Legislation xmlns="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2002/3159" NumberOfProvisions="21" xsi:schemaLocation="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation http://www.legislation.gov.uk/schema/legislation.xsd" SchemaVersion="1.0" xml:lang="cy"><ukm:Metadata xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata">
					<dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Cymru) 2002</dc:title><dc:subject>European Union</dc:subject><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2014-06-19</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">AMAETHYDDIAETH, CYMRU;Y POLISI AMAETHYDDOL CYFFREDIN</dc:subject>
					<dc:description>Mae'r Rheoliadau hyn, yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002. Maent yn darparu ar gyfer parhau gwaith gweinyddu, gweithredu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91 ar gynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn organig a mynegiadau sy'n cyfeirio at hynny ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd, a Rheoliadau'r Comisiwn sy'n ategu'r Rheoliad hwnnw. Ceir rhestr lawn o'r diwygiadau i Reoliad 2092/91 yn Atodlen 2 a rhestr lawn o Reoliadau perthnasol y Comisiwn yn Atodlen 1. Mae Rheoliad 2092/91 bellach wedi'i ddiwygio'n benodol gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1804/1999, sy'n dod â gwaith cynhyrchu da byw o fewn cwmpas Rheoliad 2092/91. Er bod Rheoliad 1804/1999 wedi dod i rym ar 24 Awst 1999, dim ond y gwaharddiadau ar ddefnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a'u deilliadau a nodir yn y Rheoliad hwnnw sy'n gymwys o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae gweddill y Rheoliad hwnnw yn gymwys o 24 Awst 2000 ymlaen (mae Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw yn cyfeirio at hyn) ac mae'n gymwys yn uniongyrchol.</dc:description>
					<atom:link rel="self" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.xml" type="application/xml"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/resources" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/resources/welsh" title="More Resources"/>
					
					
					
					<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/act" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/made/welsh" title="whole act"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/introduction" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/introduction/made/welsh" title="introduction"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/signature" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/signature/made/welsh" title="signature"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/note" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh" title="note"/>
					<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/body" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/body/made/welsh" title="body"/>
					<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/schedules" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/schedules/made/welsh" title="schedules"/>
					
										
					
					
					<atom:link rel="alternate" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made"/><atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/contents/made" title="Table of Contents"/>
					<atom:link rel="alternate" type="application/rdf+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.rdf" title="RDF/XML"/><atom:link rel="alternate" type="application/akn+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.akn" title="AKN"/><atom:link rel="alternate" type="application/xhtml+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.xht" title="HTML snippet"/><atom:link rel="alternate" type="text/html" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.htm" title="Website (XHTML) Default View"/><atom:link rel="alternate" type="text/csv" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.csv" title="CSV"/><atom:link rel="alternate" type="application/pdf" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.pdf" title="PDF"/>
					<atom:link rel="alternate" type="application/akn+xhtml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh/data.html" title="HTML5 snippet"/>

					
					<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="cy" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/contents/made/welsh" title="Table of Contents"/>
					
					<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/hasVersion" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note" title="current" hreflang="en"/>
					
					<atom:link rel="up" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/made/welsh" title="Entire legislation"/><atom:link rel="prev" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/schedule/4/made/welsh" title="Schedule; Schedule 4"/><atom:link rel="prevInForce" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/schedule/4/made/welsh" title="Schedule; Schedule 4"/>
					<ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification>
<ukm:DocumentCategory Value="secondary"/>
<ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/>
<ukm:DocumentStatus Value="final"/>
<ukm:DocumentMinorType Value="regulation"/>
</ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2002"/><ukm:Number Value="3159"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="294"/><ukm:Made Date="2002-12-17"/><ukm:ComingIntoForce>
<ukm:DateTime Date="2002-12-31"/>
</ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="0110906071"/><ukm:UnappliedEffects><ukm:UnappliedEffect AffectedProvisions="Regulations" AffectedURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2002/3159" AffectingURI="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2004/1604" URI="http://www.legislation.gov.uk/id/effect/uksi-2004-1604-dx3ddfd2-10" RequiresWelshApplied="true" AffectedNumber="3159" Row="10" AffectedClass="WelshStatutoryInstrument" AppliedModified="2019-09-24T13:27:55.303985+01:00" AffectingEffectsExtent="E+W+S+N.I." AffectingClass="UnitedKingdomStatutoryInstrument" Created="2012-10-17T05:37:14Z" Modified="2012-10-17T05:37:14Z" RequiresApplied="true" AffectingProvisions="Sch. 3" AffectingYear="2004" AffectedYear="2002" AffectingNumber="1604" Type="revoked" EffectId="key-08a898252796037e9a401ab785a0e773"><ukm:AffectedTitle>The Organic Products (Wales) Regulations 2002</ukm:AffectedTitle><ukm:AffectedTitle xml:lang="cy">Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Cymru) 2002</ukm:AffectedTitle><ukm:AffectedProvisions>Regulations</ukm:AffectedProvisions><ukm:AffectingTitle>The Organic Products Regulations 2004</ukm:AffectingTitle><ukm:AffectingProvisions><ukm:Section Ref="schedule-3" URI="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2004/1604/schedule/3">Sch. 3</ukm:Section></ukm:AffectingProvisions><ukm:CommencementAuthority><ukm:Section Ref="regulation-1" URI="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2004/1604/regulation/1">reg. 1</ukm:Section></ukm:CommencementAuthority><ukm:InForceDates><ukm:InForce Applied="true" WelshApplied="false" Date="2004-07-19" Qualification="wholly in force"/></ukm:InForceDates></ukm:UnappliedEffect></ukm:UnappliedEffects></ukm:SecondaryMetadata>
					

                    
									 
					<ukm:Alternatives><ukm:Alternative Date="2008-11-26" URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/pdfs/wsi_20023159_mi.pdf" Title="Print Version Mixed Language" TitleWelsh="Fersiwn ddwyieithog wedi ei hargraffu" Size="61495" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives>
					
					<ukm:Statistics>
									<ukm:TotalParagraphs Value="22"/>
									<ukm:BodyParagraphs Value="15"/>
									<ukm:ScheduleParagraphs Value="7"/>
									<ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/>
									<ukm:TotalImages Value="0"/>
								</ukm:Statistics>
				</ukm:Metadata><Secondary><ExplanatoryNotes DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3159/note/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2002/3159/note">
<Comment>
<Para>
<Text>(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)</Text>
</Para>
</Comment>
<P>
<Text>Mae'r Rheoliadau hyn, yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002. Maent yn darparu ar gyfer parhau gwaith gweinyddu, gweithredu a gorfodi Rheoliad y Cyngor <Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/european/regulation/1991/2092" id="c00044" Class="EuropeanEconomicCommunityRegulation" Year="1991" Number="2092">(EEC) Rhif 2092/91</Citation> ar gynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn organig a mynegiadau sy'n cyfeirio at hynny ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd, a Rheoliadau'r Comisiwn sy'n ategu'r Rheoliad hwnnw. Ceir rhestr lawn o'r diwygiadau i Reoliad 2092/91 yn Atodlen 2 a rhestr lawn o Reoliadau perthnasol y Comisiwn yn Atodlen 1. Mae Rheoliad 2092/91 bellach wedi'i ddiwygio'n benodol gan Reoliad y Cyngor <Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/european/regulation/1999/1804" id="c00045" Class="EuropeanUnionRegulation" Year="1999" Number="1804">(EC) Rhif 1804/1999</Citation>, sy'n dod â gwaith cynhyrchu da byw o fewn cwmpas Rheoliad 2092/91. Er bod Rheoliad 1804/1999 wedi dod i rym ar 24 Awst 1999, dim ond y gwaharddiadau ar ddefnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a'u deilliadau a nodir yn y Rheoliad hwnnw sy'n gymwys o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae gweddill y Rheoliad hwnnw yn gymwys o 24 Awst 2000 ymlaen (mae Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw yn cyfeirio at hyn) ac mae'n gymwys yn uniongyrchol.</Text>
</P>
<P>
<Text>Mae rheoliad 3 yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod arolygu sy'n gyfrifol am y system arolygu o dan Reoliad 2092/91, fel y'i diwygiwyd, (“Rheoliad y Cyngor”) a chymeradwyo cyrff arolygu preifat. Mae cynhyrchwyr, mewnforwyr a'r rhai sy'n prosesu cynhyrchion organig yr ymdrinnir â hwy gan Reoliad y Cyngor yn ddarostyngedig i'r system arolygu hon. At ddibenion gorfodi Erthyglau 9(9) a 10(3) o Reoliad y Cyngor (afreoleidd-dra a thorri'r rheolau ar labelu a chynhyrchu cynhyrchion organig), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu'r corff arolygu preifat fel y bo'n briodol, roi i'r awdurdod lleol perthnasol yr wybodaeth y mae ar yr awdurdod lleol ei hangen i orfodi'r darpariaethau labelu organig.</Text>
</P>
<P>
<Text>Mae'r Rheoliadau yn gosod gofyniad labelu ychwanegol mewn perthynas â chynhyrchion organig yn unol ag Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor (rheoliad 4). Mae'r rhifau cod y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 wedi'u cynnwys yn yr <Abbreviation Expansion="Y Deyrnas Unedig Cofrestr Safonau Bwyd Organig">UKROFS</Abbreviation> <Emphasis>Standards for Organic Food Production</Emphasis>, a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (“<Abbreviation Expansion="Adran dros Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig">DEFRA</Abbreviation>”). Mae manylion y rhifau cod ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth Is-adran yr Amgylchedd Gwledig a Morol, Cangen D, DEFRA, Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR (ffôn 020-7-238-5605; rhif ffacs 020-7-238-6148).</Text>
</P>
<P>
<Text>Bydd pob awdurdod lleol yn gorfodi o fewn ei ardal reoliad 4 a darpariaethau Rheoliad y Cyngor a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaethau atodol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honNo. </Text>
</P>
<P>
<Text>Yn achos da byw a chynhyrchion da byw ac fel y caniateir gan Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor <Citation URI="http://www.legislation.gov.uk/european/regulation/1999/1804" id="c00046" Class="EuropeanUnionRegulation" Year="1999" Number="1804">(EC) Rhif 1804/1999</Citation>, unrhyw safonau ychwanegol ar gyfer da byw a chynhyrchion da byw organig ymysg y rhai a nodir (sydd i raddau helaeth yn dyblygu safonau'r GE) yn Safonau UKROFS ar gyfer cynhyrchu Bwyd Organig, Argraffiad Chwefror 2002, a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (gellir archwilio copi ohono, yn ystod oriau arferol swyddfa, yn y cyfeiriad a roddir uchod) (rheoliad 6(1)).</Text>
</P>
<P><Text>Mae'r Rheoliadau hefyd—</Text>
<P3>
<Pnumber>a</Pnumber>
<P3para>
<Text>yn darparu ar gyfer talu cyfraniadau at dreuliau arolygu a chyfle i ddefnyddio'r system arolygu (rheoliad 5);</Text>
</P3para>
</P3>
<P3>
<Pnumber>b</Pnumber>
<P3para>
<Text>yn darparu ar gyfer tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6(2)) ac yn cymhwyso rhagdybiaethau ynglŷn â gwerthu bwydydd a bwyta'r bwydydd hynny gan bobl (rheoliad 6(3) a (4));</Text>
</P3para>
</P3>
<P3>
<Pnumber>c</Pnumber>
<P3para>
<Text>yn cynnwys pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol (rheoliad 10) a darpariaethau atodol ar orfodi (rheoliadau 7 i 9, ac 11 i 13) ac yn amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 14);</Text>
</P3para>
</P3>
<P3>
<Pnumber>ch</Pnumber>
<P3para>
<Text>yn diddymu'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 4, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol (rheoliad 15).</Text>
</P3para>
</P3>
</P>
</ExplanatoryNotes></Secondary></Legislation>