Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002. Maent yn darparu ar gyfer parhau gwaith gweinyddu, gweithredu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91 ar gynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn organig a mynegiadau sy'n cyfeirio at hynny ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd, a Rheoliadau'r Comisiwn sy'n ategu'r Rheoliad hwnnw. Ceir rhestr lawn o'r diwygiadau i Reoliad 2092/91 yn Atodlen 2 a rhestr lawn o Reoliadau perthnasol y Comisiwn yn Atodlen 1. Mae Rheoliad 2092/91 bellach wedi'i ddiwygio'n benodol gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1804/1999, sy'n dod â gwaith cynhyrchu da byw o fewn cwmpas Rheoliad 2092/91. Er bod Rheoliad 1804/1999 wedi dod i rym ar 24 Awst 1999, dim ond y gwaharddiadau ar ddefnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a'u deilliadau a nodir yn y Rheoliad hwnnw sy'n gymwys o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae gweddill y Rheoliad hwnnw yn gymwys o 24 Awst 2000 ymlaen (mae Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw yn cyfeirio at hyn) ac mae'n gymwys yn uniongyrchol.

Mae rheoliad 3 yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod arolygu sy'n gyfrifol am y system arolygu o dan Reoliad 2092/91, fel y'i diwygiwyd, (“Rheoliad y Cyngor”) a chymeradwyo cyrff arolygu preifat. Mae cynhyrchwyr, mewnforwyr a'r rhai sy'n prosesu cynhyrchion organig yr ymdrinnir â hwy gan Reoliad y Cyngor yn ddarostyngedig i'r system arolygu hon. At ddibenion gorfodi Erthyglau 9(9) a 10(3) o Reoliad y Cyngor (afreoleidd-dra a thorri'r rheolau ar labelu a chynhyrchu cynhyrchion organig), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu'r corff arolygu preifat fel y bo'n briodol, roi i'r awdurdod lleol perthnasol yr wybodaeth y mae ar yr awdurdod lleol ei hangen i orfodi'r darpariaethau labelu organig.

Mae'r Rheoliadau yn gosod gofyniad labelu ychwanegol mewn perthynas â chynhyrchion organig yn unol ag Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor (rheoliad 4). Mae'r rhifau cod y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 wedi'u cynnwys yn yr UKROFS Standards for Organic Food Production, a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (“DEFRA”). Mae manylion y rhifau cod ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth Is-adran yr Amgylchedd Gwledig a Morol, Cangen D, DEFRA, Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR (ffôn 020-7-238-5605; rhif ffacs 020-7-238-6148).

Bydd pob awdurdod lleol yn gorfodi o fewn ei ardal reoliad 4 a darpariaethau Rheoliad y Cyngor a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaethau atodol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honNo.

Yn achos da byw a chynhyrchion da byw ac fel y caniateir gan Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1804/1999, unrhyw safonau ychwanegol ar gyfer da byw a chynhyrchion da byw organig ymysg y rhai a nodir (sydd i raddau helaeth yn dyblygu safonau'r GE) yn Safonau UKROFS ar gyfer cynhyrchu Bwyd Organig, Argraffiad Chwefror 2002, a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (gellir archwilio copi ohono, yn ystod oriau arferol swyddfa, yn y cyfeiriad a roddir uchod) (rheoliad 6(1)).

Mae'r Rheoliadau hefyd—

(a)yn darparu ar gyfer talu cyfraniadau at dreuliau arolygu a chyfle i ddefnyddio'r system arolygu (rheoliad 5);

(b)yn darparu ar gyfer tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6(2)) ac yn cymhwyso rhagdybiaethau ynglŷn â gwerthu bwydydd a bwyta'r bwydydd hynny gan bobl (rheoliad 6(3) a (4));

(c)yn cynnwys pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol (rheoliad 10) a darpariaethau atodol ar orfodi (rheoliadau 7 i 9, ac 11 i 13) ac yn amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 14);

(ch)yn diddymu'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 4, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol (rheoliad 15).